Dadansoddwr systemau a rhaglennwr

Cyflwyniad
Archwilio problemau a chynllunio ar gyfer eu datrys, cymeradwyo meddalwedd a systemau, a chyd-drefnu gwaith datblygu er mwyn ateb gofynion busnes a gofynion eraill, yw gwaith Dadansoddwr Systemau.  Mae felly'n gyfarwydd ag amryw byd o wahanol ieithoedd rhaglennu, systemau gweithredu a phlatfformau caledwedd gyfrifiadurol.  Am eu bod yn aml yn dehongli gofynion defnyddwyr yn nhermau anghenion technegol, dadansoddwyr systemau yw'r ddolen gyswllt rhwng gwerthwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes technoleg gwybodaeth.  Byddant hefyd yn gyfrifol weithiau am ddatblygu gwaith dadansoddi costau ac am ddylunio ac amserlenni goblygiad.  Rhywun sy'n ysgrifennu ac yn diwygio meddalwedd gyfrifiadurol yw Rhaglennwr.  Mae tua 12,000 o ddadansoddwyr a rhaglenwyr cyfrifiadurol yn gweithio mewn llywodraeth leol ym Mhrydain heddiw.

Amgylchedd Gwaith
Bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud mewn swyddfa, ond bydd angen teithio ryw ychydig hefyd er mwyn cyfarfod â chwsmeriaid ac ymgynghorwyr allanol neu werthwyr.

Gweithgareddau Dyddiol
Bydd y gwaith o ddadansoddi a datblygu systemau fel arfer yn cael ei gynnal fesul prosiect.  Bydd systemau cyfrifiadurol yn cefnogi pob math o wasanaethau sy'n amrywio o fesur a rheoli traffig i systemau rhestrau cyflogi.  Tasg gyntaf y dadansoddwr yw gosod meini prawf ar gyfer prosiect a chytuno ar amserlenni a chostau.  Bydd wedyn yn archwilio'r swyddogaeth sydd i gael ei gosod ar system gyfrifiadurol, yn fanwl.  Caiff system fras ei llunio a'i chynnig wedyn, o bosibl gan ddefnyddio offer meddalwedd i'w modelu.  Bydd y dadansoddwr yn pwyso a mesur p'un ai a fyddai'n well addasu'r systemau presennol ynteu datblygu rhaglen newydd sbon.  Yn ogystal â goruchwylio'r broses o osod system newydd, bydd y dadansoddwr hefyd yn gyfrifol am asesu ansawdd yn rheolaidd a hyfforddi staff yr adran ar gyfer gweithredu a rheoli'r system newydd.  Bydd rhaglenwyr yn gyfrifol am dri maes penodol:

  • cynnal a chadw'r systemau meddalwedd presennol; 
  • diwygio'r pecynnau masnachol presennol yn ôl anghenion yr adran; 
  • datblygu a ffurfweddu pecynnau meddalwedd er mwyn gallu dod i ben â thasgau penodol sy'n berthnasol i ofynion yr awdurdod lleol.

Sgiliau a Diddordebau
Dylai'r ymgeisydd fod yn olau ac yn fedrus iawn ym maes technoleg gwybodaeth a gallu cadw i fyny â maes sy'n newid o funud i funud.  Dylai allu cyfathrebu'n effeithiol ar bapur ac ar lafar ac ymwneud yn dda â phob math o bobl wahanol gan gynnwys aelodau etholedig, cydweithwyr yn y maes a staff cymorth.
Dylai fod yn barod i wrando ar gleientiaid er mwyn cael deall eu gofynion a busnes defnyddwyr.  Dylai allu gweithio fel rhan o dîm ac ar ei ben ei hun pan fo angen.  Dylai hefyd allu meddwl yn rhesymegol ac yn eglur a mwynhau datrys problemau.

Gofynion Derbyn
Er ei bod fel arfer yn well gan gynghorau recriwtio pobl brofiadol, bydd staff yn cael eu dyrchafu'r tu fewn i'r cyngor hefyd o bryd i'w gilydd.  Mae gradd arbenigol mewn cyfrifiadureg neu gymhwyster dadansoddi systemau ar gyfer graddedigion fel arfer yn ddigonol.  Mae Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Technoleg Gwybodaeth a chymwysterau cyfatebol yr Alban yn cynnwys lefelau 1-4. 

Astudiaethau cyfrifiadurol yw'r pwnc i'w astudio os ydych am gael cymhwyster o'r Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg neu Awdurdod Cymwysterau'r Alban.  Er mwyn astudio ar gyfer Diploma Cenedlaethol Uwch, bydd angen pedair TGAU/Gradd Safonol arnoch, a dylech hefyd fod wedi dilyn cwrs Safon Uwch/Gradd Uwch mewn dau o'r pynciau hynny ac ennill y cymhwyster mewn o leiaf un ohonynt.  Er mwyn astudio ar gyfer gradd, bydd angen o leiaf 5 TGAU/Gradd Safonol arnoch, a dylech fod wedi astudio ar gyfer tair Safon Uwch/Gradd Uwch a llwyddo mewn dwy ohonynt.  Mae'n gyffredin i ymgeiswyr aeddfed gael eu derbyn i'r alwedigaeth hon.

Rhagolygon a Chyfleoedd
Mae cyfle da i chi gael eich dyrchafu i swyddi uwch.  Gallech ddod yn rheolwr prosesu data, er enghraifft neu symud ymlaen i swydd reoli gyffredinol.
Gall rhaglenwyr ddod yn ddadansoddwyr  systemau.  Am fod mwy o systemau cyfrifiadurol yn cael eu gosod mewn cynghorau ar hyd yr amser, y mae'n bosibl hefyd y bydd mwy o alw am ddadansoddwyr.  Serch hynny, cewch fod yn weddol sicr y bydd galw am raglenwyr bob amser.  Cewch fwy o wybodaeth am yrfaoedd rhaglennu cyfrifiadurol drwy fynd i wefan Computeach.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cymdeithas Rheoli TGaCh www.socitm.gov.uk
e-sgiliau'r D.U www.e-skills.com
Sefydliad Rheoli Systemau Gwybodaeth www.imis.org.uk
Sefydliad Siartredig TG www.bcs.org

Cewch ragor o wybodaeth am y maes hwn hefyd drwy gysylltu â Gyrfa Cymru (www.careerswales.com/) eich llyfrgell leol, eich swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links