Cyflwyniad
 Mae rôl hanfodol i dechnoleg gwybodaeth ynglŷn â rhoi gwasanaethau
awdurdodau lleol yn effeithlon.  Mae bron pob un o adrannau'r
cyngor yn defnyddio cyfrifiaduron i gadw a chanfod gwybodaeth ar
gyfer gorchwylion megis rheoli tai'r cyngor, olrhain penderfyniadau
cynllunio, monitro polisïau amgylcheddol, rhoi taliadau a
chyfathrebu ag adrannau eraill.  Mae technegwyr TG yn hanfodol
i lunio a chynnal rhwydweithiau cyfrifiadurol cymhleth.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae technegwyr TG yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn trin a
thrafod cyfrifiaduron mewn swyddfeydd.  37 awr yw'r wythnos
safonol er y gallai fod angen gweithio yn ôl rhestr shifftiau (gan
gynnwys dros y Sul) fel y bydd cymorth technegol ar gael drwy'r
amser.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae technegwyr TG yn rhoi cymorth technegol i staff amryw adrannau
awdurdodau lleol - boed gymorth cyffredinol neu gymorth arbenigol
mewn meysydd penodol.  Dyma orchwylion nodweddiadol:
- gosod a chynnal rhwydweithiau gweinyddion a
chyfrifiaduron;
 
- gwerthuso meddalwedd newydd cyn ei chyflwyno i adrannau'r
cyngor;
 
- profi sustemau;
 
- datrys problemau technegol cyffredinol a gofyn i beirianwyr
perthnasol mewnol drin a thrafod problemau cymhleth;
 
- llunio gweithdrefnau TG ar gyfer adrannau;
 
- rhoi hyfforddiant am feddalwedd megis Word, Outlook ac
Excel;
 
- cynnal ymchwil i wasanaethau newydd a'u datblygu nhw ar gyfer
adrannau'r cyngor;
 
- trosglwyddo data rhwng cyfrifiaduron.
 
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- gallu trin a thrafod cyfrifiaduron a thechnoleg gwybodaeth yn
hyderus;
 
- bod yn gyfarwydd ag amrywiaeth helaeth o feddalwedd;
 
- gallu datrys problemau;
 
- gallu egluro materion technegol;
 
- bod yn gyfarwydd ag amryw sustemau gweithredol ac ieithoedd
cyfrifiadurol.
 
Meini prawf derbyn
 Yn aml, bydd cynghorau'n gofyn am brofiad o waith TG.  At
hynny, gallai fod angen cymwysterau megis TGAU neu Safon
Uwch.  Bydd rhai cynghorau'n mynnu rhagor o gymwysterau megis
rhai Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg ym maes cyfrifiadura, Uwch
Ddiploma Genedlaethol, gradd mewn pwnc priodol neu Drwydded
Defnyddio Cyfrifiaduron Ewrop.  Gallai fod cyfle i astudio ar
gyfer cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol neu fwrw prentisiaeth
yn y maes hwn, hefyd.
  
 Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Ar ôl cael profiad a rhagor o gymwysterau, bydd sawl cyfle i gael
dyrchafiad i rolau uwch a goruchwyliol.  Efallai y bydd modd
symud i feysydd cysylltiedig eraill hefyd megis llunio gwefannau,
rhaglennu neu ddadansoddi sustemau.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Gwybodaeth am brentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
 Computeach www.computeach.co.uk
 Computer Weekly www.computerweekly.com
 Computing www.computing.co.uk
 E-skills UK www.e-skills.com
 Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk
 Cymdeithas Rheolwyr TG: www.socitm.gov.uk
 Sefydliad Breiniol TG: www.bcs.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/