Asiant canolfan alwadau/swyddog gwasanaeth i gwsmeriaid

Cyflwyniad
Y dyddiau hyn, rydym yn disgwyl gwasanaeth cyflym ac effeithiol ar y ffôn. Er mwyn ymateb i'n disgwyliadau, mae awdurdodau lleol yn cyflogi mwy a mwy o asiantau canolfan alwadau/swyddogion gwasanaeth i gwsmeriaid i roi gwybodaeth a chyngor i bobl leol ac ateb eu hymholiadau ar y ffôn.  Yn gynyddol, darperir y gwasanaethau ffôn hyn drwy ganolfannau galwadau (a elwir weithiau'n ganolfannau cyswllt), a'r rheiny'n cael eu rhedeg gan yr awdurdod lleol, neu gan gontractwr preifat o bosibl yn gweithio ar ran yr awdurdod lleol.  Defnyddir teitlau swyddi amrywiol. Yn ogystal ag asiant canolfan alwadau a swyddog gwasanaeth i gwsmeriaid, mae'r teitlau'n cynnwys 'gweithiwr canolfan alwadau', 'asiant' a 'swyddog cynghori cwsmeriaid'.

Amgylchedd Gwaith
Fe allai'r amgylchedd gwaith fod yn ganolfan alwadau/canolfan gyswllt bwrpasol o'r radd flaenaf neu'n swyddfa fwy confensiynol, ond bydd fel arfer wedi ei gynllunio er mwyn i'r staff allu treulio'r rhan fwyaf o'r diwrnod gwaith yn eistedd yn gyfforddus. Mae cadeiriau y gellir eu haddasu, stolion troed, goleuo da a system aerdymheru i gyd yn gwneud y man gwaith mor braf â phosibl.  Gwisg busnes smart yw'r dillad gwaith fel arfer.  Darperir y gwasanaeth gyda'r nos ac ar y penwythnosau o bosibl, yn ogystal ag yn ystod oriau gwaith arferol.

Gweithgareddau Dyddiol
Y brif dasg yw ateb galwadau gan drigolion o fewn yr awdurdod lleol. Fe allai'r rhain ymwneud â'r canlynol:

  • y cymhwysedd a'r hawl i dderbyn budd-dal tai; 
  • y cymhwysedd i gael tŷ; 
  • yr hawl i dderbyn disgownt treth cyngor; 
  • ymholiadau llyfrgell - adnewyddu llyfrau llyfrgell er enghraifft; 
  • cyngor ynglŷn â materion amgylcheddol - er enghraifft, ymholiadau am gyfleusterau ailgylchu'r cyngor, casgliadau gwastraff swmpus, glanhau strydoedd; 
  • cwynion am siopau lleol, masnachwyr marchnad neu fwytai; 
  • gwasanaethau cymdeithasol - er enghraifft, fe allai aelod o'r cyhoedd ffonio i roi gwybod am ei bryderon ynglŷn â rhywun hŷn sy'n byw ar ei ben ei hun.

Pan fo'n bosibl, bydd asiantau canolfannau galwadau/swyddogion gwasanaeth i gwsmeriaid yn rhoi'r wybodaeth a'r cyngor gofynnol i'r sawl sy'n galw. Byddant o bosibl yn defnyddio system gyfrifiadurol i chwilio am wybodaeth ac i wneud tasgau megis adnewyddu llyfrau llyfrgell. Pan fo ymholiadau yn gymhleth byddant yn gallu cyfeirio pobl at arbenigwyr, megis Swyddogion Tai neu Swyddogion Safonau Masnach. Mae asiantau/swyddogion yn gwisgo clustffonau, sy'n caniatáu iddynt siarad ar y ffôn a defnyddio bysellfwrdd eu cyfrifiadur ar yr un pryd. Gallant chwilio am atebion i ymholiadau syml yn gyflym a nodi gofynion cwsmeriaid wrth siarad â nhw. Mewn cyfnodau prysur, bydd y staff yn derbyn galwadau yn gyflym un ar ôl y llall. Pan fo llai o alwadau, gall fod amser i wneud gweithgareddau eraill, megis ateb negeseuon e-bost neu ymholiadau dros y we, gwneud tasgau gweinyddol neu weithgareddau hyfforddi, a gwneud galwadau er mwyn gofyn am sylwadau (sicrhau bod tenantiaid yn fodlon ar waith atgyweirio diweddar, er enghraifft).

Sgiliau a Diddordebau
Y prif ofynion yw:

  • diddordeb mewn pobl; 
  • y gallu i weithio fel aelod o dîm; 
  • sgiliau gwasanaeth i gwsmeriaid gwych; 
  • llais eglur; 
  • clyw da a'r gallu i wrando'n astud; 
  • dull cwrtais ar y ffôn a pharodrwydd i gynorthwyo.

Mae'n angenrheidiol gallu meddwl yn gyflym er mwyn ymateb yn effeithiol i ymholiadau. Mae sgiliau ysgrifennu yn debygol o ddod yn fwy pwysig wrth i ganolfannau galwadau gymryd y cyfrifoldeb am ateb ymholiadau a dderbynnir ar e-bost, ffacs neu drwy lythyr.

Gofynion Mynediad
Mae rhinweddau personol yn fwy pwysig na phrofiad blaenorol na chymwysterau academaidd. Mae'r math hwn o waith yn denu pobl o ystod eang o gefndiroedd a grwpiau oedran.  Mae'r broses ddethol yn debygol o gynnwys cyfweliad a phrawf o sgiliau ffôn.  Bydd hyfforddiant, a ddarperir gan y cyflogwyr, fel arfer yn cynnwys technegau ffôn, sgiliau cyfrifiadurol a'r meysydd penodol o wasanaethau'r awdurdod lleol y bydd y gweithiwr yn ymdrin â nhw.  Anogir asiantau canolfan galwadau, o bosibl, i weithio tuag at NVQ/SVQ lefel 2 mewn prosesu gwybodaeth gan ddefnyddio telegyfathrebu. Mae NVQ/SVQ mewn gwasanaeth i gwsmeriaid ar lefel 2 a 3 hefyd yn briodol. Bydd cyflogwyr o bosibl yn caniatáu i'r staff dreulio diwrnod yr wythnos yn astudio am y cymwysterau hyn.  Fe allai Prentisiaethau Modern (rhan o'r fenter Skillseekers yn yr Alban) fod ar gael.

Cyfleoedd a gobeithion yn y dyfodol
Mae'r gobaith o gael dyrchafiad yn dda iawn oherwydd y twf cyflym yn y math hwn o waith. Mae dyrchafiad mewn amgylchedd canolfan alwadau fel arfer yn golygu bod yn arweinydd tîm, sy'n gyfrifol am oruchwylio tua dwsin o weithwyr, ac yna'n rheolwr.  Mae cyfleoedd hefyd i drosglwyddo i yrfaoedd eraill yn yr awdurdod lleol. Byddai modd, er enghraifft, ymgeisio am swydd fel gweithiwr cymdeithasol dan hyfforddiant, gweinyddwr neu swyddog safonau masnach. Byddai'r wybodaeth a geir wrth weithio yn y swydd hon yn rhoi sail ddigonol er mwyn dilyn mwy o hyfforddiant.

Mwy o Wybodaeth a Gwasanaethau
Y Sefydliad Gwasanaeth i Gwsmeriaid www.instituteofcustomerservice.com
E-sgiliau www.e-skills.com
Gwybodaeth am brentisiaethau www.apprenticeships.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links