Cyflwyniad
Mae gan bob awdurdod lleol adran gyfreithiol sydd wedi'i staffio
gan gyfreithwyr, bargyfreithwyr, swyddogion cyfreithiol a
chynorthwywyr sy'n cynnig cyngor i reolwyr ac aelodau
etholedig. Mae rhai yn ymwneud â gwaith trawsgludo (prynu a
gwerthu tir ac eiddo ar ran y cyngor sy'n berchen ar swyddfeydd,
neuaddau, parciau, tai, tiroedd chwaraeon ac ystadau). Mae
maint adran gyfreithiol cyngor yn amrywio yn unol â maint a math y
Cyngor.
Amgylchedd Gwaith
Mae'r rhan fwyaf o amser yn cael ei dreulio yn eistedd wrth
ddesgiau yn swyddfeydd y cyngor ac yn mynychu cyfarfodydd. Bydd
swyddogion cyfreithiol hefyd yn mynychu gwrandawiadau llys.
Maent fel arfer yn gweithio 37 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd
Gwener.
Gweithgareddau Dyddiol
Mae gan rai awdurdodau mwy o faint lawer o diroedd ac mae angen i
swyddogion cyfreithiol gynnal trafodion trawsgludo, o'r cyfarwyddyd
cychwynnol hyd y diwedd. Bydd adegau pan fydd hyn yn cynnwys
delio â materion cymhleth neu sensitif. Er enghraifft, gall
swyddogion gynnal archwiliadau i sicrhau mai'r gwerthwr yw
perchennog cyfreithiol yr eiddo ac i ddysgu a yw'n ddarostyngedig i
unrhyw reoliad cadwraeth neu gynllunio gan y cyngor. Pan nad
yw'r canlyniadau'n ffafriol mae'n bosibl y bydd angen i'r swyddog
baratoi achos cyfreithiol yn erbyn y gwerthwr. Mae swyddogion
cyfreithiol hefyd yn rhoi cyngor i swyddogion eraill y cyngor ac
aelodau etholedig ar bob agwedd ar y gyfraith o ran eiddo tiriog,
gan gynnwys materion yn ymwneud â landlordiaid a thenantiaid.
Mae dyletswyddau trawsgludo o ddydd i ddydd y mae'n rhaid i
swyddogion cyfreithiol ddelio â nhw yn cynnwys:
- prynu eiddo;
- gwaredu eiddo;
- paratoi neu gymeradwyo prydlesau, cytundebau tenantiaeth,
trwyddedau a hawddfreintiau (gall hyn fod ar gyfer gwaith
arfaethedig i adeiladu bwyty, er enghraifft);
- costau eiddo (rhenti ar lefelau dilys);
- gorchmynion prynu gorfodol - paratoi a chwblhau adroddiadau
arbenigol ar gyfer tribiwnlysoedd tir a chyrff statudol eraill - ar
gyfer datblygu tir, er enghraifft;
- paratoi plediadau ar gyfer ceisiadau landlordiaid a thenantiaid
yn ymwneud ag eiddo i'r llys sirol;
- casglu tystiolaeth a llunio adroddiadau ar gyfer
gwrandawiadau'r gofrestrfa tir mewn perthynas â cheisiadau teitl
perchnogion y ceir anghydfod yn eu cylch;
- cynnal gwaith ymchwil cymhleth.
Gan eu bod yn gyfrifol am asedau a deunyddiau, mae swyddogion
cyfreithiol yn gofalu am:
- weithredoedd teitl;
- arian parod/sieciau - yn aml symiau mawr;
- ffeiliau cyfrinachol;
- offer a ddefnyddir gan y tîm eiddo tir;
- caledwedd a meddalwedd gyfrifiadurol.
Sgiliau a Galluoedd
Rhaid iddynt allu:
- gweithio ar eu liwt eu hunain ac fel rhan o dîm;
- cyfleu cyngor cyfreithiol cymhleth i helpu unigolion lleyg i
ddeall materion;
- ymdopi â sefyllfaoedd sy'n eu rhoi dan straen;
- parchu'r angen am sensitifrwydd a chyfrinachedd;
- bod yn wrthrychol;
- delio â phobl anodd.
Mae angen y canlynol arnynt:
- sgiliau llafar ac ysgrifenedig;
- sgiliau dylanwadu;
- sgiliau datrys problemau a dadansoddi;
- sgiliau ymchwil;
- sgiliau drafftio;
- sgiliau TG;
- ymwybyddiaeth wleidyddol.
Gofynion Mynediad
Mae Rhan 1 arholiad Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol neu
gymhwyster cyfatebol yn hanfodol, a byddai Rhan 11 yn
ddymunol. Mae gwybodaeth ymarferol am y gyfraith o ran eiddo
tiriog yn hanfodol. Disgwylir i Swyddogion Cyfreithiol
ddangos tystiolaeth o hunan-ddatblygiad a pharodrwydd i gyflawni
hyfforddiant pellach ar sgiliau cyfathrebu, rheoli ffeiliau, gofal
cleientiaid, eiriolaeth a sgiliau drafftio dogfennau. Mae
profiad yn bwysig iawn. Mae'n hanfodol i fod ag o leiaf dair
blynedd o brofiad mewn swyddfa cyfreithiwr, yn delio ag achosion yn
ymwneud ag eiddo a thrawsgludo. Byddai pum mlynedd o brofiad
o gyfraith eiddo a chyfraith trawsgludo a dwy flynedd o brofiad
mewn llywodraeth leol yn ddefnyddiol.
Cyfleoedd yn y Dyfodol
Ceir mwy o gyfleoedd mewn awdurdodau mwy o faint. Gyda
hyfforddiant pellach gallwch arbenigo mewn meysydd eraill o
gyfraith awdurdod lleol, megis gorfodi. Gall cymrodorion
Sefydliad y Gweithredwyr Cyfreithiol hyfforddi i fod yn gyfreithwyr
neu'n fargyfreithwyr. Bydd swyddi ar lefel uchel yn cynnwys
mwy o gyfrifoldeb a bydd angen rhoi cyngor i staff ar agweddau ar y
gyfraith.
Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol www.cilex.org.uk
Sefydliad y Gweithwyr Paragyfreithiol www.theiop.org
Cymdeithas Genedlaethol y Gweithwyr Paragyfreithiol Trwyddedig www.nationalparalegals.co.uk
Cyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol www.slgov.org.uk
Cymdeithas y Gyfraith www.lawsociety.org.uk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y maes gwaith hwn drwy Yrfa
Cymru (www.gyrfacymru.com)
neu yn eich llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd neu lyfrgell
gyrfaoedd eich ysgol.