Technegydd amlosgfa

Cyflwyniad
Mae gwaith technegwyr amlosgfa yn amrywiol.   Gallant helpu'r broses alaru drwy sicrhau bod popeth yn mynd yn ddidrafferth.   Mae swyddi o'r fath ar gael ym mhob awdurdod lleol. Ar hyn o bryd mae angladdau'n troi'n fwy unigryw, gan ddathlu bywyd yr ymadawedig drwy gerddoriaeth, darlleniadau a theyrngedau gweledol yn hytrach na seremoni draddodiadol.  Gall yr ymadawedig ddewis cael band jazz yn yr amlosgfa yn hytrach nag emynau, a dewis i'w lwch gael ei wasgaru dros y môr yn hytrach nag yn yr Ardd Gofio.  Rôl technegydd yr amlosgfa yw sicrhau bod yr holl ddymuniadau hyn yn cael eu gwireddu.  

Amgylchedd Gwaith
Fel arfer yr oriau yw 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond cynhelir rhai gwasanaethau ar y penwythnos.  Mae technegwyr amlosga yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser dan do, gyda llawer o amser ar eu traed.  Mae'r rhan fwyaf o dasgau'n cynnwys codi a chario. Efallai bydd angen gwneud rhywfaint o waith yn yr awyr agored hefyd.  Rhaid i'r technegwyr wisgo'n drwsiadus, yn addas i'r achlysur.  

Gweithgareddau Dyddiol
Caiff y gwaith ei gyflawni mewn amlosgfa.  Mae gan dechnegwyr amlosgfa lawer o rolau gwahanol y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni ym mhob amlosgiad.  Bydd Technegwyr Amlosgfa yn gyfrifol am redeg yr amlosgfa o ddydd i ddydd a sicrhau bod pob amlosgiad yn cael ei wneud yn unol â gofynion statudol a rheoleiddiol.   

Mae Technegwyr Amlosgfa yn gyfrifol am gynnal pob gwasanaeth yn unol â chyfarwyddiadau a gyflwynir gan deulu'r ymadawedig, sicrhau y caiff y capel ei lanhau a'i baratoi cyn y gwasanaeth, paratoi a gweithredu ceisiadau cerddorol a gweledol ar system gerddoriaeth ddigidol yn unol â cheisiadau gan deulu'r ymadawedig.  Byddant yn cwrdd â cortege yr angladd ac yn tywys y galarwyr i mewn ac allan o'r capel.

Mae Technegwyr Amlosgfa hefyd yn cynnal a chadw cyfarpar amlosgi a monitro allyriadau.  Unwaith y bydd yr angladd drosodd, mae technegwyr yn gyfrifol am yr amlosgiad, gan sicrhau y caiff holl weddillion yr ymadawedig eu cadw, a storio a gwaredu'r gweddillion sydd wedi'u hamlosgi.

Ymysg agweddau eraill y swydd mae cadw cofnodion a dyletswyddau gweinyddol, mynd ag ymwelwyr i gofebion presennol a helpu i gynnal y tiroedd.   Yn eu gwaith beunyddiol byddant yn gweithio fel rhan o dîm, a fydd yn cynnwys gweithwyr gweinyddol, ac yn dod i gysylltiad â gweithwyr y fynwent, swyddogion profedigaeth, cofrestrwyr y cyngor, cyfarwyddwyr angladdau, trefnwyr angladdau, gyrwyr hers, cyfeillion a pherthnasau'r ymadawedig, swyddogion crefyddol ac ati. 

Sgiliau a Diddordebau
Mae angen i holl staff yr amlosgfa:

  • allu delio'n gydymdeimladol â phobl sy'n galaru, gan fod yn bwyllog a chwrtais.
  • bod yn gorfforol ffit
  • meddu ar rywfaint o wybodaeth am arddio
  • meddu ar synnwyr digrifwch.

Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion academaidd ffurfiol, ond mae angen rhywfaint o sgiliau darllen ac ysgrifennu.  Rhaid i bob ymgeisydd fod yn barod i ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol.

Cydnabyddir y Cynllun Hyfforddi Technegwyr Amlosgfa (a redir ar y cyd gan Ffederasiwn Awdurdodau Amlosgi Prydain a'r Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd - ICCM) i safon BTEC, a gall y technegydd gyflawni'r cwrs hwn o bell ar ei liwt ei hun. Mae ICCM hefyd yn cynnig y Cynllun Hyfforddi Gweithredwyr Mynwent.  Mae cymhwyster City in Guilds mewn Cynnal a Chadw Mynwentydd hefyd ar gael. Mae cyrsiau gohebiaeth hefyd ar gael ar gyfer y rheini sydd eisoes yn gweithio yn y proffesiwn.

Rhagor o Wybodaeth a Gwasanaethau
Sefydliad Pêr-eneinwyr Prydain www.bioe.co.uk   
City and Guilds www.city-and-guilds.co.uk 
Ffederasiwn Awdurdodau Amlosgi Prydain www.fbca.org.uk 
Sefydliad Rheoli Mynwentydd ac Amlosgfeydd www.iccm-uk.com 
Cymdeithas Amlosgi Prydain Fawr www.cremation.org.uk

Mae modd cael rhagoro wybodaeth am y maes hwn trwy wefan Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/) y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich ysgol.

Related Links