Cyflwyniad
Mae amrywiaeth helaeth o swyddi sy'n ymwneud â thai ym myd
llywodraeth leol - a hynny ar amryw lefelau. Mae adrannau
tai'r awdurdodau lleol yn rhoi tai a fflatiau ar osod. Maen
nhw'n rheoli tai lloches, hostelau ac adeiladau eraill mae'r
awdurdod lleol yn berchen arnyn nhw, hefyd. Yn y gwasanaethau
eiddo mae'r rhan fwyaf o swyddi ac maen nhw mewn awdurdodau o bob
math ar wahân i'r cynghorau sirol. Gwelwch chi'r swydd hon yn
y gwasanaethau amgylcheddol, hefyd.
Mae rheoli tai'n faes cymhleth ac iddo sawl elfen wahanol megis
asesu anghenion lleol ac anghenion carfanau arbennig, gofalu bod
gwaith atgyweirio a chynnal wedi'i wneud yn ôl safonau derbyniol,
monitro cytundebau tenantiaeth ac ati. Gorchwyl swyddogion
gweithrediadau tai yw cynnal a rheoli gwasanaeth landlord yn
swyddfa materion tai pob cymdogaeth.
Dyma gam gyrfaol da o swyddi gwasanaethau eiddo megis rheolwr
tai cymdogaeth.
Amgylchiadau'r gwaith
Byddwch chi'n treulio'r rhan fwyaf o'ch amser yn y swyddfa er y
bydd peth teithio lleol a rhanbarthol i gyfarfodydd a swyddfeydd
tai cymdogaethau yn ogystal â rhai ystadau tai. Rhaid ymweld
ag amryw safleoedd eraill hefyd. 37 awr yw'r wythnos
safonol.
Gweithgareddau beunyddiol
Prif orchwyl swyddogion gweithrediadau tai yw llunio polisïau a
strategaethau newydd i ofalu bod gwasanaeth landlord effeithlon yn
swyddfa materion tai pob cymdogaeth. Maen nhw wastad yn
chwilio am welliannau, gan ofalu bod digon o gymorth gan bob
swyddfa i gynnig gwasanaeth priodol.
Bydd swyddogion yn ymwneud â thrin a thrafod problemau arbennig
megis lladrata o dai, anghydfod hiliol a diogelu'r rhai
digartref. Byddan nhw'n cydweithio â landlordiaid ac
asiantaethau eraill megis yr heddlu, gwirfoddolwyr gwarchod
cymdogaethau a rhai mudiadau cymunedol i ddyfeisio ffyrdd o'u
datrys. Wrth wneud hynny, byddan nhw'n ymwneud â phobl o sawl
lliw a llun megis staff a chwsmeriaid adrannau tai.
Y prif nod yw cryfhau sefyllfa landlordiaid unigol a diogelu
buddiannau'r tenantiaid er lles pawb yn y gymuned.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- gallu ymarferol;
- manwl gywirdeb;
- natur dringar;
- gallu rheoli prosiectau;
- hyder;
- gallu trin a thrafod pobl o wahanol gefndiroedd;
- medrau TG;
- medrau cyfathrebu da (ar lafar ac ar bapur fel ei
gilydd);
- gallu gweithio mewn tîm ac o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
- gallu trin a thrafod pobl sy'n agored i niwed heb eu barnu
nhw.
Meini prawf derbyn
Bydd gan y rhan fwyaf o ymgeiswyr radd, Safon A neu gymhwyster
cyfwerth er bod rhai wedi dechrau gyda phedair TGAU (A*-C).
Mae gradd mewn pynciau megis y gyfraith, tai, astudiaethau busnes a
rheoli ystadau'n arbennig o berthnasol.
Bydd rhai awdurdodau'n derbyn ymgeiswyr a chanddyn nhw brofiad
sylweddol (gyda nifer o sefydliadau fyddai orau achos eu bod wedi
dysgu am amryw anghenion ynglŷn â thai) yn hytrach na
chymwysterau. Mae disgwyl, fodd bynnag, ichi fod yn aelod o
Sefydliad Breiniol Tai neu'n astudio ar gyfer hynny. Mae
cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol ar gael ar lefelau 2,3 a 4
ynglŷn â materion tai. O gyrraedd lefel 4, bydd modd cael
diploma broffesiynol y sefydliad.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae gyrfa dda ar gael gan fod modd cael eich dyrchafu'n bennaeth
uned gwasanaeth rheoli tai ac, wedyn, yn gyfarwyddwr
rhaglenni. Gallech chi anelu at sawl swydd uwch arall ym myd
llywodraeth leol a'r tu allan iddo hefyd achos bod medrau rheoli'n
rhai trosglwyddadwy.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Rheolwyr Tai Ymddeol: www.arhm.org
Sefydliad Breiniol Tai: www.cih.org
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau: www.homesandcommunities.co.uk
Inside Housing: www.insidehousing.co.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.