Ymgynghorydd addysg

Cyflwyniad
Mae ymgynghorwyr addysg llywodraeth leol yn gweithio yn ysgolion yr ardal sydd wedi'i neilltuo iddyn nhw er mwyn rhoi cymorth a chyngor uniongyrchol i athrawon, prifathrawon, cynghorwyr a llywodraethwyr.  Mae rôl strategol iddyn nhw hefyd o ran helpu i lunio polisïau a chynlluniau gweithredu'r cyngor lleol ym maes plant a'r ifainc.  Yn y cynghorau sirol maen nhw'n gweithio.  Athrawon ymgynghorol yw enw arall arnyn nhw weithiau.

Amgylchiadau'r gwaith
Er bod gan ymgynghorwyr addysg llywodraeth leol swyddfa'n ganolfan, maen nhw'n treulio peth amser yn ymweld â'r ysgolion sydd wedi'u neilltuo iddyn nhw.  37 awr yw'r wythnos safonol ac efallai y bydd angen mynd i rai cyfarfodydd gyda'r nos.  Fe allai fod modd rhannu swydd neu weithio yn ôl trefniadau eraill, hefyd.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae gwaith yr ymgynghorwyr yn amrywio'n fawr gan gynnwys rhoi cyfarwyddyd a chymorth gweithredol yn uniongyrchol yn ogystal â gallu cyflawni rôl strategol yng ngweithgareddau addysgol y cyngor.  Dyma ddyletswyddau nodweddiadol:

  • ymateb i amrywiaeth o ymholiadau cymhleth gan athrawon, prifathrawon, llywodraethwyr a chynghorwyr a sbarduno camau yn ôl yr angen;
  • rhoi cyngor a chyfarwyddyd am lunio a defnyddio gweithdrefnau a pholisïau priodol yn yr ysgol;
  • rheoli unrhyw gwynion am ysgolion trwy roi cyngor a chyfarwyddyd diduedd i athrawon a llywodraethwyr;
  • cydweithio'n agos â staff gwasanaeth gwella'r ysgolion i fonitro cyflawniad yr ysgolion;
  • cyflwyno adroddiadau a gwybodaeth yn ôl yr angen;
  • cynghori prifathrawon newydd neu gyfamserol;
  • cymryd rhan yn rhai o brosiectau a mentrau addysgol y cyngor megis gwella cyrhaeddiad bechgyn, cwtogi ar nifer y disgyblion sy'n colli'r ysgol neu'n cael eu gwahardd a gwella safonau'r rhai sy'n perthyn i dras leiafrifol yn y fro;
  • nodi a lledaenu arferion da ymhlith yr ysgolion a hybu cydweithio ymhlith yr ysgolion a'r cydffederasiynau;
  • trefnu hyfforddiant ar gyfer athrawon a llywodraethwyr.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • gwybod sut mae ysgolion a threfn addysg y wlad yn gweithio;
  • gallu trin a thrafod pobl o sawl lliw a llun;
  • gallu datrys anghydfod a chymodi;
  • medrau da ynglŷn â llunio adroddiadau a threfnu gwaith;
  • gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun a rheoli prosiectau;
  • medrau dadansoddi da a gallu dehongli data.

Meini prawf derbyn
Fel arfer, dylai'r rhai sy'n ymgeisio am swydd ymgynghorydd addysg fod yn athrawon cymwysedig a chanddyn nhw brofiad diweddar a pherthnasol o ddysgu yn yr ysgol er ei bod yn bosibl na fydd angen cymhwyster o'r fath ar ymgynghorydd cynorthwyol.  At hynny, rhaid gwybod y datblygiadau diweddaraf yn y polisïau lleol a gwladol ar gyfer addysg, plant a phobl ifanc.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Y llwybr arferol mewn cyngor lleol yw ymgynghorydd cynorthwyol, ymgynghorydd a swyddog gwella ysgolion.  Gallai staff profiadol gael eu dyrchafu'n uwch reolwyr ym meysydd addysg a'r gwasanaethau i blant.  Mae modd arbenigo mewn maes penodol megis gwella ysgolion neu ddatblygu'r cwrícwlwm, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Proffesiynolion Addysg ac Ymddiriedolaethau Plant: www.aspect.org.uk
Estyn: www.estyn.gov.uk
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru: www.gtcw.org.uk
Gwefannau awdurdodau lleol
Hyfforddi ac Addysgu Athrawon Cymru: www.teachertrainingcymru.org

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links