Gweinyddwr pwyllgorau

Cyflwyniad
Darparu gwasanaethau pwyllgor a chefnogaeth weinyddol gysylltiedig effeithiol ac effeithlon i'r Cyngor a'i aelodau, ac, yn ogystal, dylanwadu'n uniongyrchol ar sicrhau bod cyfarfodydd yn cael eu trefnu a'u cynnal yn llwyddiannus o fewn system gwneud penderfyniadau'r Cyngor a chydlynu unrhyw bwyntiau gweithredu sy'n codi yn unol â chyfansoddiad y Cyngor a deddfwriaeth berthnasol arall.

Amgylchedd Gwaith
Fel arfer, swydd wedi'i lleoli mewn swyddfa yw hon, ond bydd disgwyl i ddeilydd y swydd fynychu cyfarfodydd nos mewn lleoliadau allanol (adeiladau yn y gymuned ac ati) a gallai hyn gynnwys elfen o weithio ar eich liwt eich hun.

Gweithgareddau Dyddiol

  • sicrhau bod gofynion deddfwriaethol a gweithdrefnau'r Cyngor yn cael eu dilyn yn iawn, er enghraifft pan fyddant yn ymwneud â'r broses gwneud penderfyniadau ffurfiol;
  • yn unol â chyfarwyddyd, trefnu a gwasanaethu nifer o Fforymau a Threfniadau Cydweithio/Gweithgorau ayyb;
  • sicrhau bod cofnodion cyfarfodydd yn cael eu cymryd yn llawn a symud unrhyw bwyntiau gweithredu yn eu Blaenau;
  • cynnal unrhyw gofnodion sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni meysydd gwaith y gwasanaeth pwyllgorau;
  • darparu gwasanaethau gweinyddol eraill sy'n berthnasol i swyddogaeth ehangach y Gwasanaethau Democrataidd;
  • cyd-gysylltu â'r Cyfarwyddwyr a Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgor priodol ar faterion gweithdrefnol yn ymwneud â gwaith y pwyllgorau a materion gweithredol parthed amserlennu rhaglenni gwaith y pwyllgorau hynny;
  • rhoi cyngor i aelodau ar weithdrefnau a phrotocolau cyfansoddiadol y Cyngor a helpu Aelodau i godi materion fel rhan o'r broses pwyllgorau;
  • cydgysylltu â swyddogion o nifer o wasanaethau o fewn y Cyngor ynglŷn â materion a godir mewn Pwyllgorau Craffu neu gan Gadeiryddion/Is-gadeiryddion y pwyllgorau hynny neu rai eraill;
  • cael gafael ar a chasglu tystiolaeth gan aelodau a swyddogion yr awdurdod, sefydliadau allanol, preswylwyr lleol ac eraill ar destunau a materion yn ôl y gofyn;
  • darparu gwasanaethau cefnogol ar gyfer aelodau etholedig yn cynnwys; datblygu cyfleoedd hyfforddi a datblygu, trefnu cyfweliadau blynyddol cefnogi a datblygu aelodau (lle bo hynny'n angenrheidiol), cynllunio a chyhoeddi adroddiadau blynyddol aelodau.

Sgiliau a Diddordebau

  • sensitifrwydd/ymwybyddiaeth wleidyddol;
  • sgiliau ysgrifenedig a llafar o safon uchel;
  • gallu i baratoi deunydd ysgrifenedig cryno a manwl, yn cynnwys dadansoddi trafodaethau sy'n digwydd mewn cyfarfodydd a chofnodi'r penderfyniadau a wneir;
  • gallu i weithio mewn tîm yn ogystal ag yn unigol;
  • trefnus;
  • gallu i ymdopi dan bwysau;
  • gallu i flaenoriaethu gwaith, a gweithio o fewn terfynau amser;
  • sgiliau TG o ansawdd uchel.

Gofynion Mynediad
Fel arfer, wedi cymhwyso i safon gradd neu gyfatebol ac yn meddu ar brofiad o weithio o fewn llywodraeth leol neu amgylchedd tebyg.  Fel arall, gellid ystyried cefndir o wneud gwaith tebyg o fewn llywodraeth leol neu amgylchedd gwaith tebyg.

Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Mae gweinyddu pwyllgorau'n cynnig gyrfa dda ynddo'i hun, ond gallai hefyd fod yn gychwyn ar yrfa mewn gwasanaethau Cyngor neu Gyhoeddus eraill. Yn ddibynnol ar strwythur y sefydliad , gallai bod yn arweinydd tîm neu gael swyddogaeth reolaethol gynnig cyfleoedd hyrwyddo ar gyfer y dyfodol.

Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
Institute of Business Administration www.instam.org

Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.

Related Links