Cyflwyniad
 Dyma swydd a welwch chi mewn unrhyw adran ac mewn awdurdodau o bob
math.  Gan amlaf, yn adran y prif weithredwr mae swyddogion
o'r fath yn gweithio, fodd bynnag.  Mae technoleg gwybodaeth
yn helpu'r cyngor a'i staff i weithredu, ac mae rôl oruchwyliol i
gydlynwyr (a elwir yn 'swyddogion' neu 'feistri gwefannau'
weithiau) ym maes technoleg gwybodaeth.
Mae gan bob cyngor wefan i roi gwybod i'r bobl am wasanaethau yn
ôl egwyddorion gwerth arian, effeithlonrwydd ac arbedion.  Mae
gofyn statudol i bob cyngor gynnig ei wasanaethau trwy gyfrwng
electronig bellach, hefyd.  I gael gwybod a ydych chi'n cael
hawlio budd-daliadau, cewch chi fynd i gaban a chael yr wybodaeth
berthnasol.  Mae sustem y cyfathrebu mewnol (y mewnrwyd) yr un
mor bwysig hefyd, ac mae'r cydlynydd yn gyfrifol am y sustem
honno.  Mae hyn - y dylunio a'r gweithredu - yn rhan o
strwythur cyffredinol sustemau technoleg gwybodaeth.
Amgylchiadau'r gwaith
 Byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o'ch amser wrth gyfrifiadur, er
bod rhaid teithio i gyfarfodydd ar safleoedd eraill y cyngor i
drafod syniadau newydd a phrosiectau cyfredol.  Bydd angen
mynd i gyfarfodydd cenedlaethol, hefyd.  Rhwng 37 a 40 awr
yw'r wythnos safonol, a gallai fod oriau ychwanegol weithiau i gadw
at amserlenni.  Efallai y bydd modd gweithio yn ôl oriau
hyblyg.
Gweithgareddau beunyddiol
 Llunio tudalennau'r wefan fydd eich prif orchwyl.  Hanfod y
gwaith yw cyfarfod â 'chwsmeriaid' (aelod o'r tîm golygu neu
swyddog o adran arall) i drafod syniadau newydd am olwg a lle
tudalennau ar wefan y cyngor.  I'r diben hwnnw, bydd rhaid
siarad ag arbenigwyr y we/technoleg gwybodaeth a chynorthwywyr
gwybodaeth ynglŷn â'r canlynol:
- yr hyn mae modd ei wneud o safbwynt technegol;
 
- y diwyg mwyaf effeithiol a sut y bydd yn gweithredu;
 
- a ddylech chi ddefnyddio fideos a thapiau sain;
 
- cydblethu â gweddill y wefan a chysylltu â gwefannau
eraill.
 
Fe fyddwch chi'n arwain tîm sy'n ymateb i ymholiadau, yn
diweddaru tudalennau'r wefan ac yn cysylltu â chyrff lleol eraill
(asiantaethau budd-daliadau, mudiadau cynghori dinasyddion ac ati)
a phobl yr ardal ynglŷn â diwyg gwefan y cyngor a'r modd mae'n
gweithio.  Byddwch chi'n gyfrifol am gynnal a chadw gwefan y
cyngor a'r mewnrwyd.  Mae swyddogion yn atebol i'r rheolwyr
perthnasol ac yn cael adborth am y modd mae'r sustemau'n gweithio,
yn ogystal â chynghori pawb am yr hyn sy'n ymarferol ac anymarferol
o ran gwefan.  Bydd rhaid gweithio yn ôl amserlenni mae pobl
eraill wedi'u pennu.  A chithau'n arweinydd tîm, byddwch chi'n
rheoli amryw brosiectau megis:
- cabanau aml eu cyfryngau;
 
- gwefannau teledu digidol;
 
- ceisiadau ar y we am ganiatâd cynllunio.
 
Medrau a diddordebau
 Gan fod byd technoleg gwybodaeth yn gyfnewidiol ei natur, rhaid
ymaddasu yn ôl newidiadau er lles cwsmeriaid a meithrin medrau
newydd yn gyflym.  Ar ben hynny, bydd angen:
- medrau cyfathrebu da i helpu cwsmeriaid i ddeall manylion
technegol;
 
- gallu trin a thrafod ffigurau;
 
- gallu cyd-dynnu â phobl o sawl cefndir a statws;
 
- medrau rheoli prosiectau;
 
- manwl gywirdeb;
 
- hoffi datrys problemau;
 
- meddwl creadigol;
 
- medrau rheoli;
 
- gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac mewn tîm yn ôl
amserlenni.
 
Meini prawf derbyn
 Gallai profiad perthnasol fod yn bwysicach na chymwysterau
academaidd, er y bydd disgwyl ichi fod wedi ennill o leiaf bedair
TGAU (*A-C) gan gynnwys mathemateg a Chymraeg neu Saesneg. 
Mae cymwysterau ym maes astudio a dylunio cyfrifiadurol yn bwysig,
hefyd.  Felly, bydd cefndir naill ai ym maes technoleg
gwybodaeth neu ddylunio'n hanfodol.  Gallai profiad o reoli
gwefan/mewnrwyd neu weithio'n swyddog cyfathrebu mewnol fod o
gymorth mawr.  Er bod gan lawer o'r rhai sy'n dechrau ar y
lefel hon radd neu uwch ddiploma genedlaethol, mae modd dechrau'n
weithiwr dan hyfforddiant a chael eich dyrchafu maes o law. 
Efallai y bydd modd bwrw prentisiaeth.  Gallai gweithiwr
newydd a chanddo'r cymwysterau priodol ddisgwyl ennill dros £20,000
y flwyddyn yn ôl yr ardal.  Yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr
mae'r cyflogau uchaf.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Gan fod y maes hwn ar gynnydd, mae modd cael eich dyrchafu - er y
bydd digon o bobl yn cystadlu am swyddi uwch, sy'n ymwneud â rhagor
o gyfrifoldebau rheoli ac arwain staff yn y gorchwylion hyn a
meysydd eraill megis dadansoddi sustemau.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Gwybodaeth am brentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
 Computeach: www.computeach.co.uk
 Computer Weekly: www.computerweekly.com
 Computing: www.computing.co.uk
 Medrau electronig y DG: www.e-skills.com
 Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk
 Cymdeithas Rheoli Technoleg Gwybodaeth: www.socitm.gov.uk
 Sefydliad Breiniol Technoleg Gwybodaeth: www.bcs.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/