Cyflwyniad
 Y cynghorau lleol sy'n gyfrifol am drefnu pob etholiad yn y
Deyrnas Gyfunol megis etholiadau'r Cynulliad, Senedd San Steffan a
Senedd Ewrop, etholiadau llywodraeth leol ac unrhyw
is-etholiadau.  Gorchwyl swyddogion etholiadol yw helpu i
drefnu'r broses o ddiwrnod galw'r etholiad nes bod y pleidleisiau
wedi'u cyfrif.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mewn swyddfa yn neuadd y sir y byddwch chi'n gweithio, fel
arfer.  37 awr yw'r wythnos safonol.  Gallai fod modd
rhannu swydd, hefyd.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae swyddogion etholiadau'n helpu rheolwyr etholiadau i gyflawni
amrywiaeth eang o orchwylion fel y gall etholiad fynd rhagddo'n
esmwyth, gan gynnwys:
- gofalu bod cofrestr yr etholwyr yn gywir trwy anfon ffurflenni
cofrestru i bob cartref;
 
- archwilio'r ffurflenni cofrestru sydd wedi'u cyflwyno i ofalu
eu bod yn gywir;
 
- prosesu papurau enwebu ymgeiswyr ar gyfer etholiad;
 
- trefnu i bapurau pleidleisio gael eu hargraffu;
 
- trefnu i ystafelloedd gael eu defnyddio'n fannau
pleidleisio;
 
- cyflogi a goruchwylio staff dros dro sy'n gweithio ar ddiwrnod
pleidleisio neu yn ystod y cyfnod cyn etholiad;
 
- anfon papurau pleidleisio at y rhai a hoffai fwrw pleidlais
trwy'r post;
 
- ateb ymholiadau'r cyhoedd;
 
- cadw golwg ar newidiadau yn y gyfraith ynglŷn ag etholiadau a
monitro;
 
- paratoi adroddiadau ac ystadegau.
 
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- cyfathrebu'n dda;
 
- gallu trin a thrafod pobl o bob lliw a llun;
 
- medrau trefnu da;
 
- gallu gweithio'n drefnus;
 
- gallu blaenoriaethu gorchwylion a gweithio o dan bwysau
weithiau;
 
- gallu gweithio mewn tîm;
 
- manwl gywirdeb;
 
- medrau technoleg gwybodaeth.
 
Meini prawf derbyn
 Does dim meini prawf penodol er y bydd rhai cyflogwyr yn mynnu 5
TGAU A*-C gan gynnwys mathemateg a'r Gymraeg/Saesneg.  Ar y
llaw arall, gallai cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol neu
Lefel Ganolradd 'Gweinyddu Busnes' Cymhwyster Galwedigaethol
Cenedlaethol Cyffredinol fod yn dderbyniol.  Cewch chi
hyfforddiant yn y swydd.  Mae cynghorau lleol yn annog
swyddogion etholiadau i astudio ar gyfer tystysgrif/diploma
Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol sy'n ymwneud â chofrestru
etholwyr, gweinyddu etholiadau, trefniadau etholiadol, rheoli
etholiadau a materion ariannol etholiadau.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Gallai fod cyfle i gael eich dyrchafu'n rheolwr etholiadau. 
Gallai fod modd symud i adran y gwasanaethau democrataidd a
gweithio'n agosach gyda'r cynghorwyr, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cymdeithas Gweinyddwyr Etholiadol: www.aea-elections.co.uk
 Sefydliad Breiniol Gweithredwyr Cyfreithiol:
www.cilex.org.uk
 Sefydliad Arwain a Rheoli: http://www.i-l-m.com
 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: www.wlga.gov.uk
 Cymdeithas y Gyfraith: www.lawsociety.org.uk
Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.
       
      
          Related Links