Beth yw llywodraeth leol?
Mae byd llywodraeth leol yn cyflawni rôl hanfodol ynglŷn â
chynrychioli buddiannau dinasyddion a chynnal a chomisiynu
gwasanaethau lleol. Bydd llywodraeth y wlad yn dirprwyo
pwerau i'r lefel isaf briodol i gryfhau llywodraeth leol eto
fyth. Yr awdurdodau lleol fydd yn cyflawni'r brif rôl yn
hynny o beth trwy ddefnyddio'r pwerau sydd wedi'u dirprwyo iddyn
nhw a dirprwyo pwerau ymhellach i fudiadau ar lawr gwlad lle bo
modd.
At hynny, bydd rôl hanfodol i'r awdurdodau lleol ynglŷn â gofalu
bod gwasanaethau effeithlon ar gael i'w cymunedau bob dydd, cynnig
gwerth eu harian i'r trigolion a rhoi'r hyn mae pobl yn ei
fynnu. I'r perwyl hwn, bydd byd llywodraeth leol yn fwy
tryloyw ac atebol i'r dinasyddion. Bydd yn cydweithio'n agos
a grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol.
A chithau'n swyddog llywodraeth leol, byddech chi'n gyfrifol am
roi polisïau'r cyngor ar waith. Byddech chi'n gofalu bod
gwasanaethau lleol yn dda, hefyd. Os ydych chi am weithio
mewn swyddfa yn eich bro chi, efallai mai dyma faes perffaith i
chi.
Rhaid i swyddog llywodraeth leol allu trin a thrafod pobl o sawl
cefndir. Mae angen medrau da o ran trafod telerau a threfnu
gwaith, hefyd.
Bydd y medrau a'r profiad mae'u eu hangen ar bob swyddog yn
amrywio yn ôl ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau. Felly,
dylech chi ddarllen meini prawf pob swydd yn ofalus.
Y gwaith
Gallech chi weithio mewn amryw adrannau a rolau megis trefnu
gwasanaethau'r cyngor mewn adran bolisïau neu gynnig gwasanaethau
mewn maes megis addysg neu faterion tai. Ymhlith y swyddi ar
y lefel hon mae swyddog cydraddoldeb ac amrywioldeb, swyddog
ariannu allanol, swyddog polisïau a swyddog gwasanaethau
democrataidd. Byddai'ch gorchwylion beunyddiol yn amrywio yn
ôl eich adran a'ch cyfrifoldebau. Er enghraifft:
- rheoli a chloriannu prosiectau;
- llunio adroddiadau a phapurau hysbysu;
- trin a thrafod ymholiadau a rhoi cynghorion;
- cyflwyno gwybodaeth mewn cyfarfodydd;
- goruchwylio gwaith gweinyddol a rheoli staff
clercaidd;
- cadw cofnodion;
- paratoi a rheoli cytundebau;
- cydweithio ag asiantaethau eraill;
- rheoli cyllidebau ac arian.
Dolenni perthnasol