Archifydd

Cyflwyniad
Cofnodion hanes yw archifau.  Ym myd llywodraeth leol, gallan nhw fod yn gasgliad o ddogfennau cyhoeddus neu gorfforaethol.  Enw stordy cofnodion yw'r 'archifau', hefyd.  Mae archifwyr yn ymwneud â diogelu cofnodion o faterion llywodraeth leol.  Mae'r swydd mewn awdurdodau o bob math ar wahân i'r cynghorau dosbarth.  Mewn rhai ardaloedd, mae'r archifau'n rhan o adran y gwasanaethau corfforaethol.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r rhan fwyaf o waith yn mynd rhagddo mewn swyddfa neu lyfrgell.  Gallai archif fod ar islawr neu mewn ystafell fodern.  Mae rhai cofnodion yn hen ac yn llawn llwch.  37 awr yw'r wythnos safonol fel arfer, a gallai fod angen gweithio gyda'r nos a thros y Sul, weithiau.  Mae modd gweithio'n rhan-amser ac yn ôl trefniadau amser hyblyg.

Gweithgareddau beunyddiol
Diben archifau yw cofnodi hanes a galluogi pobl eraill i'w ddarganfod.  Gallan nhw fod ar ffurf ffeiliau, papurau, llyfrau, ffotograffau, lluniau, mapiau, ffilmiau, fideos a thapiau sain.  Mae archifwyr yn ymwneud ag amryw ddulliau didoli bob dydd gan restru deunydd mewn mynegeion a chatalogau fel y gall pobl ddod o hyd i'r hyn maen nhw'n chwilio amdano heb lawer o drafferth.

Efallai yr hoffech chi weld pa olwg oedd ar eich hen fwthyn pan gafodd ei godi ganol y 19eg ganrif.  O edrych ar fapiau, lluniau a ffotograffau'r cyngor, gallai fod yn bosibl ichi wneud hynny.  Gan nad oes modd storio popeth, fodd bynnag, rhaid i'r archifwyr ddewis pa bethau sy'n addas i'w cadw.  Maen nhw'n goruchwylio trefniadau'r ystafell chwilio gyhoeddus a swyddfa'r cofnodion, gan ddehongli dogfennau i bobl.

Mae disgwyl i rai archifwyr archwilio cofnodion ar amryw safleoedd megis eglwysi a hen adeiladau neu gymryd rhan mewn darlithoedd ac arddangosfeydd.  Gall deunydd fod yn drwm ac yn anhylaw ac efallai y bydd yn frwnt ac yn llawn llwydni, hefyd.  Elfen arall o'r gwaith yw rheoli cyllidebau a chydweithio â staff eraill, gan ymateb i ymholiadau a helpu pobl i ddefnyddio casgliadau a dod o hyd i wybodaeth.  Yn aml, mae pobl sy'n paratoi arddangosfeydd, cyflwyniadau, erthyglau i'r wasg a rhaglenni teledu a radio ymhlith y rhai sy'n chwilio'r archifau.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • ymroi i ddiogelu treftadaeth;
  • diddordeb ym maes TG a thechnoleg gysylltiedig;
  • gallu esbonio syniadau cymhleth;
  • gallu gweithio mewn tîm;
  • gallu trin a thrafod cyllidebau;
  • natur drefnus (ar gyfer gorchwylion didoli);
  • craffter ynglŷn â natur gyfrinachol rhai cofnodion.

Meini prawf derbyn
Mae angen o leiaf ddiploma ôl-raddedigion ynglŷn ag astudiaethau archifau.  I ennill lle mewn cwrs diploma, mae eisiau gradd o safon dda a pheth gwybodaeth am Ladin a/neu Ffrangeg.  Astudiodd y rhan fwyaf o archifwyr hanes ar gyfer eu gradd gyntaf, ond bydd gradd mewn unrhyw bwnc yn dderbyniol.  Mae tipyn o gystadlu am leoedd yn y cyrsiau i ôl-raddedigion.  Fe fydd ymgeisydd a chanddo o leiaf flwyddyn o brofiad perthnasol yn fwy tebygol o gael ei dderbyn.  Mae meini prawf derbyn myfyrwyr aeddfed i gyrsiau gradd yn llai llym, yn aml.  Mae cwrs mynediad yn ffordd dda o ennill lle mewn cwrs gradd.

Hyfforddiant
Mae ychydig o gyflogwyr yn penodi graddedigion i'w hyfforddi yn y gwaith trwy gwrs diploma Cymdeithas yr Archifwyr.  Mae llawer o'r swyddfeydd mwyaf yn cyflogi staff cynorthwyol.  Mae cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol ar gael bellach, ac mae rhai prifysgolion yn cynnig tystysgrif 'astudiaethau archifau'.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae gweinyddu archifau'n faes arbenigol bychan.  Mae'r rhan fwyaf o archifwyr yn gweithio ym myd llywodraeth leol, archifau ac amgueddfeydd y wladwriaeth, Llyfrgell Prydain, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban a'r sefydliadau arbenigol megis Amgueddfa Genedlaethol y Môr a phrifysgolion.  Mae cofnodion gan rai cwmnïau preifat, ac maen nhw'n cyflogi staff arbenigol ar eu cyfer.  Mae'n bosibl gweithio i elusennau, hefyd.  Mae dyrchafiad yn dibynnu ar y cyflogwr.  Mae rhai - megis byd llywodraeth leol ac adrannau gwladol - yn cynnig trefn ffurfiol sy'n arwain at swyddi rheoli uwch.  Gallai fod angen symud i gael dyrchafiad.  Mae'n debygol na fydd cynifer o gyfleoedd gan gyflogwyr bychain.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Archifau a Chofnodion: www.archives.org.uk
Sefydliad Breiniol Proffesiynolion Llyfrgelloedd a Gwybodaeth: www.cilip.org.uk
Cymdeithas Amgueddfeydd: www.museumsassociation.org

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links