Ymgynghorydd addysg y blynyddoedd cynnar

Cyflwyniad
Fel mae'r enw'n awgrymu, mae ymgynghorwyr yn y categori hwn yn ymwneud ag addysg plant bach.  Maen nhw'n gweithio mewn awdurdodau o bob math ac, yn rhan o ddatblygu proffesiynol parhaus, yn helpu i hybu arferion da yn yr ysgolion sy'n cynnig addysg y blynyddoedd cynnar.

Amgylchiadau'r gwaith
Fel arfer, bydd swyddfa'r ymgynghorydd yng nghanolfan datblygu proffesiynol yr awdurdod er y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn mynd rhagddo mewn meithrinfeydd ac ysgolion.  Mae'r ymgynghorwyr yn rhan o'r tîm cyfun dros ddatblygu addysg y blynyddoedd cynnar ac yn cydweithio'n agos â gwasanaeth gwella'r ysgolion, uned yr asesu, swyddogion gofal plant a datblygiad y blynyddoedd cynnar ac ysgolion.  Fe fyddan nhw o dan oruchwyliaeth cydlynydd y tîm cyfun.  37 awr yw wythnos safonol ymgynghorwyr, heb angen shifftiau nac oriau anghymdeithasol.

Gweithgareddau beunyddiol
I helpu'r tîm dros ddatblygu proffesiynol parhaus, bydd ymgynghorwyr yn ymweld ag ysgolion a meithrinfeydd i gynnig cynghorion am gwrícwlwm addas i blant sydd o dan oedran addysg orfodol (5 mlwydd oed) gan roi sylw arbennig i:

  • anghenion plant bach;
  • cynllunio cwrícwlaidd;
  • arsylwi, asesu a chofnodi;
  • trefnu a rheoli gweithgareddau dysgu plant bach;
  • rhoi gwybodaeth i rieni am gwrícwlwm y blynyddoedd cynnar.

Bydd ymgynghorwyr addysg y blynyddoedd cynnar yn helpu ysgolion i ymbaratoi ar gyfer arolygon Estyn (corff rheoleiddio addysg).  Wedyn, byddan nhw'n helpu i lunio cynlluniau gweithredu a rhoi strategaethau gwella ar waith.  Ar y cyd â'r adran dros gynhwysiant cymdeithasol, byddan nhw'n rhoi cyfarwyddyd am weithredu yn ôl côd ymarfer anghenion arbennig ac yn cynnig cymorth i reoli anghenion plant unigol pan ymwelan nhw ag ysgolion.  Mae rôl bwysig gyda nhw ynghylch hyfforddi staff a hybu cyfleoedd i fanteisio ar hyfforddiant, hefyd.  Bydd pob ymgynghorydd yn gweithio o'i ben a'i bastwn ei hun gan amlaf, er bod rhaid cofnodi gwaith a bod yn atebol am yr oriau sydd wedi'u treulio mewn gwahanol agweddau ar y gwaith.  I'r perwyl hwnnw, rhaid mynychu nifer o gyfarfodydd lleol a chenedlaethol.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • diddordeb cryf mewn gweithio gyda phlant o dan 5 mlwydd oed;
  • deall datblygiad staff a'r medrau priodol o ran cynnig hyfforddiant i oedolion;
  • medrau da o ran cyfathrebu, trin a thrafod pobl a'u hysgogi;
  • gallu gweithio ar y cyd â phroffesiynolion ar amryw lefelau;
  • gallu gweithio'n annibynnol;
  • ymroi i weithio ar y cyd â rhieni;
  • gwybod yn drylwyr sut mae plant bach yn dysgu a sut mae'r rhai o dan 5 mlwydd oed yn datblygu;
  • parodrwydd i deithio ledled ardal yr awdurdod addysg lleol;
  • ymroi i weithredu yn ôl polisi cyfleoedd cyfartal yr awdurdod.

Meini prawf derbyn
Mae angen y canlynol:

  • cymhwyster cydnabyddedig ym maes dysgu;
  • statws arolygydd meithrinfeydd cofrestredig neu barodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant priodol pan fydd ar gael;
  • profiad o gynllunio a rhoi hyfforddiant i oedolion;
  • profiad o lunio canllawiau neu helpu i'w llunio;
  • tystiolaeth o ddatblygu ac astudio proffesiynol ychwanegol;
  • hanes o lwyddiant ynglŷn â gweithio gyda phlant o dan 5 mlwydd oed;
  • gwybod yn dda nodau addysg y blynyddoedd cynnar a chyfnodau cynnar y cwrícwlwm gwladol, yn arbennig amryw strategaethau ar gyfer cynllunio gwaith asesu a chadw cofnodion.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae cyfleoedd i ddatblygu gyrfa yn unedau cynhwysiant cymdeithasol awdurdodau addysg ac yn swyddi cydlynwyr, uwch ymgynghorwyr a phrif ymgynghorwyr.  Ar ben hynny, mae modd cael dyrchafiad mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth, megis y rhai sy'n ymwneud â llythrennedd a rhifedd, ar ôl rhagor o hyfforddiant, cymwysterau a datblygiad proffesiynol addas.  Cyfarwyddwr addysg yw'r swydd uchaf.  Yn aml, mae rhaid i bobl symud i awdurdodau eraill neu sefydliadau allanol megis Estyn i fynd ymlaen.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Swyddi ym maes addysg: www.eteach.com
Blynyddoedd Sylfaen: www.foundationyears.org.uk
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru: www.gtcw.org.uk
Estyn: www.estyn.gov.uk

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links