Gweithiwr allgymorth iechyd y meddwl

Cyflwyniad
Mae gweithwyr allgymorth neu gymorth mewn timau gwasanaethau cymunedol cyfun yn arbenigo mewn helpu pobl ac arnyn nhw broblemau hirdymor ynglŷn ag iechyd y meddwl.  Maen nhw'n eu helpu i ymdopi â bywyd arferol yn y gymuned trwy feithrin medrau yn ôl fframwaith ymgynghori cadarnhaol a chynllunio ar y cyd yn hytrach na bod yn gaeth i ysbyty neu hostel.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r swydd yn ymwneud â gweithio gyda chlientiaid yn eu cartrefi, mewn mannau agored, yn wardiau'r ysbyty lleol ac mewn canolfannau cymunedol/oriau dydd.  Fe fydd rhaid trin a thrafod pobl allai siarad yn sarhaus, byw mewn lleoedd brwnt ac amlygu sawl math arall o ymddygiad heriol.  Felly, bydd ar y gweithwyr gyfrifoldeb cyfreithiol am iechyd a diogelwch ynglŷn â nhw eu hunain a phobl eraill, a byddan nhw'n dilyn polisïau a gweithdrefnau staff sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain.  Fe fydd timau'n cynnig gwasanaethau yn y gymuned bob dydd drwy gydol y flwyddyn ac mae disgwyl i bawb weithio tyrn fel y bydd rhywun ar gael gyda'r nos, dros y Sul ac yn ystod gwyliau banc.  37 awr yw'r wythnos safonol.  Bydd angen aros dros nos yng nghartref client weithiau, a gallai lwfans ychwanegol fod ar gael am hynny.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae gweithwyr allgymorth yn rhoi cymorth ac yn lleddfu straen er lles pobl sy'n profi anawsterau parhaus ynglŷn ag iechyd y meddwl.  Maen nhw'n atebol i uwch weithiwr allgymorth, rheolwr gwasanaethau cynorthwyo'r gymuned neu'r swyddog dros iechyd y meddwl yn y gymuned.  Ar ben hynny, fe fyddan nhw'n rhoi'r un fath o gymorth â'r hyn mae cynhaliwr yn ei roi sef gofal personol, cymdeithasol a chartref, hyfforddiant a chyfleoedd i ymgysylltu â gweithgareddau a phrofiadau ystyrlon gartref ac yn y fro.  Byddan nhw'n cydweithio'n agos â phawb sydd yn y tîm cymunedol i alluogi clientiaid i barhau i fyw cyhyd ag y bo modd yn eu milltir sgwâr.  Y nod cyffredinol yw gwella byd pobl ac arnyn nhw anawsterau iechyd y meddwl ac osgoi eu hanfon i'r ysbyty'n amhriodol.  Dyma orchwylion gweithiwr allgymorth bob dydd:

  • mynd i gartrefi unigolion/teuluoedd penodol i gyflawni amryw ddyletswyddau a gorchwylion yn ôl cynllun gofal sydd i'w helpu i fyw mor annibynnol ag y bo modd - er enghraifft, mynd gyda'r client i gasglu budd-daliad neu bensiwn;
  • gwrando ar y client a'i gynhaliwr a rhoi ystyriaeth i'r hyn yr hoffen nhw ei wneud, gan eu helpu nhw cystal ag y bo modd;
  • nodi dirywio mewn clientiaid fel y bydd modd cymryd camau i'w helpu - er enghraifft, gorchwylion gofal personol megis ymolchi a choginio;
  • monitro a goruchwylio unrhyw foddion mae meddygon wedi'u pennu a nodi unrhyw newidiadau ynglŷn â faint sydd i'w gymryd;
  • cynnig lle diogel i'r rhai mae angen eu goruchwylio a'u helpu dros y tymor hir;
  • helpu'r client i baratoi bwyd, siopa, glanhau'r tŷ a golchi dillad;
  • nodi unrhyw newidiadau o bwys yn iechyd, agwedd ac ymddygiad y client a hel cynghorion goruchwylwyr ynglŷn â pha gamau fyddai'n briodol;
  • cynorthwyo yn ystod unrhyw weithdrefnau asesu;
  • rhoi adroddiadau geiriol ac ysgrifenedig i'r uwch weithiwr cymorth/rheolwr yn fynych a thrafod unrhyw newidiadau yn amgylchiadau teulu'r client;
  • rheoli proses cyflwyno staff allgymorth newydd.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • deall materion iechyd y meddwl yn dda;
  • medrau trin a thrafod pobl;
  • gallu cyfathrebu'n effeithiol ar lafar ac ar bapur;
  • gallu cadw cofnodion ysgrifenedig priodol;
  • ymwybyddiaeth o gyfrinachedd;
  • gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac mewn tîm;
  • ymwybyddiaeth o faterion iechyd a diogelwch (i chi'ch hun ac i bobl eraill);
  • natur dringar;
  • gallu dilyn cyfarwyddiadau yn rhan o rhaglen ofal;
  • ymwybyddiaeth o'r gyfraith ym maes cydraddoldeb.

Meini prawf derbyn
Bydd o leiaf flwyddyn o brofiad ynglŷn â gofalu am bobl ac arnyn nhw anawsterau iechyd y meddwl yn hanfodol, yn ogystal â pharodrwydd i gael rhagor o hyfforddiant.  Yn ddelfrydol, byddwch chi wedi ennill Cymhwyster Galwedigaethol Cyffredinol Lefel 3 'Gofal' neu'n astudio ar ei gyfer.  Rhaid i Swyddfa'r Cofnodion Troseddol wirio'ch cefndir ar gyfer y swydd hon.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Er y gallai'r gwaith fod yn anodd, mae modd cael llawer o foddhad trwy helpu pobl ac arnyn nhw anawsterau i reoli eu bywydau'n fwy effeithiol.  Mae'r galw am staff ym maes gwaith cymdeithasol yn fwy na'r cyflenwad ac, felly, mae sawl cyfle i gael eich dyrchafu.  Y llwybr yn y maes hwn yw rheolwr gwasanaethau cynorthwyo cymuned, swyddog cymunedol dros iechyd y meddwl ac uwch weithiwr allgymorth.  Mae modd anelu at swyddi rheoli gofal, hefyd.  Mae gwaith allgymorth yn cynnig cyfle i weithio gyda charfanau penodol megis y rhai sy'n gaeth i gyffuriau a'r ddiod gadarn, y rhai sy'n chwilio am loches a'r rhai sy'n dioddef ag HIV.  Amcan arall i anelu ato yn y pen draw, o bosibl, yw astudio ar gyfer Diploma 'Gwaith Cymdeithasol'.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Medrau Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links