Cyflwyniad
 Mae anghenion cymhleth ar bobl ifanc sy'n camddefnyddio cyffuriau
a'r ddiod gadarn, ac mae'n anodd ymdrin â nhw.  Mae'r swydd
hon yn ymwneud â chynnig gwasanaeth arbenigol i blant, pobl ifanc a
theuluoedd sy'n hysbys i amryw asiantaethau achos eu bod nhw'n
ymwneud â chyffuriau.  Mae gweithwyr materion camddefnyddio
cyffuriau yn atebol i reolwr y tîm dros faterion pobl ifanc. 
Mae'r swydd hon mewn awdurdodau o bob math ar wahân i'r cynghorau
dosbarth.
Amgylchiadau'r gwaith
 Byddwch chi'n gweithio mewn swyddfeydd a nifer o leoedd
allgymorth, canolfannau, ysgolion a chartrefi.  Byddwch chi'n
wynebu sefyllfa anodd ar adegau am y gallai rhai clientiaid fod yn
ymosodol a gwrthod cydweithredu.  37 awr yw'r wythnos safonol,
a rhaid gweithio shifftiau anghymdeithasol weithiau.
Gweithgareddau beunyddiol
 Dyma orchwyl sy'n berthnasol i holl adran y gwasanaethau
cymdeithasol yn ogystal ag asiantaethau eraill.  Bydd staff
materion camddefnyddio cyffuriau'n cydweithio'n agos ag uwch
swyddogion yn y timau canlynol:
- rheolwr materion pobl ifanc;
 
- rheolwr prosiect yr allgymorth;
 
- gweithwyr cymdeithasol dros faterion plant a theuluoedd;
 
- gweithwyr cymorth cymunedol dros faterion plant a
theuluoedd;
 
- mudiadau gweithredu ynglŷn â chyffuriau;
 
- gwasanaethau ar gyfer troseddwyr ifanc.
 
Efallai y bydd perthynas â'r canlynol, hefyd:
- comisiynydd yr heddlu;
 
- awdurdod addysg ac ysgolion yr ardal;
 
- byrddau iechyd;
 
- adran materion tai'r cyngor.
 
Dyma ddyletswyddau arferol gweithiwr materion camddefnyddio
cyffuriau:
- llunio a chymryd camau adeiladol gyda grwpiau ac
unigolion;
 
- cydweithio'n agos â staff asiantaethau eraill ynglŷn â materion
cyffuriau;
 
- helpu i roi hyfforddiant a chynghorion am
gyffuriau/alcohol;
 
- nodi'r rhai sydd mewn perygl cyn gynted ag y bo modd a cheisio
osgoi rhagor o broblemau;
 
- diwallu anghenion unigol penodol;
 
- ysgwyddo cyfrifoldeb am drin a thrafod hyn a hyn o
achosion;
 
- gweithio gyda grwpiau bychain o blant mae'u rhieni'n
camddefnyddio cyffuriau a cheisio dyfeisio atebion ar y cyd;
 
- rhoi gwybodaeth a chymorth i rieni a chynhalwyr
clientiaid;
 
- monitro cynnydd rhaglenni cymorth;
 
- cadw cofnodion, adroddiadau a gohebiaeth ynglŷn â'r rhai sy'n
defnyddio'r gwasanaeth;
 
- cadw at gyfrinachedd;
 
- cadw golwg ar y deddfau, yr ymchwil a'r arferion diweddaraf am
bobl ifanc a chamddefnyddio cyffuriau.
 
Medrau a diddordebau
 Mae angen y canlynol:
- deall effeithiau corfforol, seicolegol a chymdeithasol
camddefnyddio cyffuriau a hanfod datblygiad plant a'r glasoed;
 
- gwybod Deddf 'Plant' 1989;
 
- medrau cyfathrebu da - ar lafar ac ar bapur fel ei gilydd;
 
- gallu adnabod sefyllfaoedd peryglus lle gallai rhywun ei
niweidio ei hun neu bobl eraill;
 
- natur aeddfed, cytbwys a sefydlog;
 
- agwedd dringar.
 
Byddai'n ddefnyddiol gwybod am wahanol ffyrdd o drin a thrafod
pobl sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol hefyd megis cyfweliadau
ysgogol, camau byrion a phenodol, diwenwyno a moddion amgen na
chyffuriau.
Meini prawf derbyn
 Mae Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol 'Gofal Cymdeithasol'
(lefel 3) neu gymhwyster cyfwerth yn hanfodol.  Fe fyddai
lefel 4 a chymhwyster proffesiynol perthnasol yn well.  At
hynny, mae angen dwy flynedd o brofiad o weithio mewn asiantaeth
statudol neu wirfoddol gyda phobl ifanc a pheth profiad o
gydweithio â staff gwahanol asiantaethau a chyflawni gwaith ynglŷn
â chamddefnyddio cyffuriau.  Fe fyddai profiad o weithio gyda
theuluoedd a rhoi hyfforddiant i bobl sy'n gaeth i gyffuriau o
fantais, hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Gan fod timau gweithredu dros faterion cyffuriau ar gynnydd mewn
sawl asiantaeth, mae digon o gyfleoedd i ddatblygu gyrfa a
chyflawni gwaith gwerthfawr.  Dyma faes sy'n ehangu, a bydd
angen cymorth ar bobl am flynyddoedd i ddod.  Gallai unrhyw
swydd yn y tîm dros faterion pobl ifanc arwain at gyfrifoldebau
rheoli ychwanegol.  Ar ôl cael hyfforddiant a chymwysterau
ychwanegol ym maes gwaith cymdeithasol, bydd rhagor o ddyrchafu'n
bosibl.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
 Gofal Cymunedol: www.communitycare.co.uk
 Gwirfoddolwyr Gwasanaethau Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
 Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
 Asiantaeth Genedlaethol yr Ifainc: www.nya.org.uk
 Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.