Cyflwyniad
Bydd y rhan fwyaf o ysgolion yn cael eu hariannu gan awdurdodau
lleol neu drwy grant uniongyrchol oddi wrth y llywodraeth
ganolog. Mwy na 470,000 o athrawon sy'n gweithio ar hyn o
bryd mewn ysgolion sy'n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol yng
Nghymru, yr Alban a Lloegr. Byddant yn addysgu rhyw saith
miliwn o ddisgyblion mewn oddeutu 27,500 o ysgolion cynradd ac
uwchradd. Prif nod athro yw meithrin perthynas â disgyblion
sy'n ennyn y gorau ynddynt ac yn sicrhau eu bod yn agored i
syniadau a gwybodaeth.
Amgylchedd Gwaith
Er bod y rhan fwyaf o athrawon yn gweithio mewn dosbarthiadau,
bydd rhai hefyd yn gweithio mewn gweithdai, labordai a
champfeydd. Byddant ar eu traed drwy gydol y dydd, a bydd
disgwyl iddynt symud o gwmpas yr ysgol yn aml, i ddysgu mewn
gwahanol ddosbarthiadau. Bydd gofyn i athrawon hefyd
weithio'r tu allan i'r ysgol ac mewn mannau eraill er mwyn ymwneud
â theithiau cerdded, gemau a dyletswydd yr iard chwarae, tripiau
ysgol, teithiau ac ati. Bydd ysgolion yn amrywio o ran natur
a maint, o ysgolion cyfun mawr i ysgolion pentref.
Gweithgareddau Dyddiol
Bydd galw am athrawon da, ymroddedig am byth, am fod cyfrifoldebau
athro'n sylweddol nid yn unig o safbwynt ei waith o ddydd i ddydd
ond goblygiadau'r gwaith hwnnw am genedlaethau i ddod. Yn
ogystal â gwybod ei bwnc penodol, y mae'n rhaid i athro allu ysgogi
a chyfeirio egni a gallu pobl ifanc. Bydd athrawon cynradd yn
dysgu i blant rhwng pump ac un ar ddeng mlwydd oed, a bydd disgwyl
felly iddynt allu troi eu llaw at dipyn o bopeth. Byddant fel
arfer yn gyfrifol am un dosbarth ac yn dysgu pob agwedd ar
Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru a Lloegr a chwricwlwm yr Alban.
Arbenigwyr pwnc yw athrawon uwchradd, a byddant yn dysgu eu pynciau
i wahanol ddosbarthiadau o blant o allu amrywiol sydd rhwng 11 ac
16/18 oed. Mae gan athrawon rôl fugeiliol/ofal i'w chyflawni
hefyd, a byddant yn rhoi arweiniad i ddisgyblion a'u cynghori
ynglŷn â phroblemau personol. Bydd tiwtoriaid blwyddyn neu
ddosbarth yn gyfrifol yn benodol am hybu datblygiad ysbrydol a
chymdeithasol y disgyblion gyda golwg ar broblemau fel cyffuriau,
bwlio a thriwanta. Athrawon penodol - sef athrawon arwain neu
les - a fydd yn cyflawni'r rôl hon yn yr Alban.
Sgiliau a Diddordebau
Dylai athrawon fod yn hoff o bobl ifanc ac yn awyddus i'w helpu i
gyrraedd eu potensial. Dylent allu cyd-dynnu'n dda â phob
math o bobl - yn ddisgyblion, cyd-athrawon, rhieni, llywodraethwyr
ac ati. Dylai athro fod wedi ymdrwytho yn ei bwnc ac yn frwd
iawn drosto. Dylai hefyd fod yn amyneddgar a gallu cyfathrebu
a gwrando'n dda. Gallai'r gwaith fod yn feichus ar adegau ond
yn hynod gwerth chweil pan fydd disgyblion yn llwyddo i ddeall
syniadau newydd a chyrraedd eu potensial. Mae athro
effeithiol yn gallu ymwneud yn dda â phobl ifanc o gefndir a gallu
amrywiol ac ennyn eu ffydd a'u parch.
