Uwch ecolegydd

Cyflwyniad
Mae ecolegwyr yn gyfrifol am ofalu am y gorffennol, y presennol a'r dyfodol.  Gorchwyl anodd iawn yn ôl pob golwg.  Rhaid inni ofalu am y byd rydyn ni'n byw ynddo a gwaith ecolegwyr yw gofalu ein bod yn gwneud hynny.  Mae'r ecolegwyr yn gweithio mewn tîm ac iddo rym i reoli polisïau lleol ynglŷn â'r amgylchedd a chadwraeth.  Maen nhw'n cyflawni rôl bwysig wrth lunio polisïau sy'n rhoi pob ystyriaeth i egwyddorion bioamrywiaeth, cadwraeth a chynaladwyedd - parchu adnoddau megis dŵr, tir, bywyd gwyllt a phlanhigion er iechyd yr amgylchedd.  Dyma swydd sydd yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol.

Amgylchiadau'r gwaith
Mae peth gwaith yn y swyddfa ond llawer mwy y tu allan iddi ar safleoedd, mewn labordai ac yng nghyfarfodydd amryw gylchoedd amgylcheddol.  Gallai fod gwaith brwnt mewn tywydd gwael ond bydd dillad priodol ar gael.  37 awr yw'r wythnos safonol.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae ecolegwyr yn aelodau o gylch polisïau'r amgylchedd a chadwraeth gan roi cyfarwyddyd am gynlluniau lleol arfaethedig sy'n ymwneud ag amaeth, archeoleg, bioamrywiaeth, hen adeiladau, ansawdd yr amgylchedd a'r dirwedd.  Maen nhw'n gofalu bod unrhyw newid yn y defnydd o dir (priffyrdd, ffatrïoedd, canolfannau trin carth, ffermio dwys, safleoedd tirlenwi ac ati) yn gwella'r amgylchedd ac yn achosi cyn lleied o newid ag y bo modd.  Mae dau brif syniad wrth wraidd y swydd: bioamrywiaeth (amryw fodau byw megis planhigion, coetir, perthi, anifeiliaid, pryfed, adar ac ieir bach yr haf) a chadwraeth natur.  Mae'r rheiny i gyd yn ymwneud â chynaladwyedd - byw, chwarae a gweithio heb niweidio'r amgylchedd.  Yn aml, bydd y gwaith yn groes i fuddiannau pobl nad oes gyda nhw ddiddordeb yn yr amgylchedd o raid - cynllunwyr, adeiladwyr, cwmnïau trin gwastraff, ffermwyr a chrwydrwyr allai wrthdaro ynglŷn â hawliau tramwy, er enghraifft.  Rhaid i ecolegwyr ddarparu ar gyfer amryw nodau a chadw'r ddysgl yn wastad rhwng gwahanol fuddiannau.

Wrth fonitro perthynas pobl â'r amgylchedd, bydd ecolegwyr yn tynnu sylw at bwysigrwydd rheoli adnoddau naturiol yn ddoeth a pharchu ein cynefinoedd - ar ôl tynnu rhywbeth allan o'r ddaear, dylen ni roi rhywbeth yn ôl iddi trwy ailgylchu a rheoli gwastraff yn effeithiol.  Fe fyddan nhw'n gweithio bob dydd yn erbyn pobl sydd am ddefnyddio tir, dŵr, planhigion ac anifeiliaid mewn modd peryglus a didrugaredd.  Mae ecolegwyr yn ymwneud yn arbennig â Deddf Llywodraeth Leol a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy.  Felly, rhaid cydweithio bob dydd â phenseiri cadwraeth, archeolegwyr, swyddogion amaethyddol, swyddogion coed a choetiroedd, cynllunwyr, swyddogion rheoli gwastraff ac ati.  Gallai fod angen cydweithio â thimau cadwraeth bensaernïol ac archeoleg sy'n diogelu adeiladau o arwyddocâd, hefyd.  Fe allai hen adeiladau neu ysguboriau lle mae tylluanod gwynion ac adar prin yn nythu fod o ddiddordeb ecolegol a hanesyddol fel ei gilydd.  Sut mae rhoi'r egwyddorion ar waith, felly?  Dyletswydd ecolegwyr yw:

