Swyddog lles addysg

Cyflwyniad
Mae swyddogion lles addysg cynghorau leol yn gweithio gydag ysgolion, plant, rhieni, cynhalwyr ac asiantaethau i ofalu y gall plant elwa'n llawn ar y cyfleoedd addysgol i gyd sydd ar gael iddyn nhw.  Maen nhw'n gyfrifol am hybu presenoldeb yn yr ysgol, trin a thrafod absenoldeb a gweithio gyda phlant a allai gael eu gwahardd.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r rhan fwyaf o swyddogion lles addysg ym maes llywodraeth lleol yn gweithio yn y swyddfa er y byddan nhw'n treulio cryn dipyn o amser yn ymweld ag ysgolion neu yn cwrdd â phlant a'u teuluoedd yn eu cartrefi nhw.  37 awr yw'r wythnos safonol er y gallai fod angen ymweld â rhai pobl gyda'r nos.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae gwasanaeth lles addysg cyngor lleol yn gyfrifol am hyrwyddo presenoldeb yn yr ysgol a helpu i ddatrys unrhyw broblemau allai achosi i ddisgybl golli'r ysgol.  Ar ben hynny, mae gwasanaeth lles addysg yn gyfrifol am ofalu bod y cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol ynglŷn â phresenoldeb yn yr ysgol, diogelu plant a gwahardd disgyblion.  Mae swyddogion lles addysg y cynghorau lleol yn cyflawni amrywiaeth o orchwylion megis:

  • ymweld ag ysgolion i nodi anawsterau ynglŷn â phresenoldeb disgyblion a chytuno ar y camau y bydd yr ysgolion a gwasanaeth lles addysg y cyngor yn eu cymryd i'w datrys;
  • trin a thrafod achosion gan weithio'n agos gyda phlant, rhieni/cynhalwyr a'r ysgol er mwyn gwella presenoldeb disgyblion;
  • diweddaru ffeiliau achosion a llunio adroddiadau'n gywir;
  • cynghori, cyfarwyddo a hyfforddi staff ysgolion am faterion lles addysg megis presenoldeb, gwahardd, erlid a chyfathrebu â rhieni/cynhalwyr;
  • cynghori a chyfarwyddo staff ysgolion am faterion diogelu plant;
  • cynghori a chyfarwyddo staff a llywodraethwyr ysgolion am wahardd plant;
  • archwilio cofrestrau presenoldeb yn fynych;
  • cynnig amrywiaeth o gymorth a chynghorion i blant a'u teuluoedd megis cymorth i ddisgyblion unigol, gweithio gyda grwpiau o ddisgyblion a chynnal grwpiau cymorth i rieni a chynhalwyr;
  • cydweithio ag adrannau eraill y cyngor ac asiantaethau allanol yn ogystal â chyfeirio disgyblion at wasanaethau priodol eraill.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • medrau cyfathrebu ardderchog i feithrin perthynas dda â phlant, rhieni, cynhalwyr a staff ysgolion;
  • agwedd dringar;
  • gallu dadansoddi sefyllfaoedd ac ymddygiad yn gywir;
  • medrau da ynglŷn â thrin a thrafod amser;
  • medrau da ynglŷn â llunio adroddiadau;
  • ymroddiad i les ac addysg plant. 

Meini prawf derbyn
Gallai'r meini prawf amrywio o'r naill awdurdod i'r llall ond fe fydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn mynnu addysg o safon dda gan gynnwys o leiaf 5 TGAU a 2 Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol.  Gallai fod angen cymhwyster megis diploma neu radd ym maes gwaith cymdeithasol neu les addysg, statws athro cymwysedig neu gymhwyster arall mewn maes megis cwnsela neu waith ieuenctid, hefyd.  At hynny, bydd y rhan fwyaf o gynghorau lleol yn mynnu profiad perthnasol o weithio gyda phlant a theuluoedd.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gallai fod modd cael eich dyrchafu'n rheolwr yng ngwasanaeth lles addysg neu yn adran addysg ehangach y cyngor lleol.  Ar ôl hyfforddiant a phrofiad perthnasol, fe allech chi arbenigo mewn meysydd megis anghenion addysgol arbennig.  Ar y llaw arall, gallech chi ddod o hyd i swydd yn y gwasanaethau cymdeithasol i blant neu'r gwasanaethau ieuenctid.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain: www.basw.co.uk
Cyngor Gofal Cymru: www.ccwales.org.uk
Gofal Cymuned: www.communitycare.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymuned: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Adran Iechyd San Steffan: www.dh.gov.uk
Swyddi ym maes addysg: www.eteach.com
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru: www.gtcw.org.uk
Cofrestrfa Hyfforddi Graddedigion yn Athrawon: www.gttr.ac.uk
Cyngor Galwedigaethau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau: www.homesandcommunities.co.uk
Medrau er Gofal: www.skillsforcare.org.uk
Cymdeithas Gofal Cymdeithasol: www.socialcareassociation.co.uk
Hyfforddiant ac Addysg Athrawon Cymru: www.teachertrainingcymru.org

Efallai bod rhagor am hyn ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links