Cyflwyniad
 Pan fo'r tywydd yn braf, hyd yn oed, mae digon o waith i
beirianwyr draenio.  Pan fo'n wlyb, mae'r galw'n cynyddu eto
fyth.  Gallai peiriannydd o'r fath arwain tîm o beirianwyr
draenio arbenigol, hefyd.  Mae'n waith ymestynnol.  Mae'r
swydd hon mewn awdurdodau o bob math - yn adran yr amgylchedd/adran
y priffyrdd sy'n gyfrifol am wasanaethau peirianneg, draenio,
adeiladau, priffyrdd a'r dirwedd.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae peth gwaith yn y swyddfa a rhywfaint yn yr awyr agored, gan
gynnwys teithio'n lleol.  Rhaid gweithio beth bynnag fo'r
tywydd ac, yn aml, mewn lleoedd annymunol gan wisgo dillad diogelu
megis oferôls, esgidiau cryf a siacedi melyn (wrth weithio ar y
ffyrdd).  Rhaid defnyddio offer arbenigol megis camerâu cylch
cyfyng a thaclau i'w rheoli trwy radio i ddod o hyd i dyllau a
phroblemau tebyg.  Yn y swyddfa, fe fyddan nhw'n defnyddio
meddalwedd gyfrifiadur.
Gweithgareddau beunyddiol
 Nod peiriannydd draenio yw rhoi gwasanaeth o'r radd flaenaf i'r
cyhoedd, adrannau'r cyngor a'r sector preifat ynglŷn â materion
draenio.  I wneud hynny, rhaid datrys neu osgoi amryw
broblemau sy'n ymwneud â draenio'r ffyrdd, carthffosydd cyhoeddus a
phreifat, draenio tir a glanhau cafnau.  Ar unrhyw ddiwrnod
arferol, bydd angen trefnu'r tîm i ymateb yn glou i argyfyngau neu
gyflawni gorchwylion draenio yn ôl rhaglen.  Gallai glaw trwm
a llifogydd lenwi carthffosydd cyhoeddus gan beryglu iechyd yn
ogystal â thorri ar draws cyflenwad y dŵr.
Efallai y bydd angen cydweithio â swyddogion iechyd yr
amgylchedd neu gwmnïau dŵr i ddatrys y broblem.  Yn ystod
llifogydd difrifol, bydd peirianwyr yn ceisio gofalu bod
gwasanaethau cyhoeddus yn gweithredu mor arferol ag y bo
modd.  I'r perwyl hwnnw, gallai fod angen codi pontydd dros
dro lle nad oes modd defnyddio'r ffyrdd a'r strydoedd i gyrraedd
mannau cyhoeddus, neu osod pibellau ychwanegol i gario'r dŵr
ymaith.
Yn ddelfrydol, fe fydd y peiriannydd wedi rhagweld y problemau a
gosod sustemau draenio arbennig mewn ardaloedd lle mae perygl
llifogydd.  Mae prosiectau ar gyfer carthffosydd cyhoeddus a
sustemau draenio'r ffyrdd yn rhai parhaus sy'n anelu at rwystro
problemau rhag digwydd.  Mae contractwyr ac adeiladwyr yn
dibynnu ar y peirianwyr i wneud yn siwr bod sustemau draenio
priodol ar y tir lle byddan nhw'n codi tai, ffatrïoedd, canolfannau
hamdden ac ati.
  
 Medrau a diddordebau
 Mae angen y canlynol ar gyfer y swydd hon:
- gallu ymarferol;
 
- manwl gywirdeb;
 
- gallu rheoli prosiectau;
 
- gallu trin a thrafod ffigurau;
 
- hyder;
 
- gallu cyd-dynnu â phobl o wahanol gefndiroedd.
 
Ar ben hynny, mae eisiau cymhelliant i ddiogelu'r amgylchedd a'r
cyhoedd a'r gallu i gyfathrebu'n dda.
Meini prawf derbyn
 Fel arfer, mae angen gradd prifysgol neu gymhwyster cyfwerth ym
maes adeiladu neu beirianneg, ynghyd â phrofiad perthnasol. 
Gan fod rhaid goruchwylio pobl, fe allai fod angen peth profiad o
reoli, hefyd.  Byddai cymhwyster galwedigaethol megis
tystysgrif astudiaethau rheoli o gymorth.  Mae modd astudio ar
gyfer cymhwyster o'r fath yn y gwaith, weithiau.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Er bod peirianneg draenio yn faes cyfyng, mae'r gobeithion o ran
dyrchafu yn eithaf da.  Ar ôl cael profiad a rhagor o
gymwysterau, bydd swyddi uwch ar gael yn ogystal â swyddi mewn
agweddau eraill ar beirianneg.  Mae modd cael dyrchafiad yn
brif beiriannydd.  Ar ben hynny, mae cyfleoedd y tu allan i'r
awdurdodau lleol - mewn cwmnïau dŵr a chwmnïau peirianneg preifat,
er enghraifft.  Mae'n syniad da astudio ar gyfer aelodaeth o
Sefydliad Peirianwyr y Priffyrdd neu gyrff proffesiynol arbenigol
megis Sefydliad y Peirianwyr Adeiladu, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cymdeithas y Peirianwyr Adeiladu: www.abe.org.uk
 Sefydliad Peirianwyr y Priffyrdd: www.ihie.org.uk
 Sefydliad y Peirianwyr Sifil: www.ice.org.uk
 SEMTA www.semta.org.uk
Fe gewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/