Cyflwyniad
Gall staff safonau masnach effeithio'n fawr ar fywydau
pobl a chael llawer o foddhad trwy roi trefn ar fasnachwyr drwg -
gan hybu cyfiawnder a diogelu defnyddwyr. Dyw'r swydd ddim yn
ymwneud â chosbi bob amser, fodd bynnag. Maen nhw'n rhoi
cyngor a chymorth i'r gymuned hefyd, gan osgoi problemau yn hytrach
na'u datrys. Mae uwch swyddogion safonau masnach yn
cyflawni'r un gorchwylion â swyddogion safonau masnach ond gallai
fod rhaid iddyn nhw reoli prosiectau ychwanegol a llywio
timau. Maen nhw'n cael defnyddio'r gyfraith i hybu
amgylchiadau teg a chyfiawn a chwalu arferion amheus. Maen
nhw'n gweithio ym mhob awdurdod lleol ar wahân i gynghorau
dosbarth.
Amgylchiadau'r gwaith
Yn ogystal â gweithio yn y swyddfa, fe fydd uwch swyddogion
safonau masnach yn ymweld â mannau masnachu megis siopau, tafarnau,
bwytai, gwestyau, ffatrïoedd a marchnadoedd. Gallai fod angen
gweithio mewn mannau brwnt a swnllyd, neu yn yr awyr agored, a
gwisgo dillad arbennig weithiau i ddiogelu'r traed, y llygaid, y
clustiau a'r pen. Ar ben hynny, fe fyddan nhw'n mynd i
wrandawiadau yn y llys. 37 awr yw'r wythnos safonol, er y
bydd rhaid gweithio y tu allan i'r oriau hynny ar adegau.
Gweithgareddau beunyddiol
Bydd uwch swyddog safonau masnach yn treulio'r rhan fwyaf o'i
amser yn cynnal ei arolygiadau. At hynny, rhaid ymweld â
masnachwyr i gynnig cyngor a chyfarwyddyd, ymchwilio i gyhuddiadau
a chwynion, cofnodi canlyniadau gwaith a pharatoi achosion ar gyfer
erlyn. Yn aml, bydd yn cario ac yn defnyddio cyfarpar megis
dyfeisiau profi, pwyso a mesur. Gallai uwch swyddog
gyfarwyddo swyddogion sy'n ymweld â mannau masnachu tra bo'n gwneud
y gwaith papur mae'i angen i ddibenion erlyn ac yn trefnu
prosiectau arbennig mewn meysydd megis:
- gwerthu nwyddau megis sigaréts ac alcohol i bobl ifanc o dan
oed;
- gwanhau diodydd mewn tafarnau;
- codi tâl am gwrw a phetrol yn ôl mesuriadau anghywir;
- codi tâl am bethau megis glo, tywod a cherrig yn ôl mesuriadau
anghywir;
- camarwain pobl wrth werthu gwyliau pecyn;
- gwerthu nwyddau ffug;
- gwerthu nwyddau anniogel.
Rhaid pennu targedau yn ôl amcanion y cyngor ac amserlenni
erlyn, hefyd. Ar wahân i gwrdd ag amryw fathau o fasnachwyr,
bydd angen cydweithio'n agos â swyddogion iechyd yr amgylchedd, yr
heddlu, Tollau a Chyllid EM, sefydliadau masnach, ynadon, barnwyr,
cyfreithwyr a'r cyhoedd.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhinweddau hanfodol:
- gallu ymarferol;
- ystyried pethau'n fanwl;
- natur ofalgar;
- gallu rheoli prosiectau;
- hyder;
- gallu trin a thrafod pobl o bob lliw a llun;
- tringarwch;
- cymeriad cadarn;
- cyfathrebu'n dda ar lafar a thrwy lythyr.
Meini prawf ymgeisio
Mae pedair lefel i gymwysterau Sefydliad y Safonau Masnach ynglŷn
â materion defnyddwyr a safonau masnach: Tystysgrif Sylfaenol
Materion Defnyddwyr a Safonau Masnach; Tystysgrif Modiwlau Materion
Defnyddwyr a Safonau Masnach; Diploma Materion Defnyddwyr a Safonau
Masnach; Diploma Uwch Materion Defnyddwyr a Safonau Masnach.
Mae modd naill ai astudio wrth weithio, gan ennill y cymwysterau
bob yn dipyn, neu astudio ar gyfer gradd achrededig trwy un o'r
sefydliadau isod:
- Prifysgol Fetropolitan Manceinion
- Diploma Ôl-raddedigion Prifysgol Fetropolitan Manceinion
- Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
- Prifysgol Glannau Tees
- Coleg Prifysgol y Frenhines Fererid, Caeredin
- Cynulliad Rhanbarthol De-orllewin Lloegr (dysgu o hirbell)
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Er nad oes ond hyn a hyn o lwybrau dyrchafu, maen nhw'n weddol
eglur. Mae modd i rywun profiadol gael ei ddyrchafu'n brif
swyddog safonau masnach ar ôl rheoli tîm ac adran. Mae rhai
cyfleoedd arbenigol mewn cwmnïau preifat mawr ym meysydd diogelu
ansawdd a gofynion y gyfraith er lles defnyddwyr, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad y Safonau Masnach: www.tradingstandards.gov.uk
Cymdeithas y Gyfraith: www.lawsociety.org.uk
Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd (bwyd manwerth): www.ifst.org
Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd www.cieh.org/about_us/related_organisations.html
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol