Cyflwyniad
 Diben clerc yr uned yw cynnig cymorth clercaidd i swyddogion sy'n
gyfrifol am iechyd a diogelwch gweithwyr mewn siopau, ffatrïoedd,
bwytai, warysau, tafarnau, clybiau chwaraeon a stadia.  Trwy
dynnu sylw at bethau allai fod yn beryglus a gweithredu cyn y
gallai damweiniau ddigwydd, mae swyddogion a staff iechyd
amgylcheddol yn hwyluso lles gweithwyr.  Mae clercod yn rhan
bwysig o'r uned sy'n bwriadu datrys pob problem, nid achosi
problemau.  Nod yr uned yw gwrando ar bobl fel y gall eu
hysgogi a'u harwain tuag at wella'r amgylchedd.
Amgylchiadau'r gwaith
 Gan y byddwch chi'n gweithio mewn swyddfa, rhaid eistedd wrth
gyfrifiadur am oriau mewn man allai fod yn wyntog, yn llaith neu'n
swnllyd, heb ei awyru'n dda.  Fe fydd rhaid codi a chario
ffeiliau, ymestyn a phlygu.  Trwy weithio yn yr uned dros
faterion iechyd a diogelwch, fodd bynnag, gallwch chi ddisgwyl y
bydd problemau o'r fath yn cael pob ystyriaeth briodol.  Rhaid
gwisgo'n daclus a gweithio 37 awr yr wythnos, er na fydd shifftiau
nac oriau anghymdeithasol.
Gweithgareddau beunyddiol
 Y prif orchwylion yw trin a thrafod ymholiadau a chwynion y bydd
pobl yn eu cyflwyno naill ai trwy ymweld â'r uned, ffonio, anfon
llythyr neu roi adroddiad.  Rhaid i'r clerc gadw a diweddaru
gwybodaeth, paratoi ystadegau, ffeilio (gan gynnwys ffeil
ariannol), archebu deunyddiau a defnyddio offer.  Byddwch
chi'n treulio llawer o amser yn teipio, hefyd.  Cyfrifiadur,
ffôn a pheiriannau argraffu, llungopïo a lamineiddio yw prif offer
y clerc, a bydd rhaid gweithio yn ôl amserlenni gweithwyr eraill
gan amlaf.  Fe fyddwch chi'n ymwneud â'r cyhoedd a swyddogion
adrannau eraill bob dydd a gallai fod angen cymryd rhan mewn
prosiectau arbennig megis ymgyrchoedd er gweithleoedd iach neu
seminarau a chyrsiau o bryd i'w gilydd.
Medrau a diddordebau
 Dyma'r rhai hanfodol:
- medrau ymarferol;
 
- medrau teipio;
 
- gallu trin a thrafod symiau a manylion;
 
- hyder;
 
- agwedd dringar;
 
- gallu cyd-dynnu â phobl o sawl cefndir;
 
- medrau trefnu da.
 
Byddai synnwyr digrifwch o gymorth hefyd, a dylech chi fod yn
weddol heini.  Gan fod cynghorau lleol wastad yn cyflwyno
syniadau, mentrau a chynlluniau gweithredu, fe fydd yn bwysig ichi
allu ymaddasu yn ôl newidiadau a wynebu her.
 
 Meini prawf derbyn
 Dylech chi allu teipio'n gyflym, trin a thrafod bysellfwrdd a
defnyddio amryw raglenni cyfrifiadurol megis Microsoft
Windows.  Mae hyfforddiant ar gael yn y gwaith.  Gallai
profiad o ofalu am gwsmeriaid fod yn ddefnyddiol neu, weithiau, yn
hanfodol.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Mae gobaith rhesymol y byddwch chi'n cael eich dyrchafu'n uwch
weinyddwr maes o law ar yr amod eich bod wedi gwella'ch cymwyseddau
technegol ac ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau.  Mae cyfleoedd y
tu allan i'r awdurdodau lleol - Awdurdod Gweithredol Iechyd a
Diogelwch, er enghraifft - yn ogystal â chyfleoedd i symud i
feysydd cyffelyb (megis iechyd yr amgylchedd) ac adrannau
eraill.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Asiantaeth Ewrop dros Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith:
https://osha.europa.eu/en/campaigns/index_html
 Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol: www.iosh.co.uk
 Bwrdd Arholi Gwladol Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol:
www.nebosh.org.uk
Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.