Ymgynghorydd cyflogaeth

Cyflwyniad
Mae ymgynghorwyr cyflogaeth yn helpu amrywiaeth o bobl i ddod o hyd i swyddi yn yr ardal.  Byddan nhw'n ymwneud â phobl anabl, y rhai sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig, pobl o dras leiafrifol neu'r rhai sydd heb waith ers cyfnod maith.  Bydd ymgynghorydd cyflogaeth yn gweithio mewn prosiect penodol megis menter adfywio economi'r fro neu raglen dod o hyd i swyddi ar gyfer pobl ac arnyn nhw anableddau dysgu, yn aml.

Amgylchiadau'r gwaith
Mewn swyddfa y bydd ymgynghorydd cyflogaeth yn gweithio fel arfer, er y gallai dreulio peth amser yn ymweld â chyflogwyr.  37 awr yw'r wythnos safonol, a hynny yn ôl oriau gwaith arferol er bod trefniadau amser hyblyg mewn sawl cyngor lleol.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae ymgynghorwyr cyflogaeth yn ymwneud ag amrywiaeth eang o weithgareddau cyflogi a datblygu megis:

  • cysylltu â chyflogwyr lleol ynglŷn â swyddi allai fod ar gael a chydweithio'n agos â nhw mewn rhaglenni cyflwyno a hyfforddi gweithwyr newydd;
  • chwilio papurau newydd a gwefannau am swyddi sy'n addas i'w clientiaid;
  • asesu medrau ymgeiswyr i weld a ydyn nhw'n gweddu i'r swyddi sydd ar gael gan eu helpu i lunio CV a chais a pharatoi ar gyfer cyfweliad;
  • cadw golwg ar gynnydd ymgeiswyr llwyddiannus gan eu hyfforddi a'u mentora yn eu swyddi newydd a gofalu bod y cyflogwyr yn cynnal rhaglenni cyflwyno a hyfforddi yn ôl y drefn y cytunwyd arni;
  • gweithio ar y cyd â chyrff pwysig eraill megis Canolfan Byd Gwaith, adrannau gwasanaethau cymdeithasol a datblygu economaidd y cyngor lleol, ysgolion a cholegau'r ardal, gwasanaethau gyrfaoedd, asiantaethau recriwtio staff, rhieni a chynhalwyr.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • medrau cyfathrebu ardderchog;
  • agwedd dringar wrth gydweithio ag amrywiaeth helaeth o bobl;
  • gallu trafod telerau;
  • gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
  • gwybod am effaith gwaith a diweithdra;
  • cymhelliant cryf, brwdfrydedd ac ymroddiad i wella sefyllfa pobl;
  • ymroi i hybu cyfleoedd cyfartal ac amrywioldeb.

Meini prawf derbyn
Does dim meini prawf penodol a gallai profiad fod yn bwysicach na chymwysterau, yn aml.  Byddai peth profiad o gynghori a hysbysu pobl neu drin a thrafod unigolion yn ddefnyddiol.  Pe baech chi'n ymwneud â phobl anabl, gallai fod angen profiad o weithio ym maes gofal.  Gallai rhai cynghorau fynnu Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (lefel 2 neu 3) ym maes cynghori a chyfarwyddo.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod cyfleoedd i gyrraedd swyddi rheoli uwch.  Gallai fod cyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn rhai o adrannau eraill y cyngor megis y gwasanaethau cymdeithasol, y gwasanaethau i'r ifainc, gwasanaeth yr wybodaeth i blant, datblygu economaidd, adfywio ac addysg.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Addysg a Chyfarwyddyd am Yrfaoedd: www.agcas.org.uk
Cymdeithas Proffesiynolion Ymddiriedolaeth Addysg a Phlant: www.aspect.org.uk
Sefydliad Datblygu Gyrfaoedd: www.icg-uk.org
Swyddi addysg: www.eteach.com
Estyn www.estyn.gov.uk
Rhwydwaith Sefydliadau Hyfforddi Awdurdodau Rhanbarthol a Lleol Ewrop: www.ento.org
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru: www.gtcw.org.uk
Hyfforddiant ac Addysg Athrawon Cymru: www.teachertrainingcymru.org

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links