Cyfreithiwr

Cyflwyniad
Mae llawer o wasanaethau byd llywodraeth leol yn ymwneud â gofynion y gyfraith bob dydd, ac mae angen cyfarwyddyd cyfreithiol ar gynghorau yn aml.  Felly, mae cyfreithwyr yn cynghori'r aelodau etholedig a'r uwch swyddogion fel ei gilydd am sawl pwnc megis cyflogaeth, prynu tir ac erlyn masnachwyr a chyflenwyr amheus.  Mae tua 3,500 o gyfreithwyr mewn awdurdodau lleol o bob math ledled y Deyrnas Gyfunol.  Mae llawer o'r prif weithredwyr wedi ymgymhwyso'n gyfreithwyr.  Felly, gall yr alwedigaeth hon arwain at y brig.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yn digwydd yn y swyddfa ond gallai fod angen rhywfaint o deithio i ymweld â swyddogion a chynghorwyr ar safleoedd eraill yn ardal y cyngor.  Mae ehangder adrannau'n dibynnu ar y math o awdurdod.  Bydd mwy o gyfreithwyr proffesiynol yn y rhai dinasol a sirol (y mathau mwyaf) nag mewn mathau eraill, fel arfer.  Bydd angen mynd i'r llys weithiau i gynghori swyddogion ac aelodau a/neu gyflwyno dadl ar ran yr awdurdod.  Ar ben hynny, gallai fod angen gweithio mewn amryw leoedd wrth fynychu cyfarfodydd pwyllgorau a gwasanaethu'n aelod o dimau trawsadrannol swyddogion ar gyfer prosiectau pwysig.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae'r rhan fwyaf o uwch swyddogion yr adran ysgrifenyddol ac adran y cyfarwyddwr gweinyddol, sy'n cynnig gwasanaethau pwysig i gynghorwyr ac adrannau eraill, yn gyfreithwyr.  Yn yr awdurdodau mwyaf, mae cyfreithwyr yn tueddu i arbenigo mewn meysydd penodol megis tai, cynllunio, ffyrdd, addysg a gwasanaethau cymdeithasol.  Mae cyfreithwyr mewn awdurdodau bychain yn tueddu i gyflawni gwaith cyffredinol.  Felly, gall amrywiaeth dyletswyddau'r cyfreithiwr amrywio o'r naill awdurdod i'r llall, ond dyma grynodeb o'r rhai sy'n gyffredin:

  • gofalu bod y cyngor yn cadw at y gyfraith wrth gyflawni ei gyfrifoldebau statudol am wario arian ar wasanaethau megis addysg, ffyrdd ac iechyd amgylcheddol;
  • gofalu bod cynghorau'n dilyn y gweithdrefnau cywir a rhoi gwybod i gynghorwyr am oblygiadau cyfreithiol y camau maen nhw'n bwriadu eu cymryd;
  • cynrychioli'r cyngor gerbron llysoedd ac ymchwiliadau cyhoeddus mewn amryw achosion megis safonau masnach, dyledion rhent, rheoli adeiladu a materion sifil;
  • paratoi ar gyfer tribiwnlysoedd a llysoedd apêl a chynrychioli'r cyngor yno;
  • gan mai'r cyngor yw prif berchennog tir yr ardal gan amlaf, mae trawsgludo (prynu a gwerthu tir) yn faes pwysig.

Medrau a diddordebau
Mae angen medrau cyfathrebu ardderchog ar gyfreithiwr.  Rhaid ysgrifennu'n gryno ac yn gywir bob amser ac esbonio syniadau a materion cymhleth wrth leygwyr, yn aml.  Mae angen manwl gywirdeb a medrau cyflwyno da (sy'n arbennig o bwysig gerbron llys/tribiwnlys).  Rhaid darllen ehangder o ddeunydd a derbyn hyfforddiant ar ôl ymgymhwyso i gadw golwg ar newidiadau yn y gyfraith.  Ymhlith rhinweddau pwysig eraill mae tringarwch a'r gallu i drin a thrafod llawer o wybodaeth fanwl yn gyflym ac yn gywir.
 
