Cyflwyniad
Gall pobl fod yn anodd ac yn rhyfeddol. Gallan nhw fod yn
ymestynnol i'r rhai sy'n gweithio gyda nhw. Gallai fod golwg
fygythiol, brwnt, swnllyd a dryslyd ar hen ddyn ond gallai
gweithwyr cymdeithasol ei weld yn un sy'n dioddef ag iselder,
unigedd ac ofn. Hanfod gwaith cymdeithasol yw helpu pobl o'r
fath a helpu'r gymuned i ddeall pryderon perthnasol. Mae
gweithwyr cymdeithasol yn trefnu gofal a chymorth i bobl fwyaf
bregus ein cymdeithas gan asesu eu hanghenion nhw a rhoi
gwasanaethau i'w diwallu. Mae angen agwedd dringar ac mae
cyfle i arbenigo mewn agweddau eraill ar waith cymdeithasol megis y
gwasanaethau i blant. Mae gweithwyr cymdeithasol ym mhob
awdurdod lleol.
Amgylchiadau'r gwaith
Byddwch chi'n gweithio yn swyddfeydd adran y gwasanaethau
cymdeithasol fel arfer, er y gallai fod gorchwylion mewn mannau
eraill megis ysbytai bro, canolfannau oriau dydd, sefydliadau
preswyl a chartrefi preifat - lle mae pobl ac arnyn nhw broblemau
cymhleth yn byw mewn amgylchiadau sy'n peryglu eu rhyddid neu eu
diogelwch. Yn aml, bydd rhai peryglon corfforol a theimladol
i orchwylion y tu allan i'r swyddfa. 37 awr yw'r wythnos
safonol, ond rhaid gweithio gyda'r nos a thros y Sul pan fo
angen.
Gweithgareddau beunyddiol
Gallai'r dyletswyddau bob dydd gynnwys ymweld â phobl hŷn a phobl
ac arnyn nhw broblemau iechyd y meddwl neu anawsterau dysgu ble
bynnag maen nhw - boed eu cartrefi eu hunain, canolfan ofal neu
ysbyty. Gallai fod angen ymweld â chartrefi eu cynhalwyr nhw,
weithiau. Rhaid mynd i gyfarfodydd, paratoi adroddiadau
sylweddol, cydweithio â phroffesiynolion eraill, cynllunio drwy'r
amser ac adolygu gweithdrefnau a chynnydd. Gallai fod angen
mynd i wrandawiadau llysoedd ar ran clientiaid, hefyd. Bydd
rhai gweithwyr cymdeithasol yn cymryd rhan mewn prosiectau arbennig
megis trefnu cynadleddau am achosion a helpu i wella
gwasanaethau. Mae digon o gyfleon i weithio o'ch pen a'ch
pastwn eich hun ond, mewn sawl achos (megis yn yr ysbyty, lle
byddwch chi'n cydweithio ag amryw arbenigwyr) mae'n hanfodol
gweithio mewn tîm. Rhaid cadw at amserlenni yn ôl gofynion
statudol ac anghenion cydweithwyr -prinder gwelyau yn yr ysbyty, er
enghraifft. Rhaid cydgysylltu bob dydd â gweithwyr
cymdeithasol eraill, rhai o adrannau'r cyngor, gwasanaethau
mudiadau gwirfoddol a chwmnïau preifat mewn meysydd megis iechyd a
thai, cynhalwyr, meddygon teulu, yr heddlu, y llysoedd a'r
cyhoedd.
Medrau a diddordebau
Dylai fod gwir ddiddordeb mewn pobl (hen pobl yma) yn ogystal â'r
canlynol:
- gallu cyfathrebu â phobl o bob lliw a llun;
- parchu hawliau hen bobl;
- gallu adnabod a herio anffafrio;
- medrau cyfweld, gwrando a gwylio da;
- medrau negodi a threfnu;
- gallu ymdopi â sefyllfaoedd anodd ac anghydfod;
- natur gymedrol;
- medrau da ynglŷn â llunio adroddiadau.
Mae angen defnyddio cyfrifiadur a gyrru car, hefyd.
Meini prawf derbyn
Y cymwysterau safonol yw gradd gyntaf neu radd ddilynol mae Cyngor
Gofal Cymru yn ei chydnabod ym maes gwaith cymdeithasol.
Mae'r cwrs ar gyfer y radd gyntaf yn para tair blynedd a dwy
flynedd yw hyd y cwrs i ôl-raddedigion. Mae'r cyrsiau ar gael
trwy nifer o brifysgolion cymeradwy fydd yn pennu eu meini prawf eu
hunain o ran derbyn myfyrwyr. Mae'r cymhwyster blaenorol,
Diploma Gwaith Cymdeithasol (DipSW), yn ddilys o hyd. I
astudio ar gyfer gradd ym maes gwaith cymdeithasol, mae angen o
leiaf 5 TGAU gan gynnwys C neu'n uwch yn Saesneg a mathemateg (neu
gymhwyster cyfatebol). Er bod prifysgolion yn pennu eu meini
prawf eu hunain ynglŷn â derbyn myfyrwyr, fe fydd angen 2 Safon
Uwch neu gymhwyster cyfatebol yn y pynciau perthnasol megis
cymdeithaseg, y gyfraith, seicoleg a gofal iechyd a
chymdeithasol. Gallai tystysgrifau TGAU/Safon Uwch yn y
pynciau galwedigaethol fod yn ddefnyddiol, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae gwaith cymdeithasol yn faes sy'n tyfu'n gyflym ac mae digon o
gyfleoedd ichi gael eich dyrchafu, datblygu'n broffesiynol trwy
gyfundrefn a chael eich hyfforddi wrth y gwaith. Mae Cyngor
Gofal Cymru yn cyflwyno gofynion o ran cymwysterau gweithwyr
cymdeithasol - Fframwaith yr Addysg a'r Dysgu Proffesiynol
Parhaus. Fe fydd y fframwaith cyflawn yn disgrifio'r
trefniadau lleiaf ar gyfer addysg a dysgu proffesiynol gweithwyr
cymdeithasol ar ôl ymgymhwyso. Y prif nod yw gofalu y bydd y
fframwaith yn gwella safon gwaith cymdeithasol ac yn helpu i
ddatblygu gweithwyr cymdeithasol profiadol. Cam cyntaf llunio
a defnyddio'r fframwaith yw rhaglen cyfnerthu medrau gweithwyr sydd
newydd ymgymhwyso. Wedyn, bydd hyfforddiant ar gael yn ôl
lefelau fydd yn gweddu i yrfa pob gweithiwr cymdeithasol megis
ymarferwr profiadol, rheolwr tîm neu weithiwr cymdeithasol
ymgynghorol.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain: www.basw.co.uk
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gofal Cymunedol: www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Adran Iechyd San Steffan: www.dh.gov.uk
Cyngor y Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Asiantaeth y Cartrefi a'r Cymunedau: www.homesandcommunities.co.uk
Medrau Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas y Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk
Mae'r Brifysgol Agored wedi llunio adnodd rhyngweithiol am
ddiwrnod ym mywyd gweithiwr cymdeithasol:
http://www.open.edu/openlearn/body-mind/social-care/social-work/try-day-the-life-social-worker
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.