Cyflwyniad
Mae plant yn garfan allai wynebu bygythiad mawr yn ein cymdeithas
achos eu bod ymhlith y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae
modd dioddef trwy esgeuluso, cam-drin corfforol/teimladol/rhywiol a
chyffuriau. Mae anawsterau dysgu, anableddau corfforol neu
broblemau iechyd y meddwl ar rai. Yn aml, byddwn ni'n gweld
plentyn cythryblus a difreintiedig yn berygl ddylai gael ei
ddisgyblu. Yn llygaid y gweithwyr cymdeithasol, fodd bynnag,
mae'n un bregus sy'n dioddef ag iselder, unigedd ac ofn. Eu
gwaith nhw yw helpu plant o'r fath gan drefnu gofal a chymorth i'r
rhai ac arnyn nhw anghenion arbennig neu sy'n agored i niwed, yn
ogystal â'u teuluoedd. Dyma un o feysydd arbenigol gwaith
cymdeithasol. Mae rolau tebyg yn y gwasanaethau i oedolion,
hefyd. Mae gweithwyr cymdeithasol ym mhob awdurdod lleol.
Amgylchiadau'r gwaith
Byddwch chi'n gweithio yn swyddfeydd adran y gwasanaethau
cymdeithasol fel arfer, er y gallai fod gorchwylion mewn mannau
eraill megis canolfannau cymuned, ysbytai, canolfannau preswyl ac
oriau dydd, ysgolion, ysgolion arbennig a chartrefi preifat - lle
mae plant ac arnyn nhw broblemau cymhleth yn byw mewn amgylchiadau
sy'n peryglu eu rhyddid neu eu diogelwch nhw. Yn aml, bydd
rhai peryglon corfforol a theimladol i orchwylion y tu allan i'r
swyddfa. 37 awr yw'r wythnos safonol, ond rhaid gweithio
gyda'r nos a thros y Sul pan fo angen.
Gweithgareddau beunyddiol
Gallai'r dyletswyddau bob dydd gynnwys ymweld â phlant a phobl
ifanc mewn amryw fannau a'u hebrwng i dreulio amser gyda'u rhieni
a'u teuluoedd nhw. Rhaid mynd i gyfarfodydd, llunio
adroddiadau mawr, cydweithio â phroffesiynolion eraill, cynllunio
drwy'r amser ac adolygu gweithdrefnau a chynnydd. Efallai y
bydd angen ichi fynd i wrandawiadau llysoedd teuluoedd. Fe
fydd rhai gweithwyr cymdeithasol yn cymryd rhan mewn prosiectau
ymchwil i faterion sy'n effeithio ar blant a'u teuluoedd. Mae
digon o gyfleoedd ichi weithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ond,
fel arfer, rhaid i'r tîm i gyd ddod i benderfyniadau perthnasol a
derbyn cyfrifoldeb amdanyn nhw ar y cyd. Rhaid gweithio yn ôl
amserlenni'r fframwaith statudol/cyfreithiol sy'n berthnasol i'r
gwasanaeth. Fe fydd angen cydgysylltu bob dydd â gweithwyr
cymdeithasol eraill, rhai o adrannau'r cyngor, swyddogion iechyd,
yr heddlu, meddygon teulu, nyrsys yn yr ysgolion, ymgynghorwyr,
seicolegwyr a'r cyhoedd.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai pwysicaf er mwyn llwyddo yn y swydd hon:
- gallu ymgysylltu â phlentyn a phennu ei anghenion;
- pennu ffordd effeithiol o siarad â'r plentyn;
- gallu cyfathrebu â phobl o bob lliw a llun;
- parchu hawliau plant a'u teuluoedd;
- medrau cyfweld, gwrando a gwylio da;
- medrau negodi a threfnu;
- gallu ymdopi â sefyllfaoedd anodd ac anghydfod;
- deall egwyddorion camu i mewn;
- ymgysylltu â rhieni i hwyluso newidiadau;
- natur gymedrol ac aeddfed;
- medrau da ynglŷn â llunio adroddiadau.
Mae angen defnyddio cyfrifiadur a gyrru car, hefyd.
Meini prawf derbyn
Y cymwysterau safonol yw gradd gyntaf neu radd ddilynol mae Cyngor
Gofal Cymru yn ei chydnabod ym maes gwaith cymdeithasol.
Mae'r cwrs ar gyfer y radd gyntaf yn para tair blynedd a dwy
flynedd yw hyd y cwrs i ôl-raddedigion. Mae'r cyrsiau ar gael
trwy nifer o brifysgolion cymeradwy fydd yn pennu eu meini prawf eu
hunain o ran derbyn myfyrwyr. Mae'r cymhwyster blaenorol,
Diploma Gwaith Cymdeithasol (DipSW), yn ddilys o hyd. I
astudio ar gyfer gradd ym maes gwaith cymdeithasol, mae angen o
leiaf 5 TGAU gan gynnwys C neu'n uwch yn Saesneg a mathemateg (neu
gymhwyster cyfatebol). Er bod prifysgolion yn pennu eu meini
prawf eu hunain ynglŷn â derbyn myfyrwyr, fe fydd angen 2 Safon
Uwch neu gymhwyster cyfatebol yn y pynciau perthnasol megis
cymdeithaseg, y gyfraith, seicoleg a gofal iechyd a
chymdeithasol. Gallai tystysgrifau TGAU/Safon Uwch yn y
pynciau galwedigaethol fod yn ddefnyddiol, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae gwaith cymdeithasol yn faes sy'n tyfu'n gyflym ac mae digon o
gyfleoedd ichi gael eich dyrchafu, datblygu'n broffesiynol trwy
gyfundrefn a chael eich hyfforddi wrth y gwaith. Mae Cyngor
Gofal Cymru yn cyflwyno gofynion o ran cymwysterau gweithwyr
cymdeithasol - Fframwaith yr Addysg a'r Dysgu Proffesiynol
Parhaus. Fe fydd y fframwaith cyflawn yn disgrifio'r
trefniadau lleiaf ar gyfer addysg a dysgu proffesiynol gweithwyr
cymdeithasol ar ôl ymgymhwyso. Y prif nod yw gofalu y bydd y
fframwaith yn gwella safon gwaith cymdeithasol ac yn helpu i
ddatblygu gweithwyr cymdeithasol profiadol. Cam cyntaf llunio
a defnyddio'r fframwaith yw rhaglen cyfnerthu medrau gweithwyr sydd
newydd ymgymhwyso. Wedyn, bydd hyfforddiant ar gael yn ôl
lefelau fydd yn gweddu i yrfa pob gweithiwr cymdeithasol megis
ymarferwr profiadol, rheolwr tîm neu weithiwr cymdeithasol
ymgynghorol.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain: www.basw.co.uk
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gofal Cymunedol: www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Adran Iechyd San Steffan: www.dh.gov.uk
Cyngor y Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Asiantaeth y Cartrefi a'r Cymunedau: www.homesandcommunities.co.uk
Medrau Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas y Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk
Mae'r Brifysgol Agored wedi llunio adnodd rhyngweithiol am
ddiwrnod ym mywyd gweithiwr cymdeithasol:
http://www.open.edu/openlearn/body-mind/social-care/social-work/try-day-the-life-social-worker
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.