Cyflwyniad
Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio gyda phobl ac arnyn
nhw anableddau a'u cynhalwyr pan fôn nhw'n profi anawsterau ynglŷn
â gweithgareddau personol, cartref, gwaith a hamdden. Maen
nhw'n ymwneud â phlant ac oedolion o bob oed ac arnyn nhw sawl
problem gorfforol, meddyliol a chymdeithasol.
Y cam cyntaf yw asesu'r sawl sy'n anabl a'i gynhaliwr i bennu'r
hyn mae angen ei wneud i hybu ei annibyniaeth a lleddfu'r peryglon
iddo. Gallai hynny gynnwys rhoi offer syml a/neu arbenigol,
addasu'r cartref neu ei gynghori am ailgartrefu. Gallai fod
angen ei gynghori am ddulliau gwneud iawn hefyd i'w helpu i ymdopi
â'r namau ar ei gorff neu ei feddwl. Mae therapyddion
galwedigaethol wedi'u cofrestru trwy Gyngor y Proffesiynau Iechyd a
Gofal. Ar ôl ymgymhwyso, gall therapydd weithio'n gyfannol
gan gwmpasu agweddau corfforol, cymdeithasol a seicolegol pob
anabledd. Mae gyda nhw wybodaeth arbenigol am ddylunio tai a
byddan nhw'n cynghori adran tai'r cyngor am symudedd ac addasu
tai.
Amgylchiadau'r gwaith
Yn swyddfa'r gwasanaethau cymdeithasol neu mewn tîm therapi
galwedigaethol a gwaith cymdeithasol y bydd therapydd
galwedigaethol yn gweithio, fel arfer. Mae'n ymweld â phobl
yn y cartref, yn y gwaith, yn yr ysgol neu mewn canolfan oriau
dydd. Mae'n cydweithio'n agos â phroffesiynolion eraill mewn
canolfannau iechyd, ysbytai, adrannau eraill y cyngor a mudiadau
gwirfoddol.
Gweithgareddau beunyddiol
Mae therapyddion galwedigaethol yn ymweld â phobl ac arnyn nhw
anableddau a'u cynhalwyr i asesu eu hanghenion o ran annibyniaeth a
gofal gartref. Rhaid paratoi llawer o adroddiadau i
gydymffurfio â gofynion y gyfraith yn ogystal â chydweithio â phobl
eraill megis syrfewyr, gweithgynhyrchwyr, mudiadau pobl anabl a
swyddogion ymddiriedolaethau iechyd. Mae digon o gynadleddau
am achosion a chyfarfodydd rhwng timau, hefyd.
Mae therapyddion galwedigaethol yn rhoi cynghorion a
chyfarwyddyd i ddarparwyr gofal yn y gymuned i'w galluogi i weithio
yn ôl canllawiau iechyd a diogelwch lleol a gwladol, gan ofalu bod
eu staff yn gweithio mewn lleoedd diogel.
Maen nhw'n trefnu eu dyddiaduron eu hunain ac yn blaenoriaethu
gorchwylion sy'n ymwneud ag achosion cymhleth a thra chymhleth, er
y bydd uwch therapydd yn eu goruchwylio nhw'n fynych. Ar ôl
i'r gwasanaeth ddod i ben yn foddhaol, bydd rhaid i'r therapydd
werthuso'r deilliant a chofnodi unrhyw beryglon sydd ar ôl.
Mae'r rhan fwyaf o wasanaethau therapi galwedigaethol yn y gymuned
yn disgwyl i'w gweithwyr gymryd eu tro ar ddyletswydd y tu allan i
oriau gwaith, hefyd. Mae therapyddion yn ymwneud â pheth
gwaith datblygu ar ran y gwasanaeth megis cydweithio ag adran tai'r
cyngor a gwasanaethau cadeiriau olwynion a gwerthuso offer o bryd
i'w gilydd, hefyd. Mae hyfforddi yn y swydd a datblygu
proffesiynol yn barhaus.
Medrau a diddordebau
Hanfod therapi galwedigaethol yn y gymuned yw cyfathrebu â phobl
sy'n agored i niwed am faterion personol a holl agweddau a
gweithgareddau eu bywydau. Felly, mae angen y diddordeb a'r
gallu i gyd-dynnu â phobl.
Rhaid amlygu cydymdeimlad, gwrando'n effeithiol a bod yn
wrthrychol wrth asesu pobl yn drylwyr.
Mae angen medrau trefnu da a'r gallu i ysgwyddo cyfrifoldebau a
datrys problemau. Byddai diddordeb mewn anableddau a deddfau
perthnasol yn hanfodol, hefyd.
Meini prawf derbyn
Mae angen cymhwyster proffesiynol, sef gradd ym maes therapi
galwedigaethol - naill ai trwy gwrs tair blynedd (y radd gyntaf)
neu ddwy flynedd (i ôl-raddedigion). Mae rhagor o wybodaeth
gan Goleg y Therapyddion Galwedigaethol.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae cyfleoedd i gael eich dyrchafu'n uwch therapydd galwedigaethol
neu'n rheolwr tîm. Mae rhai therapyddion yn mynd yn uwch
rheolwyr yn adran y gwasanaethau cymdeithasol mewn meysydd megis
gwasanaethau anableddau corfforol, comisiynu gwasanaethau allanol a
llunio polisïau.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Cymdeithas Therapyddion Galwedigaethol Prydain a Choleg y
Therapyddion Galwedigaethol: www.cot.co.uk
Gwirfoddolwyr Gwasanaeth Cymunedol: www.csv.org.uk/socialhealthcare
Cyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal: www.hpc-uk.org
Gyrfaoedd y GIG:
http://www.nhscareers.nhs.uk/explore-by-career/allied-health-professions/careers-in-the-allied-health-professions/occupational-therapist/
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.