Clerc/gweithredydd prosesu geiriau
Cyflwyniad
Mae Clerc a Gweithredydd Prosesu Geiriau yn darparu cefnogaeth
weinyddol effeithiol ac effeithlon ar gyfer adran. Mae'r
dyletswyddau gweinyddol cyffredinol yn cynnwys teipio, prosesu
data, delio ag ymholiadau ffôn, sganio a mynegeio dogfennau.
Amgylchedd Gwaith
Mewn swyddfa y bydd y gwaith yn cael ei wneud yn bennaf.
Gweithgareddau Dyddiol
Bydd union ddyletswyddau Clerc/Gweithredydd Prosesu Geiriau yn
amrywio yn ddibynnol ar yr adran y mae'r person yn gweithio ynddi.
Gallai'r dyletswyddau gynnwys:
- darparu gwasanaeth clerigol, teipio a phrosesu geiriau i
adran;
- darparu cefnogaeth glerigol, teipio, mewnbynnu data a phrosesu
geiriau effeithiol ac effeithlon i gydweithwyr;
- bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau clerigol yr adran a chyfrannu
at anghenion y gwasanaeth;
- sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn derbyn y cyngor a chymorth
arbenigol y maent ei angen drwy eu cyfeirio'n gywir i'r Swyddogion
priodol o fewn y Cyngor;
- derbyn arian a thaliadau i gyfrifon priodol ar ran y
Cyngor;
- cydymffurfio â nodau ac amcanion yr adran yn cynnwys
gweithdrefnau sicrhau ansawdd neu iechyd a diogelwch sydd mewn
grym;
- prosesu post sy'n dod mewn ac allan;
- delio gydag ymholiadau ffôn;
- ffeilio pob cyfathrebiad.
Sgiliau a Diddordebau
Bydd gan Glerc/Gweithredydd Prosesu Geiriau:
- sgiliau datrys problemau;
- sgiliau gwneud penderfyniadau;
- sgiliau TG da, yn cynnwys gallu i ddefnyddio pecynnau Windows a
Microsoft Office;
- gallu i deipio a defnyddio Microsoft Word;
- sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig gwych;
- gallu i weithio'n gywir o dan bwysau ac o fewn terfynau amser
llym;
- gallu i ymwneud â phobl ar bob lefel a mynnu parch;
- profiad o weithio o fewn tîm cefnogaeth weinyddol.
Gofynion Mynediad
Mae'n rhaid bod gan Glerc a'r Gweithredydd Prosesu Geiriau bum
TGAU neu gymwysterau cyfatebol ar y Fframwaith Cymwysterau
Cenedlaethol.
Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Bydd gweithio fel Clerc/Gweithredydd Prosesu Geiriau yn rhoi
llawer o sgiliau trosglwyddadwy i chi y bydd modd eu defnyddio mewn
amrediad o swyddi gweinyddol, a fydd yn caniatáu i chi symud ymlaen
o fewn unrhyw sefydliad.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Cyngor Gweinyddiaeth www.cfa.uk.com
European Computer Driving Licence www.ecdl.com
Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell
yrfaoedd eich ysgol.
Related Links