Gofynion derbyn
Dylai fod gan bob athro sy'n dysgu yn ysgolion cynradd ac uwchradd
y wladwriaeth statws athro cymwysedig a chymwysterau TGAU Saesneg a
mathemateg (graddau A-C), neu gymhwyster cyfatebol. Bydd
angen TGAU (radd A-C) mewn pwnc gwyddonol hefyd ar rai a aned ar ôl
1 Medi sy'n dechrau dilyn hyfforddiant ar gyfer athrawon
cynradd. Cewch statws athro cymwysedig un ai drwy ddilyn cwrs
gradd tair neu bedair blynedd (Baglor mewn Addysg) ynteu cwrs gradd
mewn pwnc penodol (Baglor yn y Celfyddydau neu'r Gwyddorau) sy'n
cynnwys statws athro cymwysedig. Er mwyn cael eich derbyn,
bydd angen o leiaf pum TGAU (graddau A-C) arnoch, gan gynnwys
Saesneg a mathemateg neu gymhwyster cyfatebol, a hefyd safon uwch
mewn dau bwnc, neu gymhwyster cyfatebol (Dyfarniad Cenedlaethol y
Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg, Cymhwyster Galwedigaethol
Cenedlaethol Cyffredinol Uwch neu gyrsiau mynediad). Byddwn
yn cynnig cyrsiau dwy flynedd (Baglor mewn Addysg) mewn rhai
pynciau at ddibenion uwchradd i fyfyrwyr aeddfed a chanddynt
gymwysterau technegol neu broffesiynol perthnasol (e.e. Dyfarniad y
Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg, Diploma Cenedlaethol Uwch) a
phrofiad perthnasol. Bydd angen gradd a chymwysterau TGAU
Saesneg a mathemateg (graddau A-C), neu gymhwyster cyfatebol arnoch
ar gyfer dilyn cwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion.
Mae cyrsiau amser llawn yn parhau am flwyddyn, a chewch eu dilyn
gyda phartneriaeth sefydliad/ysgol neu drwy Hyfforddiant Cychwynnol
Athrawon mewn Ysgol. Mae ambell i gwrs trosglwyddo, dwy
flynedd, amser llawn (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) ar gyfer
graddedigion sydd am ddysgu ail bwnc nad oedd yn brif destun eu
gradd gyntaf. Yn yr Alban, y mae'n rhaid i bawb sydd am
ddysgu mewn ysgol awdurdod lleol gofrestru'n gyntaf gyda Chyngor
Addysgu Cyffredinol yr Alban. Mae angen cymhwyster dysgu ar
ymgeiswyr ar gyfer cofrestru. Yn ôl y diffiniad, gradd neu
dystysgrif oddi wrth sefydliad addysg athrawon yw cymhwyster
dysgu. Ar ôl cofrestru, y mae'n rhaid i'r unigolion gwblhau
cyfnod prawf.
Rhagolygon a chyfleoedd
Caiff athrawon cymwysedig ymgeisio am swydd mewn unrhyw ran o'r
D.U. Er mwyn symud i swydd uwch, bydd yn rhaid iddynt fel
arfer symud i ysgol arall. Mae galw am athrawon mathemateg,
gwyddoniaeth, cerddoriaeth, ieithoedd modern, dylunio a thechnoleg
a thechnoleg gwybodaeth i ddysgu mewn ysgolion uwchradd. Yng
Nghymru, y mae'r gallu i siarad Cymraeg yn fanteisiol, ac y mae
galw mawr am athrawon Cymraeg.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Pob awdurdod addysg lleol.
Cofrestrfa Hyfforddiant Athrawon Graddedig www.gttr.ac.uk
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru www.gtcw.org.uk
Hyfforddiant Athrawon ac Addysg yng Nghymru www.teachertrainingcymru.org
Swyddi mewn Addysg www.eteach.com
Cewch ragor o wybodaeth am y maes hwn drwy gysylltu â Gyrfa
Cymru (www.careerswales.com/),
eich llyfrgell leol, eich swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd
eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/