Gweithiwr gofal preswyl

Rhagarweiniad
Mae gofal cymdeithasol yn un o'r meysydd sy'n tyfu gyflymaf o ran darparu gwasanaethau llywodraeth leol, ac yn un o'r meysydd mwyaf heriol ond gwerth chweil. Mae'n darparu amrywiaeth o wasanaethau sy'n hollbwysig i les nifer fawr o'r unigolion yn ein cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed: pobl ifanc, pobl anabl, pobl hŷn, pobl ddi-waith, rhieni unigol neu ofalwyr, a phlant a theuluoedd sy'n gysylltiedig â mabwysiadu a maethu. Mae gweithwyr preswyl yn dod â dimensiwn ychwanegol i'r cyfrifoldeb hwn - gan fod angen iddynt weithio gyda'r rhai mewn perygl ac sydd ag anghenion arbennig ar sail lawn amser neu ran-amser. Cânt eu cyflogi gan bob math o asiantaethau awdurdod lleol ac asiantaethau gwirfoddol fel Barnardos, sefydliadau preifat ac asiantaethau cyflogaeth arbenigol.

Amgylchedd Gwaith
Mae gweithwyr preswyl yn gweithio'n bennaf mewn cartrefi plant, cartrefi seibiant a chartrefi gofal preswyl ar gyfer yr henoed. Fel bob amser yn achos gwaith gofal cymdeithasol, mae potensial am berygl a gofid gan y gallai pobl sy'n derbyn gofal fod yn fregus, yn isel, yn anabl, yn ansefydlog, yn ddibynnol ar gyffuriau ac weithiau yn heriol: wedi'u heffeithio mewn rhyw ffordd oherwydd anawsterau personol. Mae oriau anghymdeithasol - yn cynnwys sifftiau, gwaith gyda'r nos a thros y penwythnos - yn angenrheidiol. Nid yw'r rhan fwyaf o weithwyr yn aros dros nos, ond mae gan rai ohonynt ddyletswyddau sy'n golygu cysgu dros nos. Mae gwaith rhan-amser a rhannu swydd yn gyffredin. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith dan do.

Gweithgareddau o Ddydd i Ddydd
Wrth wraidd cyfrifoldeb gweithiwr preswyl yw'r ddyletswydd i ddarparu 'gofal a chymorth unigol i greu amgylchedd hapus, diogel a symbylol ar gyfer y bobl sy'n byw yn y cartref. Mae hyn yn cynnwys naill ai'n ymweld ag amrywiaeth o gartrefi neu hosteli, neu'n byw ynddynt, lle mae plant, pobl ifanc yn eu harddegau neu oedolion ag anghenion arbennig, neu bobl hŷn yn byw. Gall hyn gynnwys gweithio gyda phobl ag anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl, neu ddementia.  Mewn cartrefi plant maent yn monitro anghenion penodol y plentyn ac yn rhoi cymorth personol, emosiynol a chymdeithasol iddo: drwy ddarparu gweithgareddau chwaraeon, gweithgareddau creadigol a hamdden, gosod ffiniau o ran ymddygiad, sicrhau eu diogelwch a gweithredu fel model rôl da. Efallai hefyd y byddant yn helpu i ddod o hyd i deuluoedd i blant fyw gyda nhw ac i'w helpu i ymaddasu at fywyd teuluol. Byddant hefyd yn helpu pobl ifanc sydd ar fin gadael gofal ffurfiol i baratoi am y byd y tu allan a gofynion byw'n annibynnol. Byddant yn cyfrannu at hyfforddiant recriwtio a chymorth ar gyfer gofalwyr maeth, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr annibynnol.  Yn achos oedolion, mae gweithwyr preswyl yn rhoi cymorth i breswylwyr drwy gynorthwyo â thasgau gofal personol a bywyd o ddydd i ddydd, gan roi cymorth iddynt fyw bywydau cyflawn gydag ymdeimlad o les. Mae rhai yn eu helpu i hawlio budd-daliadau, i bennu cyllideb, i gymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden ac i ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol a phersonol.

