Cyflwyniad
Gallai hyn fod yn ddatganiad o ddiben pob awdurdod lleol:
'Datblygu'r isadeiledd a'r amgylchedd technegol a fydd yn galluogi
holl wasanaethau'r cyngor i ffynnu, gan ddefnyddio technoleg
gwybodaeth yn gonglfaen i'w waith'. Ym maes llywodraeth leol,
mae TG wrth wraidd gallu cyngor i gynnig gwasanaeth o safon i'r
trethdalwyr. Mae swyddogion TG yn gweithio mewn timau bychain
sy'n cynnal cyfrifiaduron pob adran. Gall fod angen peth
gweinyddu hefyd, megis cynnal a chadw meddalwedd ac offer a
chyflwyno anfonebau mewnol. Dyma swydd sydd ym mhob awdurdod
lleol.
Amgylchiadau'r gwaith
Mewn swyddfa y byddwch chi'n gweithio. Ar gyfartaledd, bydd
swyddog technegol yn defnyddio amryw brif sustemau megis UNIX,
Windows 95/98, Windows 2000, NT (fersiwn 4) a Server 2000 ar gyfer
adrannau corfforaethol a gweinyddol trwy gyfrwng rhwydweithiau
lleol ac ehangach. 37 awr yw'r wythnos safonol a gallai oriau
hyblyg a threfniadau rhannu swydd fod ar gael.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae gwasanaethau TG yn rhoi isadeiledd a chymorth i gynghorwyr,
swyddogion ac amryw gyflenwyr meddalwedd. Mae'r uned yn rhoi
data corfforaethol ar gael trwy rwydwaith cyfathrebu sy'n cyrraedd
cartrefi gweithwyr yn ogystal â swyddfeydd (rhai anghysbell) yn yr
ardal.
Bob dydd, bydd swyddogion technoleg gwybodaeth yn helpu i
werthuso atebion i broblemau ac yn cynghori adrannau am ddefnyddio
technoleg yn eu gwaith yn ôl cyfarwyddiadau goruchwyliwr. Mae
angen medrau gwahanol ar gyfer pob gorchwyl ac mae'r gwasanaeth
strategol ac ymgynghorol yn rhoi cyfarwyddyd am ddatblygu sustemau
gwybodaeth er lles y cyngor i gyd - yn arbennig anghenion
gweinyddol rheolwyr unedau costau.
Mae gwasanaeth rheoli prosiectau yn rhoi cyfarwyddyd technegol
am sefydlu unrhyw sustemau a datrys problemau i ddiwallu anghenion
gweinyddol y cyngor. At hynny, mae'n ymwneud â rhoi
cytundebau ar gynnig. Mae gwasanaeth datblygu sustemau yn
addasu'r sustemau cyfredol yn ôl datblygiadau, gwelliannau a
newidiadau cywiro a chyfreithiol. Mae'n addasu'r rhan fwyaf o
raglenni y bydd cwmnïau yn eu gwerthu i'r cyngor, hefyd.
Mae gwasanaeth cymorth technegol yn gofalu y bydd sustemau rheng
flaen yn gweithio'n ddi-baid. Mae'n gyfrifol am ddarparu,
gwerthuso, rheoli, cynnal a chadw meddalwedd - yn arbennig sustemau
gweithredu a'u diogelwch bob amser.
Mae gwasanaeth gweithrediadau yn rhoi cymorth gweithredol fel y
bydd sustemau ar gael ar y we drwy'r amser. Mae'n helpu i
gadw at amserlenni prosesu, hefyd. Mae gwasanaeth y
rhwydweithiau ar gael 24 awr bob dydd. Mae'r gwasanaeth yn
rhoi data hanfodol yn gyflym ac yn ddiogel yn ogystal â monitro
lefel y drafnidiaeth i ofalu na fydd yn amharu ar yr
argaeledd. Mae'n ymwneud â'r Rhyngrwyd, y Mewnrwyd, negeseuon
ebost mewnol/allanol, trin a thrafod firysau a rheoli diogelwch,
hefyd.
Mae gwasanaeth desg gymorth yn gyfrifol am helpu a chynghori'r
rhai sy'n defnyddio cyfrifiaduron, peiriannau cysylltiedig a
meddalwedd yn ogystal â chynnal a chadw hynny i gyd. Y nod yw
gofalu bod gan y cyngor wasanaeth cymorth ymatebol o'r radd flaenaf
sy'n gwneud y gorau o'r dechnoleg. Mae swyddogion TG yn
gyfrifol am gofnodi gwybodaeth am yr hyn mae gwasanaethau'n ei
gyflawni, hefyd.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- gallu gweithio mewn tîm;
- ymroi i gyflwyno gwasanaeth da;
- gallu gweithio'n drefnus a chofnodi popeth yn drylwyr;
- gallu cyfathrebu â phobl o bob lliw a llun - ar lafar ac ar
bapur.
Meini prawf derbyn
Mae Tystysgrif Safon Uwch mewn pwnc sy'n ymwneud â chyfrifiaduron,
ac o leiaf flwyddyn o brofiad ym maes technoleg gwybodaeth, yn
hanfodol.
Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
Mae cyfleoedd i gael dyrchafiad bob amser ym maes technoleg
gwybodaeth. Y cam nesaf yw goruchwyliwr. Ar ôl rhagor o
hyfforddiant a phrofiad, bydd modd anelu at swyddi eraill megis
swyddog sustemau gwybodaeth a chydlynydd desg gymorth. Mae
cyfleoedd yn y sector preifat, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Gwybodaeth am brentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
Computeach: www.computeach.co.uk
Computer Weekly: www.computerweekly.com
Computing: www.computing.co.uk
E-skills UK: www.e-skills.com
Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk
Cymdeithas Rheoli Technoleg Gwybodaeth: www.socitm.gov.uk
Sefydliad Breiniol Technoleg Gwybodaeth: www.bcs.org
Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/