Athro dawns

Cyflwyniad
Dyma'r math o swydd lle mae arddangos yn bwysig yn ogystal â rhoi cyfarwyddyd.  Nid oes yn rhaid i chi fod yn ddawnsiwr proffesiynol i addysgu dawns, ond disgwylir i chi fod wedi cael hyfforddiant yn y maes hwn ac fod wedi cyrraedd lefel uchel.   Mae'r swydd yn bodoli mewn rhai awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a chanolfannau hamdden.  Ceir cyfleoedd hefyd mewn ysgolion dawns preifat ac ar gyfer gwaith llawrydd.

Amgylchedd Gwaith
Fel arfer byddwch yn gweithio mewn campfa, neuadd neu stiwdio ddawns lle bydd angen i chi daflu eich llais: gall dosbarthiadau fod yn swnllyd a gall y cyfleusterau fod yn sylfaenol.  Rhaid gwisgo'n briodol, sef yn y rhan fwyaf o achosion, esgidiau ymarfer a thracwisg/crys chwaraeon/siorts.   Bydd rhaid gwneud gwaith desg hefyd, ac addysgu theori yn yr ystafell ddosbarth.  Gall yr oriau amrywio o sesiwn 1.5 awr yr wythnos i waith llawn amser, a bydd yn aml yn cynnwys gwaith ar y penwythnos a chyda'r nos - yn enwedig yn y cyfnod cyn perfformiad.

Gweithgareddau Dyddiol
Fel arfer mae gan athrawon dawns ymrwymiadau a chyfrifoldebau eraill. Gall y rheini sy'n gweithio mewn ysgol addysgu pwnc arall a/neu ddal rôl reoli neu weithio fel athrawon ymarfer corff.

Mae athrawon dawns yn gweithio gydag unigolion a grwpiau. Maent yn dechrau paratoi ar gyfer dosbarthiadau drwy gynllunio gwersi ac ystyried y maes llafur sydd i'w ddilyn.  Gellir gwneud hyn gartref neu yn ystod cyfnodau rhydd.

Eu nod yw annog dysgwyr i ddatblygu eu cryfder, stamina a sgiliau dawns corfforol, a rhaid iddynt allu arddangos technegau penodol - p'un a yw'r ffocws ar jazz, dawnsfeydd neu fale.  Mewn llawer o achosion byddant yn addysgu amrywiaeth eang o arddulliau dawns gwahanol.   Byddai dysgwyr yn cynhesu i fyny ar ddechrau pob dosbarth ac yn cyflawni ymarfer ymlacio ar y diwedd. Drwy hyn, byddant yn dysgu sut i osgoi anafiadau neu straen.

Bydd yn rhaid gwneud gwaith papur, gan gynnwys: asesiadau cychwynnol; cofnodi presenoldeb; cynllunio gwersi; cynlluniau dysgu unigol; cadw cofnodion a marcio gwaith ysgrifenedig.

Sgiliau a Diddordebau
Mae gallu ymarferol, profiad a hyfforddiant i lefel uchel ym maes dawns a cherddoriaeth yn hanfodol, yn ogystal â diddordeb mewn addysgu.  Mae hyn yn gofyn am:

  • amynedd a sgiliau cyfathrebu da
  • brwdfrydedd a gwybodaeth am y pwnc
  • y gallu i gefnogi ac annog eraill i lwyddo  
  • y gallu i weithio gyda phobl o alluoedd gwahanol  
  • sgiliau arsylwi a manwl gywirdeb  
  • hyder  
  • sgiliau rheoli dosbarth effeithiol, gan gynnwys gweithio gyda dysgwyr heriol

Gofynion Ymgeisio
Rhaid i chi feddu ar statws athro cymwys (SAC). I gael mynediad i gwrs gradd â SAC byddai ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar 5 gradd TGAU (A-C) gydag o leiaf 2 radd Safon Uwch/4 gradd H. Gellid derbyn Lefel 2 GNVQ/SVQ uwch ar gyfer gradd â SAC, ond efallai y byddai pynciau ychwanegol yn ofynnol, megis Safon Uwch mewn pwnc o'r Cwricwlwm Cenedlaethol.  Mae angen gradd TGAU/S gradd C (3) mewn Saesneg a Mathemateg hefyd.  Gall oedolion sydd â phrofiad a gallu perthnasol wneud cais.  Nid oes uchafswm oedran, ond mae angen i ymgeiswyr allu ymdopi â gofynion corfforol y swydd.

Hyfforddiant
Mae dosbarthiadau rhan amser ar gael mewn ysgolion dawns preifat lle mae'n bosibl sefyll arholiadau sylfaenol mewn dawns cyn ennill cymhwyster athro dawns.
Os nad yw gradd yn cynnwys SAC (sy'n angenrheidiol ar gyfer ysgolion y wladwriaeth), mae'n bosibl gwneud cais am dystysgrif ôl-radd mewn addysg (TAR) a fydd yn cynnwys SAC.

Cyfleoedd yn y dyfodol
Ceir cyfleoedd am gyflogaeth mewn ysgolion a cholegau ym mhob rhan o'r wlad, ynghyd ag ysgolion annibynnol, stiwdios a chanolfannau hamdden.  Mae hunangyflogaeth yn opsiwn. Mae rhai athrawon yn penderfynu dilyn maes addysgu arbenigol fel coreograffi neu therapi dawns.  I wneud hyn, bydd angen astudio ymhellach. Nid oes llawer o gyflogaeth mewn meysydd arbenigol.  Dyma rai o'r dewisiadau y gallwch eu gwneud i ddatblygu eich gyrfa.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Asiantaeth Hyfforddi Athrawon www.teach.gov.uk
Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru www.gtcw.org.uk
Cyngor Dawns Prydain www.british-dance-council.org
Swyddi addysg www.eteach.com
Y Cyngor Addysg a Hyfforddiant Dawns www.cdet.org.uk

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links