Cyflwyniad
Mae gan yr awdurdodau lleol amrywiaeth helaeth o weithwyr mewn
gwahanol swyddi. Mae rhai'n gweithio yn ôl amodau amser llawn
ac mae rhai'n gweithio'n rhan-amser neu'n rhannu swydd.
Gallen nhw gael eu talu bob wythnos neu bob mis, a gallai rhai
hawlio tâl am oriau ychwanegol, shifftiau a dyletswydd y tu allan i
oriau arferol, lwfans car a/neu fonws. Mae modd iddyn nhw
ddewis ymuno â chynllun pensiwn a gofyn i'r cyfraniadau gael eu
tynnu oddi wrth eu cyflogau. Gwaith adran y cyflogresi yw
gofalu bod pawb yn cael y cyflog cywir a diweddaru'r cofnodion
perthnasol. Ar ben hynny, mae rhai cynghorau'n gweinyddu
cyflogresi ysgolion sydd i'w rheoli'n lleol, gan ddefnyddio
gwybodaeth mae gweinyddwyr yr ysgolion wedi'i chyflwyno.
Amgylchiadau'r gwaith
Mae cynorthwywyr cyflogresi'n gweithio yn swyddfeydd y cyngor, gan
gyflawni'r rhan fwyaf o'u gwaith â chyfrifiaduron wrth eu
desgiau. Byddan nhw'n gwneud y gwaith mae'u swyddog
cyflogresi wedi'i roi iddyn nhw. Bydd cyfleoedd i weithio'n
rhan-amser a rhannu swydd weithiau, hefyd.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae cynorthwywyr cyflogresi'n rhoi data i gyfrifiaduron erbyn
dyddiad talu gweithwyr y cyngor bob wythnos neu fis. Fel
arfer, bydd gweithwyr yn cael eu talu ar ddiwrnod penodol yn ystod
yr wythnos. Fe fydd cyflogau'r rhai sydd i'w talu'n fisol yn
cael eu trosglwyddo i'w cyfrifon banc tua diwedd y mis a bydd
adroddiad o'i gyflog yn mynd at bob un.
Bydd staff y cyflogresi'n gwirio dalenni amser sy'n dangos faint
o oriau mae pawb wedi'u gweithio gan bennu unrhyw fonws, goramser a
thaliadau ychwanegol eraill sy'n ddyledus a didynnu treth incwm,
yswiriant gwladol a chyfraniadau at y pensiwn. Byddan nhw'n
paratoi adroddiad ac ynddo'r wybodaeth honno i gyd i bob
gweithiwr. Rhaid gofalu bod y staff yn cael unrhyw gynnydd
blynyddol sy'n ddyledus iddyn nhw, yn ogystal â thâl gwyliau,
hefyd. Maen nhw'n defnyddio cyfrifiannell a chyfrifiadur yn
eu gwaith. Rhaid cadw cofnodion yn gywir i ofalu na fydd neb
yn cael mwy neu lai o arian nag sy'n briodol.
Maen nhw'n cyflawni dyletswyddau cyffredinol megis llungopïo
dogfennau ac ateb y ffôn, hefyd. Gall llawer o'r gwaith fod
yn ailadroddus.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai pwysicaf:
- trin a thrafod sustemau TG;
- natur drefnus a gallu blaenoriaethu'ch gwaith;
- gallu gweithio'n fanwl gywir yn ôl dull;
- rhoi sylw i fanylion;
- gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac yn rhan o
dîm;
- gallu gweithio yn ôl amserlenni caeth;
- gallu canolbwyntio am oriau.
Rhaid cadw gwybodaeth yn gyfrinachol. Er enghraifft,
ddylen nhw ddim trafod cyflogau na materion personol gweithwyr
(weithiau, gallai fod angen iddyn nhw drin a thrafod gorchmynion
atodi enillion neu benderfyniadau llysoedd am ddyledion, gan ofalu
bod arian yn cael ei dynnu oddi wrth gyflog gweithiwr a'i roi i
swyddfa'r llys).
Meini prawf derbyn
Mae angen 5 TGAU (gradd C neu'n uwch) - gan gynnwys Mathemateg a
Saesneg - fel arfer, neu brofiad o waith lle bu eisiau medrau
rhifedd a llythrennedd. Mae gan sawl ymgeisydd gymwysterau
uwch, fodd bynnag. I fod yn gynorthwywr cyflogresi, mae angen
profiad o ddefnyddio cronfeydd data cyfrifiadurol ar gyfer
cyflogresi.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mewn cyngor bychan, gallai fod un neu ddau swyddog sy'n gyfrifol
am dîm bychan ac ynddo ddau neu dri chynorthwywr. Mewn cyngor
mawr, gallai fod dau neu dri phrif/uwch swyddog cyflogresi, wyth
neu naw swyddog cyflogresi a rhyw 20 o gynorthwywyr. Mae
angen profiad o fod yn gynorthwywr cyflogresi cyn eich dyrchafu'n
swyddog cyflogresi.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg: www.aat.co.uk
Sefydliad Breiniol y Proffesiynolion Cyflogresi: http://www.cipp.org.uk/
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.