Cyflwyniad
Gwelir y defnydd o gyffuriau megis ecstasi, cocên a heroin yn
broblem gymdeithasol sydd ar gynnydd. Dyma hunllef waethaf
pob rhiant - boed sefyllfa wir neu ddychmygol. Nid dim ond
pobl ifanc sy'n camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, wrth
gwrs. Mae gan rai oedolion broblemau difrifol ynglŷn â nhw,
hefyd.
Yn aml, bydd gweithwyr ieuenctid yn rhan o wasanaeth ieuenctid a
chymuned adran addysg yr awdurdod lleol. Gan mai gwaith estyn
braich yw hwn, gallen nhw weithio o dan adain y gwasanaethau
cymdeithasol achos eu bod yn ymwneud â phobl sy'n agored i
niwed. Diben y swydd yw cynnig rhaglen addysg sy'n helpu pobl
ifanc i osgoi cyffuriau.
Amgylchiadau'r gwaith
Ble bynnag y bydd pobl ifanc yn cwrdd ar gyfer cymdeithasu, megis
canolfannau ieuenctid a chymuned, fe fydd angen ichi fod yno
hefyd. Fe fydd swyddi o'r fath yn rhai rhan-amser yn aml, ond
37 awr yw'r wythnos safonol fel arall. Rhaid gweithio y tu
allan i oriau'r swyddfa - gyda'r nos a thros y Sul gan amlaf.
Fydd y gweithle ddim yn un ffurfiol bob amser, a gallai'r gwaith
fod yn ingol.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae gweithwyr estyn braich yn canolbwyntio ar fro benodol yn ardal
yr awdurdod lleol gan feithrin cysylltiadau â phobl ifanc.
Maen nhw'n ceisio ymgysylltu â nhw yn eu milltir sgwâr i'w hatal -
trwy addysg - rhag defnyddio cyffuriau niweidiol. Ar ben
hynny, byddan nhw'n helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gymorth ar
gyfer rhoi'r gorau i gyffuriau. Mae sawl gweithiwr ieuenctid
yn rhan o brosiect atal ac ymwybyddiaeth o ran cyffuriau, ac maen
nhw'n atebol i gydlynydd y prosiect. Ar ôl dod i adnabod yr
ardal, bydd gweithwyr estyn braich yn meithrin cysylltiadau â
chanolfannau ieuenctid ac ati. Fe fyddan nhw'n ymuno â
chlybiau chwaraeon, cwmnïau drama a gweithgareddau cyffelyb eraill
i ddod i adnabod y bobl ifanc ac ennill eu hymddiried. Wrth
drin a thrafod pobl ifanc, bydd angen cyffyrddiad ysgafn ac
anffurfioldeb. Trefnir sesiynau addysg ffurfiol ac anffurfiol
fel ei gilydd heb osgoi trafod materion anodd o ran camddefnyddio
cyffuriau. Er bod rôl gweithiwr estyn braich yn ymwneud ag
addysg ac ymwybyddiaeth, gallan nhw drefnu sesiynau cwnsela a
hysbysu am gymorth sydd ar gael i'r rhai mae ei angen arnyn
nhw. Er enghraifft, os alcohol yw'r broblem, mae modd anfon
pobl i Alcoholigion Anhysbys. Mae amryw asiantaethau ar gyfer
gwahanol gyffuriau y gallai pobl ifanc fod yn gaeth iddyn nhw
hefyd, gan gynnwys meddygfeydd ac ysbytai.
All gweithwyr ieuenctid ddim rhoi barn feddygol na seicolegol
ond byddan nhw'n cyfeirio pobl at arbenigwyr fel y bo'n
briodol. Maen nhw'n cydweithio'n agos â gweithwyr
cymdeithasol, hefyd. Ar y cyfan, prif swyddogaeth gweithiwr
ieuenctid yw meithrin cysylltiadau â'r gymuned a'r gwasanaethau i
bobl ifanc. I'r perwyl hwnnw, rhaid llunio strategaethau
diwallu anghenion hysbys a hybu cynllun atal ac ymwybyddiaeth yn y
fro. Gan y gallai achosion camddefnyddio gynnwys sawl ffactor
arall, bydd cysylltiadau â'r teulu'n hanfodol, hefyd.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- hyblygrwydd i ymaddasu yn ôl sefyllfa gyfnewidiol a gweithio'n
effeithiol mewn nifer o sefyllfaoedd amrywiol gyda grwpiau ac
unigolion;
- gallu trefnu a chyflawni gwaith yn effeithiol;
- gallu derbyn, deall a chyfleu gwybodaeth a syniadau'n dda ar
lafar ac ar bapur fel ei gilydd;
- iechyd a stamina da;
- parodrwydd i weithio y tu allan i oriau arferol;
- ymroddiad i ddatblygu proffesiynol parhaus;
- medrau trefnu;
- gallu nodi cryfderau pobl ifanc mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac
anffurfiol.
O ran gwybodaeth, dylech chi ddeall y canlynol:
- gwaith ieuenctid yn broses addysgol;
- sut mae cyflawni gwaith ieuenctid yn ôl fframwaith cyfleoedd
cyfartal;
- materion sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc.
Yn y bôn, dylech chi fod yn strydgall.
Meini prawf derbyn
Gan fod modd bod yn weithiwr ieuenctid cymwysedig neu
anghymwysedig yn ôl amodau amser llawn neu ran-amser, profiad sy'n
bwysicaf. Byddai disgwyl profiad fel a ganlyn:
- gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion mewn sefyllfaoedd
ffurfiol ac anffurfiol;
- gweithio gyda grwpiau ac unigolion;
- trefnu rhaglen o weithgareddau addysg gymdeithasol;
- cyflawni gwaith ieuenctid ymhlith pobl ifanc;
- pennu ffiniau proffesiynol eglur gyda phobl ifanc ac
oedolion;
- cydweithio â phwyllgorau.
Bydd tystysgrif ym maes gwaith ieuenctid (neu gymhwyster
cyfatebol) o gymorth, hefyd. Fel arfer, bydd angen addysg
gyffredinol dda (TGAU mewn tri phwnc, o leiaf).
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae llawer o gyfleoedd ym meysydd addysg a gwaith cymdeithasol er
nad oes llwybr dyrchafu eglur ar ôl ymgymhwyso ar wahân i arweinydd
neu gydlynydd prosiect. Wrth gyflawni gwaith estyn braich,
bydd cyfle ichi arbenigo mewn meysydd megis iechyd y meddwl,
ceiswyr lloches, HIV ac ati. Nod y gallech chi anelu ato yn y
pen draw yw diploma gwaith cymdeithasol neu swydd yn y gwasanaeth
prawf. Ym maes addysg i oedolion, mae cyfleoedd i ddysgu pobl
am fedrau sylfaenol llythrennedd a rhifedd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Alcoholigion Anhysbys:
www.alcoholics-anonymous.org.uk/Professionals
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain:
www.basw.co.uk/about
Cymdeithas Cymdeithaseg Prydain: www.britsoc.co.uk
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymuned:
www.csv.org.uk/socialhealthcare
DrugScope www.drugscope.org.uk
Medrau er Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk
Efallai bod rhagor am y maes hwn yn swyddfa Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), llyfrgell eich bro neu swyddfa/llyfrgell
gyrfaoedd eich ysgol.