Ym mhob achos, bydd y gweithiwr gofal yn gwrando, yn siarad, yn annog, yn cydymdeimlo, yn cynghori ac yn rhoi cymorth o ran dewisiadau heb anghofio'r angen i fod yn wrthrychol yn broffesiynol. Caiff preswylwyr gymorth i ddod o hyd i ddiddordebau a fydd yn difyrru a chânt eu hannog i ymddiddori mewn hobïau, ac er efallai na fydd y gweithiwr gofal yn rhannu'r un brwdfrydedd neu ddiddordebau penodol, byddai'n gefnogol o'r unigolyn i sicrhau ei fod yn cyflawni'r canlyniad dymunol. Bob dydd, bydd y gweithiwr gofal yn gweithio'n agos gyda gweithwyr gofal proffesiynol eraill gan gynnwys meddygon, seicolegwyr, athrawon, nyrsys, swyddogion prawf, cydweithwyr ac asiantaethau allanol fel y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, Age Concern a Barnardos. Maent yn ceisio creu cysylltiadau â theuluoedd preswylwyr a'r gymuned leol hefyd fel gall preswylwyr gymryd rhan mewn digwyddiadau lleol.  Mae gan weithwyr preswyl gyfrifoldebau goruchwylio i'r Rheolwr Cofrestredig, ac weithiau, gallant gyfrannu at ymsefydlu staff newydd.

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i'r gweithiwr gofal f

  • od â diddordeb dilys mewn pobl ac felly, mae'n rhaid iddo feddu ar y canlynol; 
  • y gallu i uniaethu'n llwyddiannus â phlant, pobl ifanc, teuluoedd a/ neu oedolion o gefndiroedd a diwylliannau gwahanol ac ennill ymddiriedaeth a pharch; 
  • sensitifrwydd; 
  • trugaredd; 
  • amynedd; 
  • goddefgarwch; 
  • sgiliau cyfathrebu da; 
  • dealltwriaeth am gyfle cyfartal a deddfwriaeth briodol arall; 
  • y gallu i ymdopi â sefyllfaoedd dyrys ac anodd ac ymddygiad heriol, gan gynnwys camdriniaeth eiriol a chorfforol; 
  • yr aeddfedrwydd i allu helpu pobl i wynebu problemau poenus a gofidus; 
  • dealltwriaeth am eich gwerthoedd personol eich hun; 
  • o ran plant: dealltwriaeth am rôl a chyfrifoldebau asiantaeth gofal plant statudol ac am reoliadau preswyl plant.

Mae hefyd yn ddefnyddiol bod yn hyblyg, meddu ar feddwl agored, gallu ymdopi â newid a gweithio fel rhan o dîm.

Gofynion Mynediad
Yng Nghymru, disgwylir i bobl sy'n gweithio yn y maes hwn fodloni'r gofynion statudol. Mae hyn yn cynnwys:

  • cadw at God Ymarfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol; 
  • ymgymryd â hyfforddiant ymsefydlu (fel y'i pennir gan y Cyngor Sgiliau Sector) o fewn chwe wythnos i ddechrau cyflogaeth fel arfer; 
  • cwblhau dyfarniad y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar lefel Ddiploma, fel y bo'n briodol ar gyfer y grŵp defnyddwyr gwasanaeth (plant neu oedolion) ac unrhyw hyfforddiant penodol ychwanegol fel y mae ei angen ar gyfer eu rôl; 
  • mae angen i Weithwyr Preswyl Gofal Plant gofrestru â'r Cyngor Sgiliau Sector. Efallai y bydd angen i weithwyr Gofal Oedolion wneud hyn yn y dyfodol hefyd.

Mae'n bosibl gwneud gwaith preswyl â phrofiad perthnasol, mewn, er enghraifft, gwaith gwirfoddol, neu waith am dâl gyda phlant, pobl ifanc a/neu grwpiau o oedolion sy'n agored i niwed.

Posibiliadau a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae'n bosibl gwneud cynnydd gyrfaol chwim a gall gweithwyr gofal cymdeithasol ddod yn uwch weithwyr a/neu'n rheolwyr cartrefi preswyl neu symud i feysydd eraill mewn gwaith cymdeithasol. Maes gwasanaeth cymdeithasol sy'n tyfu yw hwn a disgwylir i weithwyr proffesiynol barhau i ddysgu ac ymestyn eu sgiliau ar ôl ennill y cymhwyster perthnasol.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol www.socialcareassociation.co.uk
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain www.basw.co.uk
Cyngor Gofal Cymr www.ccwales.org.uk
Cyngor Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal www.hpc-uk.org
Gwirfoddolwyr Gwasanaethu'r Gymuned www.csv.org.uk/socialhealthcare
Sgiliau Gofal a Datblygu www.skillsforcareanddevelopment.org.uk
Sgiliau Gofal www.skillsforcare.org.uk
Y Coleg Gwaith Cymdeithaso www.collegeofsocialwork.org

Mae'r Brifysgol Agored wedi llunio adnodd rhyngweithiol am ddiwrnod ym mywyd gweithiwr cymdeithasol: http://www.open.edu/openlearn/body-mind/social-care/social-work/try-day-the-life-social-worker

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links