Rhagarweiniad
Mae bwrsariaid i'w cael yn bennaf mewn ysgolion uwchradd ac maent
yn gyfrifol am reoli arian yr ysgol yn strategol. Efallai y byddant
yn gyfrifol hefyd am swyddogaethau eraill fel adnoddau dynol neu
reoli cyfleusterau. Gall teitl y swydd sy'n gysylltiedig â'r rôl
amrywio. Mewn rhai ysgolion, mae'n bosibl y cânt eu galw'n rheolwr
busnes neu'n gyfarwyddwr busnes. Mewn ysgolion bach, efallai y bydd
y bwrsar yn gweithio ar ei ben ei hun, mewn ysgolion mwy, efallai y
bydd yn rheoli tîm o staff gweinyddol. Mae bwrsariaid yn gweithio i
gyrff llywodraethu ysgolion mewn awdurdodau addysg lleol.
Amgylchedd Gwaith
Mae bwrsariaid yn gweithio yn ystod y tymor ysgol. Caiff oriau
gwaith eu cytuno rhwng deiliad y swydd a'r Pennaeth a disgwylir i
fwrsariaid fynd i gyfarfodydd llywodraethwyr - gyda'r nos fel
arfer.
Gweithgareddau o Ddydd i Ddydd
Mae rôl bwrsar yn heriol ac yn hynod amrywiol. Mae'n cynnwys prif
faes gwaith: rheoli arian a chyllidebau, rheoli cyfleusterau,
rheoli contractau ac adnoddau dynol. Mae diwrnod bwrsar yn dechrau
ymhell cyn i'r ysgol agor. Mewn rhai achosion, gall y gwaith
ddechrau gartref, mor gynnar â 7am, pan fydd staff yn ffonio i roi
gwybod eu bod yn sâl ac mae'n rhaid i'r bwrsar geisio dod o hyd i
athro cyflenwi. (Mewn rhai ysgolion, nid dyletswydd y bwrsar mo hon
a chaiff ei chyflawni gan aelod arall o staff.)
Ymhlith rhai o dasgau dyddiol y bwrsar mae'r canlynol: diweddaru
cyfrifon a pharatoi crynodeb misol o sefyllfa ariannol yr ysgol,
talu cyflenwyr a chontractwyr, paratoi contractau staff, anfon
hawliadau cyflog at adran gyflog y cyngor a gweithredu fel swyddog
derbyn. (Mae hyn yn cynnwys cadw cyfanswm cyfredol o blant sy'n
gwneud cais i'r ysgol a rhoi gwybod i rieni p'un a oes unrhyw
leoedd ar gael.) Mae rhai bwrsariaid yn gweithredu fel rheolwyr
safle; maent yn penodi contractwyr, eu goruchwylio ac yn eu talu ac
maent yn gyfrifol am iechyd a diogelwch.
Gall rheoli pobl gynnwys bod yn gyfrifol am waith glanhawyr,
gofalwyr, technegwyr a goruchwylwyr amser cinio yn ogystal â rheoli
swyddogaethau gweinyddol yr ysgol. Yn aml, mae angen i fwrsariaid
fynd i gyfarfodydd gyda'r nos a digwyddiadau i rieni a drefnir gan
gorff llywodraethu'r ysgol ac efallai y bydd angen iddynt roi
gwybod i lywodraethwyr am faterion ariannol. Mae bwrsar yn aelod
pwysig o dîm arwain yr ysgol a bydd ganddo gydberthynas
broffesiynol agos â phennaeth yr ysgol, yn aml.
Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i fwrsariaid:
- bod yn drefnus iawn ac yn rhesymegol;
- bod â llawer o gymhelliant;
- meddu ar wybodaeth dda am gyfrifyddiaeth a rheoli
cyllidebau;
- meddu ar sgiliau da o ran rheoli amser a'r gallu i
flaenoriaethu gwaith;
- bod yn rhifog ac yn hyddysg mewn cyfrifiadura.
Yn bwysicaf oll, mae'n rhaid i'r unigolyn ymddwyn mewn ffordd
ddymunol a hyderus wrth ymdrin â phobl, gan gynnwys rhieni,
swyddogion addysg, arolygwyr ysgol, llywodraethwyr, contractwyr,
staff cynnal a disgyblion.
Gofynion Mynediad
Er nad oes unrhyw gymwysterau safonol neu ofynion mynediad ar
gyfer bwrsariaid, disgwylir i'r rhan fwyaf o ymgeiswyr fod â
phrofiad mewn amgylchedd gwaith perthnasol a chymhwyster
proffesiynol, o bosibl. Gall rhai bwrsariaid ddechrau yn y
proffesiwn o'r tu mewn i'r sector addysg, er enghraifft, efallai eu
bod eisoes yn gweithio mewn ysgol a'u bod yn awyddus i wella eu
safle. Mae Cymdeithas Genedlaethol y Bwrsariaid a'r Coleg
Cenedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Ysgol yn darparu cyrsiau sy'n
gallu helpu'r rhai sydd am symud ymlaen i rôl bwrsar. Gallai
cymwysterau BTEC/SQA Cenedlaethol a Chenedlaethol Uwch mewn Busnes
a Chyllid neu Weinyddiaeth Gyhoeddus neu brofiad a chymwysterau
cyfrifyddiaeth fod o gymorth wrth wneud cais am swydd.
Posibiliadau a chyfleoedd yn y dyfodol
Er mwyn cael dyrchafiad neu gyflog uwch, byddai angen symud i
ysgol fwy. Mae cyfleoedd hefyd i symud i waith ariannol neu
feysydd addysg arall mewn awdurdod lleol.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr yrfa hon o adran addysg eich
cyngor lleol.
Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgol Rheoli Busnes www.nasbm.co.uk
Cymdeithas Siartredig Cyfrifwyr Ardystiedig www.accaglobal.com
Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu www.aat.co.uk
Oedran Cyfrifeg cylchgrawn www.accountancyage.com/
Sefydliad Rheolaeth Weinyddol www.instam.org
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth www.cipfa.org.uk
Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr www.icaew.co.uk
Swyddi addysg www.eteach.com
Y Coleg Cenedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Ysgol www.ncsl.org.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/