Technegydd cerbydau modur

Cyflwyniad
Mae technegwyr cerbydau modur y cynghorau lleol yn gyfrifol am drwsio, cynnal a chadw cerbydau'r cyngor gan gynnwys ceir, faniau, lorïau, cerbydau cludo teithwyr (megis bysiau a thramiau) ac offer claddu.  Rhaid cadw pob cerbyd ac offeryn ac ynddo beiriant mewn cyflwr diogel bob amser.

Amgylchiadau'r gwaith
Mewn gweithdy y bydd technegwyr cerbydau modur gan amlaf, er y gallai fod angen mynd allan i ddod â cherbydau sydd wedi methu yn ôl i'r safle.  Fel arfer, mae rhaid gwisgo dillad diogelu megis esgidiau cryf ac oferôls.

37 awr yw'r wythnos safonol, a hynny yn ôl trefn shifftiau.  Gallai fod rhaid aros ar gael am 24 awr yn ogystal â gweithio ar fore Sadwrn.

Gweithgareddau beunyddiol
Mae technegwyr cerbydau modur yn archwilio, yn trwsio, yn cynnal ac yn cadw pob un o gerbydau ac offer modur y cyngor.  Dyma eu dyletswyddau:

  • archwilio cerbydau nwyddau trwm, ceir, cerbydau masnachol ysgafn a bysiau yn ôl canllawiau VOSA;
  • archwilio offer modur yn ôl rheoliadau PUWER;
  • pennu pa broblemau sydd ar gerbydau a beth mae angen ei wneud i'w datrys - er enghraifft, a ddylai uned gael ei thrwsio neu ei newid;
  • cynnal a chadw cerbydau yn ôl rhaglen;
  • gosod cyfarpar megis ffonau i'w defnyddio heb ddwylo, dyfeisiau olrhain a phecynnau rheoli cerbyd;
  • adnewyddu darnau;
  • gyrru cerbydau ar brawf i ofalu bod y gwaith wedi'i wneud yn dda;
  • cofnodi problemau pob cerbyd gan nodi'r darnau newydd sydd wedi'u gosod a'r atgyweiriadau sydd wedi'u cyflawni;
  • gorffen gwaith yn ôl amserlenni;
  • esbonio problemau mewn iaith syml ac argymell atgyweiriadau perthnasol;
  • defnyddio offer trydan i gywiro problemau trydanol;
  • defnyddio arfau llaw trydan megis sbaneri, tyrnsgriwiau, peiriannau tyllu a chyfarpar sodro a weldio (gan gynnwys setiau ocsi-asetylen a mig);
  • mynd i drwsio cerbydau sydd wedi methu ar y ffordd.

Efallai y bydd technegwyr mwy profiadol yn goruchwylio tîm bychan.

Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:

  • natur ymarferol gyda'r gallu i ddefnyddio arfau llaw a thrydan yn ddiogel a defnyddio offer electronig i ddod o hyd i broblemau;
  • natur drefnus a manwl gywirdeb;
  • ymwybyddiaeth o weithdrefnau diogelwch bob amser;
  • gallu gweithio o'ch pen a'ch pastwn eich hun ac mewn tîm;
  • gallu cyfathrebu â phobl o sawl lliw a llun.

Meini prawf derbyn
Efallai na fydd meini prawf penodol i ddechrau'n weithiwr o dan hyfforddiant ond, mewn rhai achosion, gallai fod angen pedair TGAU (A*-C) neu gymhwyster cyfwerth gan gynnwys mathemateg.  Mae angen trwydded yrru hefyd - gallai rhai cynghorau fynnu trwydded gyrru cerbydau nwyddau ysgafn.  Mae gweithwyr o dan hyfforddiant yn dysgu yn y gwaith wrth astudio ar gyfer Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol neu fwrw prentisiaeth.  Dyma bynciau perthnasol: cynnal a chadw cerbydau modur, gosodwr cerbydau, cynnal a chadw cerbydau a chymorth ac adennill ymyl y ffordd.  Gallai rhai cynghorau ofyn am dechnegwyr cymwysedig a phrofiadol.  Efallai y bydd angen tystysgrif Cyngor Addysg Busnes a Thechnoleg/Sefydliad y Ddinas a'r Urddau neu Ddiploma Genedlaethol Uwch mewn pynciau perthnasol.

Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
Yn ogystal â chael eich dyrchafu'n rheolwr, gallai fod cyfle i symud i swyddi technegol eraill megis trydanwr a thechnegydd cynnal a chadw cyfleusterau ar ôl cael rhagor o hyfforddiant a phrofiad.

Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
Gwybodaeth am brentisiaethau: www.apprenticeships.org.uk
People First www.goskills.org
Retail Motor Industry Training (Remit) Ltd www.remit.co.uk
Cymdeithas Cludo Nwyddau: http://roadhaulageassociation.wordpress.com
Sefydliad Diwydiant Modur: www.motor.org.uk

Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd eich ysgol.

Related Links