Meini prawf derbyn
Mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn raddedigion.  Dyma'r tri phrif lwybr:

  • Bydd y rhai sydd wedi graddio yn y gyfraith (mae gan Gymdeithas y Gyfraith restr o raddau achrededig) yn dilyn Cwrs yr Ymarfer Cyfreithiol am flwyddyn (os amser llawn) neu ddwy flynedd (os rhan-amser).  Wedi hynny, bydd cytundeb hyfforddi dwy flynedd mewn swyddfa gyfreithiol awdurdodedig.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, rhaid dilyn cwrs medrau proffesiynol, hefyd.
  • Bydd y graddedigion sydd heb astudio'r gyfraith (a'r rhai a'i hastudiodd dramor) yn sefyll naill ai'r Arholiad Proffesiynol Cyffredin neu'n astudio am flwyddyn (os amser llawn) neu ddwy flynedd (os rhan-amser) ar gyfer Diploma yn y Gyfraith i Ôl-raddedigion.  Wedyn, byddan nhw'n dilyn yr un llwybr â'r rhai sydd wedi graddio yn y gyfraith.
  • Rhaid i bobl sydd heb raddio (y rhai sydd newydd adael yr ysgol a'r rhai aeddfed) ddechrau trwy gael eu hyfforddi'n weithredwyr cyfreithiol.  Fe fydd angen o leiaf bedair TGAU (A*-C) gan gynnwys Saesneg neu gymwysterau cyfwerth.

Ar y llaw arall, mae modd dilyn cwrs hyfforddi Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol (ILEX) i weithwyr lled gyfreithiol, sy'n arwain at Dystysgrif 'Astudiaethau Cyfreithiol'.
• Hanfod hyfforddiant gweithredwr cyfreithiol yw gweithio dan oruchwyliaeth cyfreithiwr mewn swyddfa gyfreithiol ac astudio'n rhan-amser ar gyfer arholiadau ILEX.

  • Bydd aelodau o ILEX sydd wedi llwyddo mewn saith pwnc craidd ac un papur ym maes y gyfraith, sydd wedi cael tair blynedd o brofiad gwaith perthnasol ar ôl troi'n 18 oed ac sydd am ymgymhwyso'n gyfreithwyr yn cael dilyn yr un llwybr â'r rhai sydd wedi graddio yn y gyfraith.
  • Rhaid i gymrodyr o ILEX a hoffai ymgymhwyso'n gyfreithwyr lwyddo yn yr un pynciau â'r aelodau yn ogystal â chwblhau Cwrs yr Ymarfer Cyfreithiol a chwrs medrau proffesiynol (20 diwrnod).  Fydd dim angen cytundeb hyfforddi dwy flynedd, fodd bynnag, ar yr amod eu bod yn gymrodyr o hyd ac yn dal mewn swydd wrth ddechrau Cwrs yr Ymarfer Cyfreithiol.

Mae Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol ym maes gwasanaethau cyfreithiol ar gael ar Lefel 4.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Gan fod cyfreithwyr ym mhob awdurdod lleol, mae cyfleoedd i symud i awdurdodau eraill, a dyna'r ffordd arferol o gael dyrchafiad.  O wneud hynny, mae modd meithrin rhagor o brofiad, sy'n hanfodol ar gyfer swyddi uwch.  Dechreuodd tua 50% o'r prif weithredwyr presennol eu gyrfaoedd yn gyfreithwyr.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Sefydliad Breiniol Gweithredwyr Cyfreithiol: www.cilex.org.uk
Cymdeithas y Gyfraith: www.lawsociety.org.uk
Cyfreithwyr Llywodraeth Leol: www.slgov.org.uk

Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links