Cyflwyniad
Arbenigwyr gwybodaeth a thechnoleg yw Technegwyr y We ac mae eu
ffocws ar ddatblygu gwefannau. Fel arfer bydd y swydd yn
golygu gweithio fel rhan o dîm dylunio a chyfathrebu.
Amgylchedd Gwaith
Fel rheol bydd y gwaith yn digwydd mewn swyddfa.
Gweithgareddau Dyddiol
Gallai'r dyletswyddau gynnwys:
- creu syniadau dylunio a darparu datrysiadau arloesol i'r holl
gleientiaid;
- creu a chynnal dyluniadau hygyrch, dwyieithog, gwreiddiol,
atyniadol, manwl a hawdd eu defnyddio;
- cynhyrchu deunyddiau hyrwyddo ar gyfer y cyngor, o'r cam
cysyniadol hyd at greu gwaith celf. Gallai hyn gynnwys posteri,
taflenni, adroddiadau, llyfrynnau, baneri, arddangosfeydd, deunydd
fformat mawr a nwyddau pwynt gwerthu, gyda'r we a chyfryngau
eraill;
- derbyn brîff gan gleientiaid, gan herio a datblygu pob brîff
mewn modd adeiladol;
- rheoli eich llwyth gwaith eich hun a blaenoriaethu llwyth
gwaith er mwyn cwrdd â dyddiad cau'r cleient;
- cynnal lefel o wybodaeth gyfredol am systemau gweithredu a
meddalwedd ddiweddaraf safonol y diwydiant (e.e. Dreamweaver,
Flash, Quark Xpress, Adobe Illustrator ac Adobe Photoshop. Mac OS
X) a chwilio am becynnau meddalwedd eraill posibl;
- uchafu potensial creadigol meddalwedd drwy fynd ati'n gyson i
ddysgu a datblygu sgiliau a thechnegau newydd;
- sicrhau bod cofnodion am gynnydd pob gwaith dylunio'n cael eu
cadw'n gyfredol a'u cwblhau. Sicrhau bod pob gwaith papur yn cael
ei gadw gyda'r ffeiliau, e.e. proflenni terfynol, dyfynbrisiau ac
archebion yn ymwneud â'r prosiect fel bod modd eu ffeilio wedi i'r
prosiect gael ei gwblhau;
- sicrhau bod prosiectau'n cydymffurfio â pholisïau a chanllawiau
statudol a mewnol, yn enwedig y rhai canlynol: Safonau dylunio a
pholisïau Corfforaethol a rai'r sefydliadau Partneriaeth, Polisi
Iaith Gymraeg, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a rhestr
wirio'r RNIB.
Sgiliau a Diddordebau
Bydd gan Dechnegydd y We:
- ymwybyddiaeth weledol gryf a llygad fanwl;
- creadigrwydd;
- sgiliau cyfathrebu a chyflwyno;
- gallu i weithio mewn amgylchedd Apple Mac neu PC;
- sgiliau rhyngbersonol;
- llythrennedd TGCh;
- gallu i reoli prosiectau;
- sgiliau dylanwadu a negodi;
- gallu i gynhyrchu canlyniadau gwirioneddol a manwl o fewn
terfynnau amser llym;
- gwybodaeth am ieithoedd codio'r we a ddefnyddir ar gyfer
cyflwyno a gosod cyfryngau newydd a'r rhyngrwyd.
Gofynion Mynediad
Efallai y bydd angen i Dechnegwyr y We gael cymwysterau addysgol
sylfaenol. Efallai hefyd y byddant wedi graddio mewn dylunio
graffeg ac efallai, yn ogystal, y bydd ganddynt gymwysterau penodol
mewn dylunio amlgyfrwng. Mae nifer o golegau yn y DU yn
cynnig cyrsiau perthnasol ar bob lefel.
Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Gallai Technegydd y We symud ymlaen o fewn dwy i dair blynedd wrth
iddo ddatblygu enw da a rhwydwaith o gysylltiadau. Yn
gyffredinol, gall datblygiad gyrfa fod yn ddibynnol ar symud swyddi
yn aml er mwyn ehangu profiadau a datblygu portffolio. Bydd y
cyfleoedd yn amrywio yn ddibynnol ar faint y sefydliad.
Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
Big Ambition Wales www.bigambitionwales.com
e-skills UK www.e-skills.com
The Chartered Institute for IT www.bcs.org
The UK Web Design Association (UKWDA) www.ukwda.org
Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell
yrfaoedd eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/
Related Links