Peiriannydd traffig a chludiant

Cyflwyniad
Mae traffig a chludiant yn gangen arbenigol o beirianneg sifil. Mae peirianwyr sifil yn ddatryswyr problemau, sy'n gweithio er mwyn datrys amrywiol broblemau sy'n deillio o gymdeithas dechnolegol fodern megis llygredd, tagfeydd traffig, datblygiadau trefol, cynllunio cymunedol, a dŵr yfed ac anghenion ynni. Maen nhw'n ymwneud a dylunio ac adeiladu unrhyw beth nad yw'n adeilad - ffyrdd, rheilffyrdd, meysydd awyr, pontydd, argae neu harbwr.  Mae peirianwyr cludiant yn beirianwyr ymarferol. Ond er nad ydynt yn llunio polisïau, maen nhw'n cynllunio ac yn dylunio systemau i symud pobl a nwyddau'n ddiogel ac yn effeithlon.  Mae'r swydd i'w chael ym mhob math o awdurdodau lleol.

Amgylchedd Gwaith
Mae hon yn swydd mewn swyddfa ac ar safle - mewn amrywiaeth o leoliadau cyhoeddus sy'n ymwneud a thraffig. Mae'r wythnos waith arferol yn 37 awr ond bydd galw am waith penwythnos a gyda'r nos hefyd. Darperir dillad arbenigol megis hetiau caled, esgidiau cryf a dillad gweladwy. Bydd angen i'r peiriannydd gario offer ac arfau ar ymweliadau a safleoedd.

Gweithgareddau Dyddiol
Bydd y disgrifiad yn canolbwyntio ar y Peiriannydd Traffig er bod peth tebygrwydd gyda mathau eraill o waith peirianneg yn ymwneud a phriffyrdd a materion cludiant ehangach.  Fel aelodau o dîm, efallai y bydd y Peiriannydd Sirol yn gofyn iddynt weithio ar sawl cynllun ar unwaith neu arbenigo mewn un neu ddau. Er enghraifft, efallai y bydd peirianwyr traffig yn canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i broblemau rheoli traffig mewn amgylchedd trefol prysur.  Efallai y bydd eu diwrnod yn cychwyn gydag arolwg o'r broblem ar y safle, gwneud nodiadau a mesuriadau a thrafod hyn gyda phobl leol. Efallai mai ffordd yng nghanol y dref fydd hon ble mae nifer o ddamweiniau wedi digwydd. Efallai y byddant yn meddwl mai'r ateb yw darparu arwyddion traffig gwell neu rai newydd a chroesfan. Neu, efallai bod parcio neu dagfeydd traffig yn broblem. Efallai bod angen lonydd beicio neu fwy o gyfleusterau parcio.

Yn ôl yn y swyddfa, bydd y peirianwyr yn drafftio cynigion ar gyfer atebion newydd  i broblemau, atebion diogel, effeithlon sy'n rhoi gwerth am arian mewn ymgynghoriad a'r holl bartïon sydd ynghlwm, gan gynnwys swyddogion eraill yn yr adran gwasanaethau amgylcheddol. Unwaith y bydd cytundeb, byddant yn cynllunio ac yn dylunio cynlluniau gwella amgylcheddol. Efallai y bydd cyfarwyddyd y peiriannydd hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb dros ffyrdd diogel i'r ysgol, cludiant gwledig a theithio heb gar megis ar reilffyrdd a meysydd awyr.  Unwaith y bydd y gwaith adeiladu'n cychwyn, mae peirianwyr traffig yn monitro cynnydd er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn iawn a'i fod yn ateb y safonau a'r canllawiau angenrheidiol. Byddant yn dosbarthu rhai agweddau ar y gwaith i gynorthwywyr peirianneg a thechnegwyr ac yn goruchwylio eu perfformiad.

Sgiliau a Diddordebau
Mae'r rhinweddau angenrheidiol yr un fath ag y disgwylir i bob peiriannydd eu cael:

  • gallu ymarferol; 
  • y gallu i ddatrys problemau - a mwynhau hynny!
  • creadigrwydd; 
  • y gallu i feddwl yn rhesymegol; 
  • sgiliau gwaith tîm; 
  • sgiliau ysgrifennu a mathemategol effeithiol; 
  • gallu cyfrifiadurol.

Gofynion Mynediad
Mae gradd neu HNC mewn Peirianneg Sifil, Peirianneg Drydanol neu gymhwyster priodol arall yn hanfodol.  Mae'n rhaid i Beirianwyr Sifil gwblhau Cynllun Cymhwyster Proffesiynol gan Sefydliad  y Peirianwyr Sifil - mae hyn yn cynnwys hyfforddi, profiad ymarferol ac arholiadau.  Mae'n ddymunol hefyd cael o leiaf 4 blynedd ar ôl cymhwyso mewn rheolaeth traffig.

Rhagolygon a chyfleoedd i'r dyfodol
Mae cyfleoedd posibl yn y sector cyhoeddus a phreifat yn cynnwys:

  • contractwyr adeiladu; 
  • cwmnïau ymgynghori peirianneg; 
  • cwmnïau gweithgynhyrchu; 
  • llywodraeth genedlaethol; 
  • gwaith cyhoeddus ac adrannau amgylcheddol; 
  • datblygwyr eiddo; 
  • gwasanaethau cyhoeddus - nwy, dwr, trydan; 
  • diwydiannau adnoddau; 
  • peirianneg cynnal a chadw'r priffyrdd.

Mae sawl cwmni'n cynnig prentisiaeth i rai sy'n gadael yr ysgol yn ogystal â noddi israddedigion. Gyda'r rhain, fel mewn gwaith gyda'r awdurdod lleol, gall peirianwyr fynd yn eu blaen i reoli prosiectau a swyddi Penaethiaid neu Beirianwyr Sirol. Yn y sector preifat daw rhai yn bartneriaid mewn cwmnïau neu sefydlu eu cwmnïau eu hunain. I'r rhai sydd a'r sgiliau priodol, mae'n bosibl darlithio mewn prifysgolion a sefydliadau addysg bellach.

Gwybodaeth a Gwasanaethau Pellach
Cyngor y Peirianwyr www.engc.org.uk
GoSkills www.goskills.org
Sefydliad Peirianwyr Corfforedig y Priffyrdd www.ihie.org.uk
Sefydliad Siartredig y Priffyrdd a Chludiant www.ciht.org.uk
Sefydliad y Peirianwyr Sifil www.ice.org.uk
SEMTA www.semta.org.uk
www.discoverengineering.org

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/

Related Links