Cynorthwy-ydd cyfreithiol

Cyflwyniad
Mae gan Gynghorau ddyletswyddau y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni dan y gyfraith.  Maent hefyd yn prynu symiau mawr o gyflenwadau ac offer ac yn defnyddio llawer o gontractau i gyflawni gwaith.  At hynny, maen nhw'n gyflogwyr sydd â rhwymedigaethau dan gyfreithiau iechyd a diogelwch a chyfreithiau cyflogaeth.  Mae gan bob cyngor adran gyfreithiol sy'n cynghori rheolwyr ac aelodau etholedig ar faterion cyfreithiol. Mae cynorthwywyr cyfreithiol yn cynnig cymorth gweinyddol ar gyfer y gwaith hwn.

Amgylchedd Gwaith
Mae cynorthwywyr cyfreithiol wedi'u lleoli mewn swyddfeydd yn bennaf, ond o bryd i'w gilydd byddant yn mynychu cyfarfodydd mewn adrannau eraill neu'r llys.  Fel arfer maent yn gweithio wythnos 37 awr, ond mae gwaith rhan amser a chyfleoedd rhannu swyddi hefyd ar gael.

Gweithgareddau Dyddiol
Mae cynorthwywyr cyfreithiol yn cynnig cymorth i gyfreithwyr mewn nifer o feysydd gwahanol o'r gyfraith yn ymwneud ag, er enghraifft, priffyrdd, tai, cynllunio neu wasanaethau cymdeithasol.  Fel arfer mae dyletswyddau cynorthwywyr cyfreithiol yn cynnwys:

  • dyletswyddau gweinyddol cyffredinol fel ffeilio, ateb y ffôn a mewnbynnu data i gyfrifiaduron;
  • helpu i ddrafftio dogfennau cyfreithiol;
  • llunio contractau ar gyfer gwaith i'w gyflawni gan gontractwyr allanol;
  • helpu i baratoi gorchmynion cadw coed, gorchmynion rheoli traffig, gorchmynion troi allan o dai, neu orchmynion creu llwybrau cerdded a dargyfeiriadau;
  • paratoi gwybodaeth a'i hanfon i staff y Llys Sirol os yw'r cyngor yn bwriadu erlyn rhywun am beidio â thalu dyledion (megis ôl-ddyledion rhent);
  • mynychu Llysoedd yr Ynadon i gynorthwyo cyfreithwyr drwy drefnu eu gwaith papur a chymryd nodiadau;
  • cysylltu â chleientiaid a sicrhau lefel dda o ofal cwsmeriaid;
  • rhoi cyngor i adrannau eraill y cyngor ar faterion cyfreithiol yn ymwneud â'u maes gwaith;
  • sicrhau eu bod yn gwybod am ddatblygiadau cyfreithiol newydd.

Sgiliau a Galluoedd
Mae angen i gynorthwywyr cyfreithiol:

  • feddu ar wybodaeth am agweddau penodol ar y gyfraith;
  • deall cyfrifiaduron a meddu ar sgiliau ymchwil da; 
  • bod yn drefnus;
  • gweithio'n fanwl gywir; 
  • gallu gweithio'n effeithiol mewn tîm ac ar eu liwt eu hunain;
  • gallu cyfathrebu, wyneb yn wyneb ac yn ysgrifenedig;
  • gallu cyflwyno a siarad yn gyhoeddus.

Gofynion Mynediad
Mae'r rhan fwyaf o gynghorau yn gofyn am o leiaf 4 TGAU/Gradd Safonol neu gymwysterau cyfatebol (A*-C/1-3) gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, ond mae gan lawer gymwysterau uwch, gan gynnwys Lefelau A a graddau o bryd i'w gilydd.  Bydd angen rhywfaint o brofiad o weithio mewn rôl cymorth gweinyddol, o bosibl mewn maes cyfreithiol, ond nid yw hyn yn hanfodol. Gall rhai cynghorau ofyn am o leiaf flwyddyn o brofiad yn ogystal â Rhan I o gymhwyster CILEX.  Fel arfer anogir cynorthwywyr cyfreithiol i astudio am gymhwyster paragyfreithiol proffesiynol drwy Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (CILEX).

Cyfleoedd yn y Dyfodol
Gall cynorthwywyr cyfreithiol gael cyfle i arbenigo mewn un maes o'r gyfraith.  Ceir cyfleoedd am ddyrchafiad i swydd uwch gynorthwy-ydd cyfreithiol, sy'n cynnwys mwy o gyfrifoldeb a goruchwylio aelodau o staff ar lefel is.  Gall cynorthwywyr cyfreithiol sy'n cymhwyso drwy Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol gyflawni hyfforddiant pellach i fod yn gyfreithwyr.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol www.cilex.org.uk
Sefydliad y Gweithwyr Paragyfreithiol www.theiop.org
Cymdeithas Genedlaethol y Gweithwyr Paragyfreithiol Trwyddedig www.nationalparalegals.co.uk
Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol www.slgov.org.uk
Cymdeithas y Gyfraith www.lawsociety.org.uk

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links