Archeolegydd

Cyflwyniad
Mae mwy i archeoleg nag sy'n amlwg.  Nid dim ond pobl mewn esgidiau brwnt yn crafu'n ofalus mewn rhyw dwll mwdlyd gan ddatgelu darnau o lestri ac adeiladau o'r oes gynt mo hyn, er bod sawl rhinwedd i weithgarwch o'r fath, wrth gwrs.  Ar wahân i faes hanes, mae llawer o bobl yn cloddio'n archeolegol er adloniant neu ddiddordeb proffesiynol.  Mae eraill yn mwynhau ei wylio ar y teledu.  Mae'n bwysig dysgu am y gorffennol.  Mae swyddi archeolegol mewn awdurdodau o bob math.  Gelwir swydd archeolegydd yn swyddog treftadaeth, weithiau.

Prif ddiben y swydd ym maes llywodraeth leol yw diogelu adnoddau archeolegol y fro yn ôl polisi datblygu'r cyngor.  Mae'n ymwneud â diogelu ein treftadaeth (adfeilion ac olion bywydau'r gorffennol) rhag prosesau naturiol megis erydu a rhag adeiladwyr na fydden nhw'n fodlon cyflawni eu cyfrifoldebau fel arall, o bosibl.

Amgylchiadau'r gwaith
Byddwch chi'n gweithio mewn swyddfa ac yn yr awyr agored, hefyd - yn arbennig ar safleoedd ailddatblygu.  Bydd angen teithio trwy'r ardal a'r rhanbarth.  Fel arfer, fe fydd y gwaith yn parhau beth bynnag fo'r tywydd a bydd tipyn o sefyll, pen-glinio a cherdded.  Bydd dillad diogelu, hetiau caled ac esgidiau cryf ar gael.  37 awr yw'r wythnos safonol, heb angen shifftiau wrthgymdeithasol.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae'r rheiny'n weddol gyson: cynghori cynllunwyr ac ymgynghorwyr archeolegol; sefydlu prosiectau; monitro gwaith mae adeiladwyr preifat yn ei ariannu; asesu a gwerthuso yn y maes.  Y nod cyffredinol yw pennu pa safleoedd y bydd angen eu harchwilio'n archeolegol.  Mae hynny'n ymwneud â pharatoi gwybodaeth a gofynion ar gyfer y gwaith a goruchwylio'r hyn sydd i ddeillio ohono.  Bydd archeolegydd yn treulio llawer o amser yn astudio ceisiadau am ganiatâd cynllunio ac yn trafod telerau gydag adeiladwyr ac ymgynghorwyr gan amlaf, gan ofalu na fydd unrhyw berygl i olion archeolegol a phenderfynu a fydd angen gwaith maes neu beidio.  Wedi hynny, bydd yn hysbysu'r cynllunwyr am ei benderfyniadau.

Y nod yn y pen draw yw cadw adfeilion hen adeiladau megis cestyll, tai canoloesol a chaerau Rhufeinig yn ogystal ag olion ogofau - naill ai ar y safleoedd gwreiddiol neu trwy eu cofnodi'n ofalus yn ystod y cloddio.  Mae gan yr awdurdod gronfa ddata o'r enw 'cofnod y safleoedd a'r cofebion' ar gyfer gwybodaeth o'r fath.  Mae modd i bobl ddarllen yr wybodaeth neu ymweld â'r safleoedd sy'n hygyrch.  Yn aml, bydd gwaith archeolegydd yn ymwneud â rheoli gwybodaeth, hefyd - trwy gynnal a diweddaru gwefannau a chofnod y safleoedd a'r cofebion - yn ogystal â helpu i reoli safleoedd archeolegol yn uniongyrchol.  Rhaid defnyddio caib a rhaw ar gyfer y cloddio, ond contractwyr archeolegol fydd yn gwneud hynny, o dan oruchwyliaeth archeolegydd yr awdurdod lleol.  Bydd yr archeolegydd wrth ei gyfrifiadur ac mewn trafodaethau gyda chynllunwyr, penseiri, adeiladwyr, contractwyr ac ymgynghorwyr archeolegol, contractwyr dymchwel, arolygwyr Cadw a'r cyhoedd gan amlaf.  Rhaid gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun yn ôl safonau Sefydliad yr Archeolegwyr a Chymdeithas Swyddogion Archeolegol Llywodraeth Leol.
 
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • amynedd;
  • medrau tynnu lluniau a thrin a thrafod cyfrifiadur;
  • medrau arsylwi;
  • gwybod am olion archeolegol Prydain ac arferion maes;
  • gwybod am brosesau cynllunio;
  • gallu ymarferol;
  • manwl gywirdeb;
  • natur dringar;
  • diddordeb yn yr amgylchedd;
  • gallu rheoli prosiectau;
  • gallu trin a thrafod symiau;
  • gallu cyd-dynnu â phobl o bob lliw a llun;
  • medrau negodi.

Meini prawf derbyn
Bydd gradd prifysgol (ym maes archeoleg, gan amlaf) yn hanfodol.  Fe fydd angen profiad o gloddio ac archwilio archeolegol a goruchwylio prosiectau fel arfer, hefyd.  Bydd disgwyl ichi barhau i ddatblygu'n broffesiynol trwy Sefydliad yr Archeolegwyr.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Dyma faes eithaf cyfyng a chystadleuol.  Byddai'r gobeithion yn well i gontractwyr archeolegol o ran dyrchafu.  Mae modd datblygu gyrfa trwy symud rhwng adrannau a chynghorau neu fanteisio ar gyfleoedd y tu allan i'r awdurdodau lleol megis y rhai mewn prifysgolion ac asiantaethau treftadaeth cenedlaethol.  Y swydd nesaf ar ôl prif archeolegydd yw archeolegydd y sir.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Swyddogion Archeolegol Llywodraeth Leol: www.algao.org.uk
CADW: www.cadw.wales.gov.uk  
Cyngor Archeoleg Prydain: www.britarch.ac.uk
Medrau Creadigol a Diwylliannol: www.cciskills.org.uk
Sefydliad yr Archeolegwyr: www.archaeologists.net
Comisiwn Brenhinol Cofebion Hynafol a Hanesyddol Cymru: www.rcahmw.gov.uk

Gallai fod rhagor o wybodaeth ar wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), yn llyfrgell eich bro neu yn swyddfa/llyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links