Archwilydd

Cyflwyniad
Mae archwilwyr yn adolygu ac yn gwerthuso gweithgareddau cynghorau i ofalu bod adnoddau'n cael eu defnyddio mewn modd effeithlon a chost-effeithiol.  Yn yr adran ariannol gorfforaethol neu'r adran archwilio fewnol maen nhw'n gweithio, fel arfer.

Amgylchiadau'r gwaith
Maen nhw'n gweithio yn y swyddfa gan amlaf, er y bydd angen ymweld â gwahanol adrannau yn y cyngor.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae archwilwyr yn gofalu bod adrannau'r cyngor yn defnyddio eu hadnoddau yn y modd gorau a'u bod yn cadw at weithdrefnau eglur ar gyfer dyrannu arian gwladol, megis rhoi cytundebau ar gynnig yn deg.  Mae'r gwaith yn debygol o gynnwys: 

  • trefnu a chynnal adolygiadau o waith adrannau'r cyngor;
  • llunio profion archwilio, pennu'r ffordd orau o archwilio darn enghreifftiol o gofnodion adran a gwirio bod y gweithdrefnau'n effeithlon;
  • adolygu sustemau pob adran i weld a yw gweithdrefnau rheoli pobl ac arian yn dda;
  • llunio a chynnal adolygiadau eraill i asesu pa mor gywir ac agored yw'r gweithgareddau;
  • cynnal ymchwiliadau penodol fyddai'n canfod ac yn atal twyll;
  • dod i gasgliadau yn sgîl gwaith o'r fath, ysgrifennu adroddiadau, pennu argymhellion ac, mewn rhai achosion, llunio a chynnal gweithdrefnau ychwanegol yn ôl eich casgliadau;
  • cynghori rheolwyr am y ffordd fwyaf cost-effeithiol o drin a thrafod rhyw fater.

Medrau a diddordebau
Mae angen y canlynol ar archwilwyr: 

  • medrau cyfathrebu da - gallu esbonio gweithdrefnau cymhleth wrth sawl math o bobl;
  • gallu llunio adroddiadau eglur a chryno;
  • gallu trefnu gwaith yn dda a thrin a thrafod gwybodaeth fanwl;
  • gallu blaenoriaethu gorchwylion a gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
  • gallu gweithio mewn tîm;
  • gallu trin a thrafod cyfrifiaduron yn ôl safon uchel;
  • mwynhau trin a thrafod symiau;
  • gallu dod i benderfyniadau a'u cyfiawnhau o flaen pobl eraill. 


Meini prawf ymgeisio
Yn ôl pob tebyg, bydd angen gradd ac iddi agwedd ariannol sylweddol.  At hynny, fe fydd eisiau cymhwyster ariannol proffesiynol perthnasol trwy, er enghraifft, Sefydliad Breiniol Materion Ariannol a Chyfrifeg y Wlad (CIPFA).  Os nad oes gradd gyda chi, fe fydd rhaid cwblhau cwrs astudiaethau sylfaenol neu gael cymhwyster trwy Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg (AAT).

Os ydych chi dros 21 heb gymwysterau academaidd, a chithau gyda thair blynedd o brofiad a chyflogwr sy'n fodlon cadarnhau'ch rhifedd a'ch medrau cyfathrebu, bydd modd eich derbyn i gwrs sylfaenol.  Dylai ymgeiswyr hŷn fod dros 25 oed gyda phum mlynedd o brofiad ym meysydd cyfrifeg, rheoli arian neu archwilio.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Trywydd yr yrfa yw archwilydd, uwch archwilydd a rheolwr archwilio.  Efallai y bydd yn bosibl ichi symud i rôl ariannol neu drysorlys arall yn eich cyngor neu rywle arall.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Materion Ariannol a Chyfrifeg y Wlad: www.cipfa.org.uk 
Sefydliad Archwilwyr Mewnol: www.iia.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links