Polisi Preifatrwydd
Rydyn ni am ddiogelu preifatrwydd y rhai sy'n defnyddio ein
gwefan ni. Mae'r polisi hwn yn esbonio sut y byddwn ni'n
ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Mae'n bosibl y byddwn ni'n
casglu, yn cadw ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol fel a
ganlyn:
- gwybodaeth am eich cyfrifiadur, a phryd a sut y defnyddioch
chi'r wefan hon, (gan gynnwys eich côd adnabod personol, ble rydych
chi, natur eich porydd a'ch sustem weithredu, ffynhonnell gyfeirio,
faint o amser roeddech chi'n defnyddio'r wefan, pa rannau ohoni
weloch chi a pha dudalennau ddarllenoch chi);
- gwybodaeth am unrhyw drafodion rhyngoch chi a ni neu ynglŷn â'r
wefan hon gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw nwyddau neu wasanaethau
brynoch chi.
Mae cwci yn ffeil ac ynddi gôd adnabod (cyfres o lythrennau a
rhifau) y bydd gweinydd yn ei hanfon at borydd ar y we. Bydd
y porydd yn cadw'r ffeil honno wedyn. Anfonir y côd adnabod
yn ôl at y gweinydd bob tro y bydd porydd yn gofyn iddo am
dudalen.
Bydd hynny'n galluogi'r gweinydd i adnabod a chanlyn y sawl sy'n
darllen y wefan. Mae'n bosibl y bydden ni'n defnyddio cwcis
fesul sesiwn a rhai parhaol fel ei gilydd ar ein gwefan ni.
Dilëir cwcis fesul sesiwn oddi ar eich cyfrifiadur ar ôl cau'ch
porydd, ond bydd eich cyfrifiadur yn cadw'r rhai parhaol oni
ddilëwch chi nhw (er y byddan nhw'n diflannu ar ôl dyddiad penodol,
beth bynnag).
Byddwn ni'n defnyddio cwcis fesul sesiwn i gadw golwg arnoch chi
wrth symud trwy'r wefan, cadw golwg ar gynnwys eich basged siopa,
atal twyllo a chryfhau diogelwch y wefan yn ogystal ag amryw
ddibenion eraill.
Byddwn ni'n defnyddio cwcis parhaol i alluogi ein gwefan i'ch
adnabod chi bob tro, cadw golwg ar eich hoff ffyrdd o ddefnyddio'r
wefan a rhai dibenion eraill. Rydyn ni'n defnyddio Google
Analytics i ddadansoddi'r modd mae pobl yn defnyddio'r wefan
hon.
Mae Google Analytics yn rhoi ystadegau a gwybodaeth arall am y
defnydd o'r wefan trwy gyfrwng cwcis y bydd cyfrifiaduron y
defnyddwyr yn eu cadw.