Llyfrgellydd

Cyflwyniad
Mae llyfrgellwyr y cynghorau lleol yn cynnal llyfrgelloedd cyhoeddus, gan helpu i roi ar gael amrywiaeth helaeth o lyfrau, cylchgronau, casetiau a disgiau - yn ogystal â chyfleusterau'r we.  Eu nod yw diwallu'r anghenion ehangach o ran gwybodaeth.  Mae 10,000 o lyfrgellwyr ym myd llywodraeth leol y Deyrnas Gyfunol.

Amgylchiadau'r gwaith
Ar wahân i'r gwasanaeth teithiol, mae llyfrgellwyr yn gweithio dan do.  Mae rhai llyfrgelloedd mewn adeiladau sydd wedi'u codi'n bwrpasol ac mae rhai mewn adeiladau sydd wedi'u haddasu.

Gweithgareddau beunyddiol
Bydd pwyslais gwaith llyfrgellydd yn dibynnu ar y gorchwyl mae'n ei gyflawni ond, ar y cyfan, bydd yn gyfrifol am: 

  • Gofalu bod y stoc yn addas.  Rhaid dewis deunyddiau sy'n adlewyrchu galw'r brif ffrwd, oedolion sy'n dysgu, disgyblion a charfanau penodol - a hynny yn ôl ffiniau'r gyllideb.
  • Gofalu bod y stoc wedi'i gyflwyno mewn modd hawdd ei ddefnyddio.
  • Ymdrin ag ymholiadau gan y cyhoedd megis dod o hyd i ddeunyddiau ar gyfer cyrsiau disgyblion, rhoi gwybodaeth i gwmnïau am y gyfraith neu drethi, helpu i gynnal ymchwil a helpu'r di-waith i chwilio am swyddi, cyrsiau a gwybodaeth am yrfaoedd.
  • Trefnu gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol i'r anabl a'r henoed, yn ogystal â threfnu cylchoedd darllen i blant bach.
  • Rheoli uwch gynorthwywyr y llyfrgell a nifer o gynorthwywyr llyfrgell a gwybodaeth.
  • Trin a thrafod materion megis rhoi a derbyn deunyddiau sydd ar fenthyg, ail-lenwi'r silffoedd ac atgoffa pobl am ddeunyddiau mae rhaid dod â nhw yn ôl.  Bydd cynorthwywyr y llyfrgell yn eu helpu mewn gorchwylion o'r fath.

Medrau a diddordebau
Rhaid i lyfrgellydd allu gweithio gyda phobl o bob lliw a llun a phob oed, boed blant bach neu hen bobl.

Gan fod cyfrifiaduron a'r we ar gynnydd, mae diddordeb a phrofiad yn y maes hwnnw yn hanfodol - yn arbennig y modd mae'n helpu'r llyfrgell i roi gwasanaethau'n well.

Rhaid gallu cyfathrebu'n dda - ar lafar a thrwy lythyr fel ei gilydd.  At hynny, mae angen amynedd, agwedd dringar a hyder i gyd-dynnu â chwsmeriaid a chydweithwyr.

Meini prawf ymgeisio
Cewch chi statws proffesiynol naill ai trwy radd mae Cymdeithas y Llyfrgelloedd wedi'i hachredu neu ennill gradd mewn pwnc arall gyntaf a chael diploma neu radd meistr mae'r gymdeithas honno'n ei chydnabod wedyn. 

  • Mae cyrsiau llyfrgellwyr yn ymwneud â rheoli adnoddau a phobl yn ogystal â thrin a thrafod gwybodaeth, gan gynnwys technoleg gwybodaeth ar gyfer y llyfrgelloedd, cronfeydd data, dod o hyd i wybodaeth ar y we a phrosesu geiriau.
  • Efallai y bydd ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol yn cael eu derbyn ar yr amod bod profiad o waith perthnasol gyda nhw.
  • Bydd y rhan fwyaf o lyfrgellwyr yn aelodau o'u cymdeithas broffesiynol cyn pen dwy flynedd ar ôl dechrau eu swydd gyntaf yn y maes.
  • Mae Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (lefelau 2-4) a phrentisiaeth ym maes 'llyfrgelloedd, archifau, cofnodion a gwasanaethau rheoli gwybodaeth'.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Mae angen llyfrgellwyr ledled y deyrnas.  Bydd nifer y swyddi'n amrywio o'r naill fro i'r llall - yn y trefi y mae'r rhan fwyaf.  I wella'ch cyfleoedd o ran cael eich dyrchafu, dylech chi fod yn aelod o Gymdeithas y Llyfrgellwyr a bod yn fodlon symud i wahanol ardaloedd yn ôl yr angen.  Mae'r rhan fwyaf o aelodau'r gymdeithas yn gweithio yn y llyfrgelloedd cyhoeddus (25.1%) neu lyfrgelloedd colegau a phrifysgolion (17.37%).  Bydd llyfrgellwyr sydd newydd ymgymhwyso yn derbyn swydd cynorthwywr llyfrgell er mwyn cael troed yn y drws, weithiau.

Mae cyfleoedd i weithio'n swyddogion gwybodaeth yn amryw adrannau'r cyngor ac yng ngwasanaeth llyfrgelloedd yr ysgolion, hefyd.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Prentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk 
Sefydliad Breiniol Proffesiynolion Llyfrgelloedd a Gwybodaeth: www.cilip.org.uk 
Sefydliad Rheoli Sustemau Gwybodaeth: www.imis.org.uk 
Cymdeithas Llyfrgelloedd yr Ysgolion: www.sla.org.uk 
Sefydliad Breiniol TG: www.bcs.org.uk

Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu erthygl Sbotolau ar yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-diwydiannau-creadigol/

Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol. 

Related Links