Cyflwyniad
Nod addysg a chyfarwyddyd am yrfaoedd yw helpu pobl ifanc i
gyflawni eu llawn dwf. Fe fydd athrawon gyrfaoedd y cynghorau
lleol yn helpu disgyblion i'w deall eu hunain, meithrin eu
galluoedd, ymchwilio i gyfleoedd a dewis yn ddoeth am addysg,
gwaith a hyfforddiant. Gelwir athrawon gyrfaoedd yn gydlynwyr
gyrfaoedd weithiau ym maes llywodraeth leol. Mae sawl athro
gyrfaoedd yn arbenigo mewn pynciau eraill, hefyd.
Amgylchiadau'r gwaith
Yn yr ysgol y bydd athro gyrfaoedd yn gweithio gan amlaf, er
gallai fod rhaid ymweld â phrifysgolion, colegau a
gweithleoedd. Gallai fod angen gweithio gyda'r nos hefyd, yn
ogystal â'r oriau wythnosol safonol.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae athro gyrfaoedd ym maes llywodraeth leol yn arbenigwr sy'n
rheoli ac yn cynnal rhaglen addysg a chyfarwyddyd am
yrfaoedd. Bydd yn manteisio ar gymorth y staff eraill,
cwmnïau gyrfaoedd, rhieni, y byd masnachol a phartneriaid eraill i
ofalu y bydd gwasanaeth addas ar gael i ddisgyblion. Mae
disgwyl i ysgol benderfynu sut y bydd yn cynnig addysg a
chyfarwyddyd am yrfaoedd.
Efallai y bydd yn dewis sefydlu'r canlynol:
- gwersi gan staff arbenigol, yn rhan o'r amserlen;
- cynllun bugeilio gan diwtoriaid;
- modiwlau byrion yn y cwrícwlwm;
- cyfuno addysg am yrfaoedd â phynciau eraill ar draws y
cwrícwlwm.
Beth bynnag fo'r drefn, bydd athro gyrfaoedd yn aelod allweddol
o'r tîm (gan ei lywio, weithiau) sy'n helpu disgyblion i drin a
thrafod eu haddysg a'u dewisiadau ynglŷn â'u gyrfaoedd. Dyma
brif elfennau pob trefn effeithiol o'r fath:
- pennu angen addysg a chyfarwyddyd am yrfaoedd ynglŷn â helpu i
gyflawni nodau ac amcanion cyffredinol yr ysgol (hyrwyddo cyfleoedd
cyfartal a gwella cyrhaeddiad, er enghraifft) a pharatoi a monitro
cynllun cyfarwyddo derbyniol;
- trefnu a llunio rhaglenni fydd yn helpu disgyblion i feithrin
medrau y bydd eu heisiau arnyn nhw i wneud y gorau o wybodaeth am
yrfaoedd;
- trefnu hyfforddiant i'r staff;
- cadw golwg ar ddatblygiadau mewn marchnadoedd llafur ac ar
gyfleoedd i fanteisio ar addysg a hyfforddiant;
- rhoi addysg a chyfarwyddyd am gyrfaoedd trwy gynorthwyo
cydweithwyr;
- cadw gwybodaeth gywir, hawdd ei deall, ar amryw ffurfiau megis
deunydd printiedig, fideos a thechnoleg gwybodaeth;
- trefnu profiad gwaith i ddisgyblion trwy ymweld â ffatrïoedd,
swyddfeydd a gweithleoedd eraill gan drefnu iddyn nhw fwrw cyfnodau
byrion yno yn ystod gwyliau'r ysgol;
- paratoi cynlluniau gweithredu a chofnodion i alluogi disgyblion
i fonitro eu cynllunio ar gyfer gyrfa;
- cydweithio â phartneriaid ym maes gyrfaoedd, yn ogystal â
rhieni;
- meithrin cysylltiadau â phrifysgolion, colegau, mudiadau
ieuenctid/cymuned, cyflogwyr, undebau llafur a sefydliadau
hyfforddi i'w gwahodd i gymryd rhan yn y bartneriaeth;
- gwerthuso a mireinio addysg a chyfarwyddyd am yrfaoedd trwy eu
monitro.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- diddordeb mewn pobl ifanc a'r gallu i'w helpu i
ddatblygu;
- agwedd aeddfed ac amgyffred ymarferol o'r byd y tu allan i'r
ysgol;
- gallu gweithio mewn tîm a meithrin perthynas dda ag amrywiaeth
helaeth o bobl;
- medrau cyfathrebu a negodi da;
- medrau trefnu a chynllunio da;
- gallu hel gwybodaeth a'i chyflwyno ar ffurf hawdd ei
deall.
Meini prawf derbyn
Rhaid bod yn athro cymwysedig a gallai fod eisiau cymwysterau
eraill ynglŷn â dewis gyrfaoedd, er enghraifft:
- Cymhwyster Cyfarwyddyd Gyrfaoedd (Sefydliad Cyfarwyddyd
Gyrfaoedd)
- Gradd meistr ym maes cyfarwyddyd am yrfaoedd
- CGC (lefel 4) ynglŷn â chynghori a chyfarwyddo
Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y
dyfodol
Gallai fod modd cyrraedd swyddi uwch yn yr ysgol megis pennaeth
adran, dirprwy brifathro neu brifathro. Gallai fod cyfleoedd
i athro a chanddo brofiad perthnasol symud i rolau eraill ym maes
addysg a'r gwasanaethau i blant megis lles addysg, gwaith ieuenctid
a gwaith cymdeithasol.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Addysg a Chyfarwyddyd am Yrfaoedd:
www.agcas.org.uk
Sefydliad Datblygu Gyrfaoedd: www.icg-uk.org
Swyddi ym maes addysg: www.eteach.com
Rhwydwaith Sefydliadau Hyfforddi Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol
Ewrop: www.ento.org
Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru
(www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn
swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.