Cyflwyniad
 Gall curadur amgueddfa neu oriel fod yn gyfrifol am holl agweddau
cynnal, cadw, rheoli, hyrwyddo a datblygu amgueddfa neu
arddangosfeydd a chasgliadau penodol ynddi.  Gall y gwaith
amrywio'n fawr rhwng prynu a chadw gweithiau celf a phethau eraill
o ddiddordeb, cadw cofnodion, hyrwyddo arddangosfeydd parhaol a
thros dro, llunio rhaglenni addysg, meithrin partneriaethau a dod o
hyd i ffynonellau arian.  O bosibl, bydd rhaid rheoli staff yn
ogystal â chyllidebau.
Amgylchiadau'r gwaith
 Yn yr amgueddfa ei hun y bydd y rhan fwyaf o waith yn digwydd er y
bydd curadur yn mynd allan yn aml i hyrwyddo gweithgareddau
addysgol, meithrin cysylltiadau ar gyfer cydweithio, prynu
arteffactau/gweithiau celf, denu ymwelwyr ac ati.
37 awr yw'r wythnos safonol fel arfer, a gallai fod angen
gweithio dros y Sul ac yn ystod gwyliau banc i baratoi a chynnal
arddangosfeydd.
Gweithgareddau beunyddiol
 Bydd cyfrifoldebau curadur yn amrywio yn ôl y math o amgueddfa a
pha mor fawr yw hi.  Dyma ddyletswyddau nodweddiadol:
- dod o hyd i arteffactau a gweithiau celf i'w harddangos yn yr
amgueddfa;
 
- gofalu bod y rheiny wedi'u rhestru, a chadw cofnodion
perthnasol;
 
- cynnal ymchwil i ofalu bod pethau'n ddilys a rhoi cymaint o
wybodaeth ag y bo modd amdanyn nhw;
 
- ysgwyddo cyfrifoldeb am ddiogelu pob peth a chasgliad gan ofalu
eu bod yn cael eu cadw a'u harddangos yn briodol;
 
- monitro tymheredd, lleithder ac ati o ran casgliadau sydd mewn
storfeydd ac arddangosfeydd;
 
- nodi pethau mae angen eu hadnewyddu a dod o hyd i arian ar
gyfer hynny;
 
- arddangos pethau fel y bydd yn hawdd i bobl eu gweld a'u
gwerthfawrogi;
 
- cynllunio, trefnu a dehongli arddangosfeydd;
 
- gofalu bod safon uchel o ofal a diogelwch ar gyfer
cwsmeriaid;
 
- llunio a goruchwylio rhaglenni addysgol a threfnu achlysuron
allgymorth;
 
- marchnata'r amgueddfa a'i harddangosfeydd ac ymateb i
ymholiadau'r wasg a'r cyhoedd;
 
- rheoli cyllidebau a dod o hyd i ffynonellau arian;
 
- rheoli unrhyw weithwyr gan gynnwys materion recriwtio,
disgyblu, cyflawni, hyfforddi ac ati;
 
- cydweithio â phartneriaid, mudiadau gwirfoddol, ymddiriedolwr
ac ati;
 
- cwrdd â phroffesiynolion eraill a threfnu i gael deunyddiau ar
fenthyg.
 
Medrau a diddordebau
 Mae angen y canlynol:
- diddordeb a gwybodaeth ynglŷn â phwnc perthnasol;
 
- profiad o weithio mewn amgueddfa;
 
- gallu trin a thrafod pobl a chyfathrebu'n dda ar lafar ac ar
bapur;
 
- medrau ymchwil;
 
- medrau TGCh;
 
- profiad o reoli ac arwain pobl;
 
- meddwl creadigol;
 
- gallu rheoli prosiectau;
 
- medrau dylanwadu a negodi.
 
Meini prawf derbyn
 Mae'r rhan fwyaf o guraduron yn raddedigion.  Pynciau megis
hanes, hanes celf ac astudiaethau amgueddfa/treftadaeth yw'r
dewisiadau amlycaf er y gallai curaduron ddod o sawl cefndir
academaidd perthnasol megis archaeoleg, astudiaethau clasurol a
hanes yr hen fyd.
Mae nifer o brifysgolion y Deyrnas Gyfunol yn cynnig cyrsiau
gradd a diploma mewn pynciau megis astudiaethau amgueddfa, cadw
pethau mewn amgueddfeydd a llunio ar gyfer arddangosfeydd ac
amgueddfeydd.
Cyn cael swydd mewn amgueddfa, bydd angen profiad o'r
alwedigaeth trwy fod yn weithiwr gwirfoddol neu'n fyfyriwr dan
hyfforddiant.  Mae gwybodaeth am gyfleoedd i fod yn weithiwr
gwirfoddol ledled y deyrnas gan Gymdeithas yr Amgueddfeydd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Mae amgueddfa yn y rhan fwyaf o drefi a dinasoedd, a bydd y
cyfleoedd i weithio ym mhob un yn dibynnu ar ba mor fawr yw
hi.  Mae gan yr amgueddfeydd mwyaf staff amryfal megis
swyddogion marchnata/hel arian, dylunwyr, crefftwyr, cadwraethwyr,
curaduron, rheolwyr a thechnegwyr.  Efallai mai dim ond
ychydig o weithwyr a fydd mewn amgueddfa fechan.  Mae
Cymdeithas yr Amgueddfeydd yn rhoi gwybodaeth am ddatblygu
gyrfaol.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Cymdeithas Haneswyr Celf: www.aah.org.uk
 Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol: www.cciskills.org.uk
 Cymdeithas yr Amgueddfeydd: www.museumsassociation.org
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.