Gweithredydd cynllunio trwy gymorth cyfrifiadur (CAD)

Cyflwyniad
Mae gan Weithredydd Cynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) wybodaeth eang am ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i greu dyluniadau prosiect.  Yn ogystal ag o fewn y diwydiant pensaernïol mae angen Gweithredyddion CAD hefyd mewn diwydiannau eraill, peirianneg fecanyddol, cynllunio gerddi a thirlunio a systemau goleuo ar gyfer adeiladau cyhoeddus a phreifat.

O fewn llywodraeth leol, prif bwrpas y swydd yw dylunio a gweithredu prosiectau sy'n gost-effeithiol ac o ansawdd uchel, cyrraedd a chynnal safonau uchel o safbwynt ansawdd dylunio ac ansawdd gweledol, gweinyddu prosiectau adeiladu'n effeithlon a darparu gwasanaeth a chynnyrch sy'n cwrdd â, neu'n rhagori ar, ddisgwyliadau'r cleient.

Amgylchedd Gwaith
Lleolir y gwaith mewn swyddfa gan fwyaf gydag ymweliadau achlysurol ag adeiladau'r Cyngor sy'n bodoli eisoes neu safleoedd lle mae gwaith adeiladu'n digwydd.

Gweithgareddau Dyddiol
Bydd dyletswyddau penodol y Gweithredydd Cynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) yn amrywio, yn ddibynnol ar faint a math y Cyngor a'r prosiectau sydd dan sylw.  Gall y dyletswyddau gynnwys:

  • bod yn swyddog prosiect arweiniol ar un neu fwy o brosiectau ar unrhyw adeg; 
  • derbyn a datblygu brîff dylunio;
  • sefydlu a chytuno ar raglen gyflawni;
  • datblygu cynlluniau amlinellol;
  • arwain yn greadigol o fewn y broses datblygu cynllun yn cynnwys diffinio ffurf ac estheteg yr adeilad, manylu ar ergonomeg a chyfluniad gofodol a datblygu cynigion lliw a gorffeniad;
  • rheoli mewnbwn y staff iau sy'n gweithio dan eich cyfarwyddyd;
  • briffio a goruchwylio mewnbwn cydweithwyr eraill yn cynnwys peirianwyr strwythurol, peirianwyr gwasanaethau adeiladu, aseswyr BREEAM, penseiri tirlunio ac ecolegwyr;
  • cadeirio a chadw cofnodion cyfarfodydd y tîm dylunio;
  • ymgynghori a chyfathrebu â'r cleient a budd-ddeiliaid eraill drwy gydol y prosiect; 
  • helpu a chyfarwyddo Syrfewyr Meintiau i gynhyrchu cyllideb ar gychwyn y prosiect a chynghori Syrfewyr Meintiau am unrhyw newidiadau sy'n codi;
  • casglu dogfennau cynllunio a rheoliadau adeiladu at ei gilydd;
  • cynhyrchu brasluniau pensaernïol yn cynnwys brasluniau trefn cyffredinol, gweddluniau, manylion technegol, deunydd a lliwiau yn ogystal â'r manylebau technegol perthynol;
  • helpu Syrfewyr Meintiau i gynhyrchu dogfennaeth tendrau a gweinyddu'r broses dendro;
  • cadeirio cyfarfodydd cynnydd ar safle a gweinyddu'r cytundeb adeiladu;
  • helpu'r Syrfewyr Meintiau i gytuno ar gyfrif terfynol;
  • cynorthwyo swyddogion prosiect uwch eraill gyda'r uchod i gyd lle bo angen;
  • cyfrifoldeb arolygol dros staff prosiect.

Sgiliau a Diddordebau
Bydd y canlynol gan Weithredydd Cynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD):

  • gallu i ddefnyddio AutoCad;
  • gallu i ddefnyddio MS Word a MS Excel;
  • gallu i ddarllen a deall cynlluniau adeiladu;
  • gwybodaeth am algebra a geometreg syml a ddefnyddir i gyfrifo ffigurau a niferoedd, yn cynnwys cyfrannau, canrannau, cylcheddau a chyfeintiau;
  • gallu i ddadansoddi cyfarwyddyd, boed yn ysgrifenedig, llafar, ar ffurf diagram neu restr;
  • profiad dylunio mewn sawl math o brosiect adeiladu;
  • gwybodaeth am reoliadau adeiladu cyfredol yn cynnwys hygyrchedd dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a rheoliadau tân;
  • gwybodaeth am BREEAM;
  • gwybodaeth am brosesau cynllunio cyfredol;
  • gallu i fod yn ddymunol a pharod i helpu a chydweithredu wrth ymdrin ag eraill.

Gofynion Mynediad
Fel arfer bydd gan Weithredydd Cynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) HNC neu HND mewn dylunio pensaernïol, technoleg dylunio, tirfesur adeiladau neu bwnc tebyg.  Mae'r cyrsiau hyn yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i fyfyrwyr fod yn aelodau effeithiol a hanfodol o dimau dylunio ac i allu cyfrannu at gynllunio ac adeiladu amrywiaeth o fathau o adeiladau'n fanwl.

Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
Mae'r Gweithredydd Cynllunio trwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) wedi dod yn rhan bwysig o'r gymuned fusnes.  Mae dulliau modern o gynllunio trwy gymorth cyfrifiadur, yn ogystal â bod yn ffordd o ddarparu cynlluniau yn gymharol sydyn, wedi profi hefyd i fod yn fwy cost-effeithiol.  Oherwydd hyn, mae'n debygol y bydd mwy o ddefnydd o CAD a dylunio gyda chyfrifiadur yn cael ei wneud mewn blynyddoedd i ddod.

Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
Autodesk www.autodesk.co.uk  
Engineering Construction Industry Training Board (ECITB)  www.ecitb.org.uk 
SEMTA (Science, Engineering and Manufacturing Technologies Alliance) www.semta.org.uk  
Tomorrow's Engineers www.tomorrowsengineers.org.uk 

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-diwydiannau-creadigol/

Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa Cymru (www.gyrfacymru.com) neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell yrfaoedd eich ysgol.

Related Links