Cyflwyniad
 Mae Dylunydd Graffeg yn cynhyrchu dulliau cyfathrebu arloesol,
llawn dychymyg a chost-effeithiol yn cynnwys defnyddio cymwysiadau
cyfryngau newydd neu aml-gyfryngol.  Mae'r swydd yn ymwneud â
gwrando ar gleientiaid a deall eu hanghenion cyn gwneud
penderfyniadau o ran dylunio.  Bydd y gwaith dylunio'n mynd
o'r cam cysyniadol hyd at greu gwaith celf ar gyfer cynhyrchu
deunyddiau hyrwyddo yn cynnwys posteri, taflenni, adroddiadau,
llyfrynnau, baneri, arddangosfeydd, deunydd fformat mawr a nwyddau
pwynt gwerthu, gyda'r we a chyfryngau eraill.  Mae'n bosibl na
fydd yr holl waith yn cael ei gynhyrchu'n fewnol a gall y swydd
gynnwys cydweithio â chwmnïau argraffu neu sefydliadau
allanol.  Mae'n bosibl y bydd yna gyfrifoldebau rheoli staff
yn ogystal â rheoli cyllidebau.
Amgylchedd Gwaith
 Fel rheol bydd y gwaith yn digwydd mewn swyddfa ond weithiau
efallai y bydd angen cwrdd â chleientiaid neu fynychu cyfarfodydd
yn allanol.
Gweithgareddau Dyddiol
 Bydd dyletswyddau penodol Dylunydd Graffeg yn amrywio, yn
ddibynnol ar faint yr adran.  Gallai'r dyletswyddau
gynnwys:
- cyswllt gyda chleientiaid er mwyn derbyn y brîff, rhoi cyngor
ar y dulliau gorau i weithredu a sut i sicrhau gwerth am arian er
mwyn cynhyrchu a marchnata'r prosiect yn llwyddiannus;
 
- cynnal lefel o wybodaeth gyfredol am systemau gweithredu a
meddalwedd ddiweddaraf safonol y diwydiant (e.e. Dreamweaver,
Flash, Quark Xpress, Adobe Illustrator ac Adobe Photoshop. Mac OS
X) a chwilio am becynnau meddalwedd eraill posibl;
 
- cynghori cleientiaid mewnol a darparwyr allanol ar sut i
ddefnyddio hunaniaeth gorfforaethol y sefydliad yn gywir;
 
- sicrhau bod prosiectau terfynol yn cydymffurfio â chanllawiau a
pholisïau mewnol a statudol, yn arbennig mewn perthynas â pholisïau
a safonau dylunio corfforaethol a sefydliadau partneriaeth, Polisi
Iaith Gymraeg, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a rhestr
wirio'r RNIB;
 
- datblygu a chynnal matrics argraffu ar gyfer cynhyrchu gwaith
drwy argraffwyr allanol.  Mae hyn yn golygu cydweithio'n agos
â gwasanaethau caffael er mwyn cwrdd â safonau caffael;
 
- sicrhau bod cofnodion am gynnydd pob gwaith dylunio'n cael eu
cadw'n gyfredol a'u cwblhau.
 
Sgiliau a Diddordebau
 Bydd gan Ddylunydd Graffeg:
- greadigrwydd;
 
- sgiliau cyfathrebu a chyflwyno;
 
- gallu i weithio mewn amgylchedd Apple Mac neu PC;
 
- sgiliau rhyngbersonol;
 
- llythrennedd TGCh;
 
- gallu i reoli prosiectau;
 
- sgiliau dylanwadu a negodi;
 
- ymwybyddiaeth weledol gryf a llygad fanwl;
 
- gallu i gynhyrchu canlyniadau gwirioneddol a manwl o fewn
terfynnau amser llym;
 
- gwybodaeth am ieithoedd codio'r we a ddefnyddir ar gyfer
cyflwyno a gosod cyfryngau newydd a'r rhyngrwyd.
 
Gofynion Mynediad
 Fel rheol mae Dylunwyr Graffeg wedi graddio mewn dylunio graffeg
ac efallai, yn ogystal, y bydd ganddynt gymwysterau penodol mewn
dylunio amlgyfrwng.  Mae'n anghyffredin gweld myfyrwyr yn cael
mynediad i gyrsiau HND neu ar lefel gradd heb gwblhau gradd sylfaen
neu gwrs BTEC cenedlaethol mewn celf a dylunio yn gyntaf.  Mae
nifer o brifysgolion yn y DU yn cynnig cyrsiau gradd ac ôl-radd
perthnasol.
Cyfleoedd a Rhagolygon ar gyfer y Dyfodol
 Gallai dylunydd graffeg iau symud ymlaen o fewn dwy i dair blynedd
wrth iddo ddatblygu enw da a rhwydwaith o gysylltiadau.  Yn
gyffredinol, gall datblygiad gyrfa fod yn ddibynnol ar symud swyddi
yn aml er mwyn ehangu profiadau a datblygu portffolio.  Bydd y
cyfleoedd yn amrywio yn ddibynnol ar faint y sefydliad.
Gwasanaethau a Gwybodaeth Bellach
 Chartered Society of Designers (CSD) www.csd.org.uk/
 Design Council www.designcouncil.org.uk
 Graphic Design Portal www.graphicdesignportal.co.uk
 International Society of Typographic Designers (ISTD) www.istd.org.uk/
Gallwch gael gwybodaeth bellach ar y maes gwaith hwn drwy Gyrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, y swyddfa yrfaoedd neu lyfrgell
yrfaoedd eich ysgol.