Athro ymgynghorol ar gyfer plant byddar

Cyflwyniad
Diben y swydd hon yw helpu plant gyda nam ar y clyw i wneud y gorau o'r cyfleon mae cwrícwlwm yr ysgol yn eu cynnig.  Mae athrawon ymgynghorol yn cydweithio'n agos ag ysgolion a rhieni i ofalu bod plant sy'n fyddar neu'n rhannol fyddar yn cael eu cynnwys ym mhob gweithgaredd addysgol.

Amgylchiadau'r gwaith
Yn yr ysgol maen nhw'n gweithio gan amlaf, er y gallai fod angen ymweld ag ysbyty, clywedegydd neu ganolfan gymunedol sy'n ymwneud ag anghenion arbennig o bryd i'w gilydd.  Bydd athrawon ymgynghorol yn mynd i gyfarfodydd rhanbarthol a gwladol lle gallai fod angen aros dros nos a gweithio dros y Sul neu gyda'r nos.  36 awr yw'r wythnos safonol.

Gweithgareddau beunyddiol
Gallai fod angen gweithio mewn amryw leoedd bob dydd.  Ar y cyfan, mae disgwyl i athrawon ymgynghorol wneud y canlynol:

  • lleddfu meini tramgwydd trwy gynghori rhieni, disgyblion a staff yr ysgol am drin a thrafod anableddau clyw;
  • cydweithio â staff eraill yr awdurdod addysg lleol megis arolygwyr, athrawon bro a staff y blynyddoedd cynnar ynglŷn â llunio strategaethau cynnwys;
  • cynnig hyfforddiant a gwasanaeth ymgynghorol mewn ysgolion uwchradd, cynradd ac arbennig ynglŷn â phob agwedd ar nam ar y clyw.

Dyma rai dyletswyddau penodol:

  • llunio a chynnal cyrsiau am roi'r cwrícwlwm ar gael i blant byddar;
  • helpu i ddatblygu rôl 'estyn braich';
  • cynnal sesiynau y tu allan i oriau gwaith a hyfforddiant yn yr ysgol yn ôl yr anghenion lleol;
  • helpu i hyfforddi athrawon arbenigol;
  • cynghori ysgolion am y ffordd orau o ddefnyddio eu hadnoddau fel y bydd y cwrícwlwm i gyd ar gael i blant byddar;
  • lledaenu'r arferion gorau trwy drefniadau lleol, rhanbarthol a gwladol;
  • helpu i lunio deunyddiau hyfforddi lleol megis llyfrynnau;
  • cofnodi pob ymweliad a chwrs hyfforddi a llunio adroddiad am y gwaith sydd wedi'i gyflawni yn yr ysgolion bob tymor.

Mae ymgynghorwyr anghenion addysg arbennig yn gweithio gyda phroffesiynolion o sawl math - swyddogion cymunedol anghenion arbennig, prifathrawon, athrawon, athrawon cynorthwyol, llywodraethwyr, arolygwyr, cynghorwyr a swyddogion addysg yn ogystal ag asiantaethau allanol megis therapyddion iaith a lleferydd/clywedegwyr a mudiadau gwirfoddol megis Sefydliad Brenhinol y Byddariaid a Chymdeithas y Plant Byddar.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai angenrheidiol:

  • medrau ystafell ddosbarth;
  • medrau cyfathrebu ar lafar a thrwy lythyr;
  • medrau trin a thrafod pobl, a'r gallu i ysgogi pobl;
  • medrau dylanwadu/negodi.

At hynny, dylech chi allu:

  • defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu yn hyderus;
  • gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm; 
  • gweithio'n effeithiol gyda rhieni;
  • lledaenu'ch arbenigedd, eich medrau a'ch gwybodaeth ac annog pobl eraill i wneud hynny, hefyd;
  • meithrin partneriaethau effeithiol a bod yn un cryf eich cymhelliant.

Meini prawf ymgeisio
Rhaid ennill Statws Athro Cymwysedig trwy Adran Addysg a Medrau San Steffan ac ymgymhwyso'n athro i blant byddar.  Mae angen llawer o brofiad ynglŷn â phlant ac iddyn nhw nam ar y clyw, a hynny fel a ganlyn:

  • dysgu mewn ysgol gynradd neu uwchradd brif ffrwd;
  • dyletswyddau teithiol naill ai'n rhan o wasanaeth cymorth neu drefniadau estyn braich ysgol arbennig;
  • arwain datblygiadau yn y cwrícwlwm mewn amryw bynciau gyda nifer o'ch cydweithwyr;
  • llunio, trefnu a chynnal hyfforddiant perthnasol yn yr ysgol;
  • llunio deunyddiau addysgu a dysgu;
  • gwylio a gwerthuso ansawdd yr addysgu a chyfleu adborth i athrawon.

Byddai disgwyl ichi wybod am yr ymchwil a'r deddfau diweddaraf ynglŷn â phlant ac arnyn nhw anghenion arbennig.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Dyma faes penodol a phwysig.  Gallech chi gael eich dyrchafu'n swyddog cymunedol dros anghenion addysgol arbennig neu'n rheolwr gwasanaeth anghenion addysgol arbennig yr ysgolion.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Hyfforddiant Athrawon ac Addysg yng Nghymru www.teachertrainingcymru.org
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru  www.gtcw.org.uk
Gofrestrfa Hyfforddi Athrawon Graddedig  www.gttr.ac.uk
Swyddi Addysg  www.eteach.com
Gweithredu ar y Clyw Colli  www.actiononhearingloss.org.uk
Y Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar   www.ndcs.org.uk/family_support/support_in_your_area/wales

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links