  • adolygu strategaethau cadwraeth natur yng nghyd-destun cynllunio cymunedol a lles amgylcheddol;
  • paratoi a chyfeirio rhaglenni bioamrywiaeth ar gyfer cyfrifoldebau ecolegol sy'n ymwneud â Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy;
  • cynghori am bolisïau mwyngloddio, gwastraff, rheoli tir, perchnogaeth tir, gwarchodfeydd natur a safleoedd cadwraeth natur;
  • monitro mentrau ar gyfer cynefinoedd neu rywogaethau penodol, yn arbennig cynlluniau'r cylch dros fioamrywiaeth;
  • helpu i lunio gweithdrefnau cadw a chanfod gwybodaeth fel y bydd modd cofnodi data ecolegol cynhwysfawr.

At hynny, maen nhw'n gyfrifol am feithrin cysylltiadau agos â sefydliadau gwladol perthnasol, mudiadau megis elusennau a grwpiau gweithredu, cwmnïau preifat, grwpiau cymunedol, ffermwyr, tirfeddianwyr, cymdeithasau hanes, ysgolheigion, myfyrwyr, adeiladwyr, cynghorwyr, aelodau'r Cynulliad, aelodau seneddol a'r cyhoedd i hyrwyddo arferion a phrosiectau sydd o les i fywyd gwyllt a chynefinoedd.  Maen nhw'n helpu i hyfforddi staff gwasanaethau amgylcheddol hefyd, yn ogystal â chymryd rhan mewn arddangosfeydd, darlithoedd a chyhoeddiadau ar gyfer addysgu pobl am bwysigrwydd ecoleg.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • gwybod digon am blanhigion ac anifeiliaid Prydain;
  • medrau cyflwyno trwy amryw gyfryngau a ffurfiau;
  • gallu trin a thrafod pobl o sawl lliw a llun;
  • gallu trin a thrafod cyfrifiadur;
  • medrau rheoli prosiectau;
  • medrau cyfathrebu - ar lafar ac ar bapur;
  • gallu dadansoddi data ecolegol;
  • gallu gweithio mewn tîm ac o'ch pen a'ch pastwn eich hun;
  • gallu dehongli a chyfleu gwybodaeth dechnegol.

Meini prawf derbyn
Gradd ecoleg neu bwnc perthnasol ac aelodaeth o Sefydliad Rheoli Ecoleg ac Amgylcheddol, Sefydliad y Dirwedd neu gorff cyffelyb.  Bydd angen pum mlynedd o brofiad ar lefel uwch o ran rheoli staff a chynllunio gwaith.  Dylai fod gyda chi gymhwyster ym maes rheoli, profiad ym maes llywodraeth leol a phrofiad o arwain tîm neu brosiect, er na fydd hynny'n hanfodol.  A chithau'n ecolegydd, byddai disgwyl ichi gyflawni'r un dyletswyddau ag uwch ecolegydd, ond ar lefel lai strategol.  Byddai rhaid astudio ar gyfer aelodaeth o'r corff proffesiynol pe na baech chi'n aelod eisoes.

Gobeithion a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
Mae diwydiant diogelu'r amgylchedd ar gynnydd ac mae sawl cyfle i ddatblygu gyrfa yn eich bro ac ym mhob rhan o'r byd.  Y cam nesaf yng ngyrfa uwch ecolegydd mewn cyngor lleol yw rheolwr cyfadran lle byddech chi'n gyfrifol am gadwraeth bensaernïol, archeoleg, amaeth, cynaladwyedd, tirweddau, coed ac adeiladau o arwyddocâd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Ecolegwyr Llywodraeth Leol: www.alge.org.uk
Cymdeithas Ecoleg Prydain: www.britishecologicalsociety.org
Sefydliad Rheoli Ecoleg ac Amgylcheddol: www.ieem.net
Journal of Ecology: www.journalofecology.org
Sefydliad y Dirwedd: www.landscapeinstitute.org
Lantra www.lantra.co.uk
Cymdeithas Ryngwladol Ecoleg Tirweddau: www.plantsci.org.uk

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd mewn bwyd a ffermio: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-fwyd-a-ffermio/   

Efallai bod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links