Technegydd labordy

Cyflwyniad
Mae technegwyr labordy'r cynghorau'n gweithio mewn dau brif faes: addysg, lle maen nhw'n gweithio yn yr ysgolion a'r colegau, a diogelu'r cyhoedd, lle maen nhw'n cynorthwyo adrannau megis iechyd yr amgylchedd a safonau masnach.  Fe'u gelwir yn dechnegwyr gwyddoniaeth weithiau, hefyd.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r technegwyr yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser mewn labordy.  Gallai fod rhaid gwisgo dillad diogelu megis mwgwd, sbectol, menig ac oferôls.  37 awr yw'r wythnos safonol, er y gallai fod angen gweithio shifftiau (gan gynnwys dros y Sul) fel y bydd cymorth technegol ar gael drwy'r amser.

Gweithgareddau beunyddiol
Gall fod angen cyflawni amrywiaeth helaeth o orchwylion megis:

  • glanhau a thrwsio offer gwyddonol megis tiwbiau prawf a fflasgiau;
  • graddnodi dyfeisiau mesur electronig cymhleth;
  • monitro deunyddiau'r labordy ac archebu rhai newydd yn ôl yr angen;
  • trefnu, cynnal a monitro profion ac arbrofion;
  • dadansoddi samplau a dehongli'r canlyniadau;
  • cofnodi canlyniadau profion ac arbrofion ar gyfrifiadur;
  • cyflwyno canfyddiadau mewn adroddiadau swyddogol;
  • goruchwylio staff llai profiadol a rheoli'r labordy lle bo'n briodol i'r rôl.

At hynny, byddai'r rhai yn yr ysgolion yn ymwneud â'r canlynol:

  • gosod offer ar gyfer profion ac arbrofion cyn dosbarthiadau a'u datgymalu wedyn;
  • rhoi cynghorion technegol i athrawon a disgyblion.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • natur drefnus a medrau gwylio da;
  • gallu cofnodi canlyniadau profion ac arbrofion yn gywir ac yn drylwyr;
  • deall gofynion iechyd a diogelwch megis rheolau trin a thrafod deunyddiau peryglus (asid, cemegion eraill ac ati) yn ddiogel;
  • gallu ymaddasu yn ôl technolegau a dulliau newydd;
  • medrau cyfathrebu da;
  • gallu trin a thrafod TGCh.

Meini prawf derbyn
Mae angen o leiaf bedair TGAU (A*-C) neu gymhwyster cyfwerth.  Gallai profiad gwyddonol neu dechnegol fod yn well yn aml, fodd bynnag.  Dyma gymwysterau perthnasol eraill:

  • tystysgrifau a diplomâu Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg mewn pwnc megis gwyddoniaeth;
  • cymwysterau Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg;
  • cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol mewn pwnc megis technegydd labordy ysgol neu waith labordy a gweithgareddau technegol cysylltiedig.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Ar ôl cael profiad a rhagor o gymwysterau, mae modd i dechnegydd labordy fynd ymlaen i rolau dysgu, ymchwil a goruchwylio.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Gwyddoniaeth Prydain: www.britishscienceassociation.org
Cymdeithas Addysg Gwyddoniaeth: www.ase.org.uk/about-ase/technicians/
Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg: www.istonline.org.uk
Y Gymdeithas Frenhinol: www.royalsociety.org

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links