Cyflwyniad
 Gwaith arolygwyr goleuadau'r strydoedd (arolygwyr trydanol mewn
rhai cynghorau) yw gofalu bod goleuadau yn y strydoedd, y parciau
a'r mannau agored mewn cyflwr da.  Maen nhw'n gweithio yn y
cynghorau sirol, unedol a dinasol.
Amgylchiadau'r gwaith
 Mae'r arolygwyr yn gwneud eu gwaith papur yn swyddfeydd y cyngor,
gan dreulio cryn dipyn o amser yn defnyddio'r ffôn.  Maen
nhw'n treulio 70% o'u hamser y tu allan i'r swyddfa, fodd bynnag,
gan archwilio goleuadau (beth bynnag fo'r tywydd).  Byddan
nhw'n treulio peth amser yn ymweld â phreswylwyr, hefyd.  Wrth
archwilio goleuadau, rhaid gwisgo sbectol diogelwch a menig
rwber.  37 awr yw'r wythnos safonol, rhwng dydd Llun a dydd
Gwener, er y gallai fod angen gwaith ychwanegol mewn argyfwng.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae'r arolygwyr yn dechrau pob dydd yn y swyddfa, gan wirio
anfonebau'r amryw gontractwyr i wneud yn siwr eu bod yn codi tâl yn
ôl y cytundeb cyn caniatáu iddyn nhw gael eu talu.  At hynny,
rhaid ymateb i alwadau gan gontractwyr, preswylwyr a chwmnïau
trydan a rhoi gorchmynion ar gyfer gwaith.  Yna, byddan nhw'n
ymweld ag amryw safleoedd.  Bydd rhai ymweliadau'n rhan o
raglen archwilio a chynnal a chadw.  Byddan nhw'n archwilio'r
pyst, gan benderfynu pa rai sy'n ddiogel a pha rai ddylai gael eu
newid.  Bydd unrhyw rai ac arnyn nhw wallau amlwg yn
flaenoriaeth.  Ar ôl dychwelyd i'r swyddfa wedyn neu
drannoeth, byddan nhw'n cysylltu â chontractwyr sy'n gosod pyst dur
a choncrit a chwmnïau trydan fydd yn gosod cyfarpar trydanol. 
Ynghyd â gorchmynion gwaith, byddan nhw'n anfon cynlluniau sy'n
dangos ble mae'r pyst dan sylw.  Efallai y bydd rhaid cysylltu
â nifer o gwmnïau trydan os nad oes un cwmni'n gyfrifol am yr ardal
i gyd.  Felly, rhaid gwybod pa gwmni sy'n gyfrifol am bob
bro.
Rhaid ymweld â safleoedd yn sgîl cais neu argyfwng, hefyd. 
Os yw preswylydd wedi cwyno nad yw golau'n gweithio neu fod y
golau'n disgleirio i un o'i ystafelloedd, rhaid mynd i'w
archwilio.  Lle mae'n disgleirio i ystafell tŷ cyfagos, bydd
yn mesur yr ongl i osod sgrîn.  Wrth ddefnyddio contractwyr,
bydd yr arolygydd yn ymweld â'r safle yn fynych i edrych ar eu
gwaith a gofalu eu bod yn cadw at y gweithdrefnau diogelwch megis
dodi arwyddion, conau a chlwydi er diogelwch y cyhoedd.  Os
nad ydyn nhw wedi gwneud hynny, mae gan yr arolygydd hawl i'w
dirwyo nhw.  Mewn argyfwng megis nifer o oleuadau sy'n methu â
gweithio neu bostyn sydd wedi cwympo, rhaid ymweld â'r lle a
threfnu atgyweiriadau yn syth.  Y gorchwyl cyntaf yw
datgysylltu'r trydan.  Efallai y bydd modd gofyn i'r cwmni
trydan wneud hynny neu efallai y bydd rhaid i'r arolygydd ei wneud
trwy ddod o hyd i'r switsh.  Ar ôl datrys y broblem, bydd yn
gofyn i'r cwmni droi'r trydan ymlaen eto cyn gynted ag y bo
modd.
  
 Medrau a diddordebau
 Mae angen gwybodaeth dechnegol (gweler 'Meini prawf derbyn' isod)
yn ogystal â gwybodaeth am gymorth cyntaf a rheoliadau iechyd a
diogelwch.  Gan fod angen trin a thrafod cwynion gan y cyhoedd
a chydweithio â chontractwyr trydanol a'u staff ar safleoedd, mae
medrau cyfathrebu'n bwysig, hefyd.
Meini prawf derbyn
 Rhaid i bob arolygydd goleuadau fod yn dechnegydd cymwysedig sydd
wedi bwrw prentisiaeth gyda chontractwr trydanol, cwmni cyflenwi
trydan neu beirianwyr ac wedi ennill tystysgrifau'r Sefydliad y
Ddinas a'r Urddau ac, o bosibl, cymwysterau galwedigaethol
cenedlaethol (mae prentisiaethau uwch sy'n arwain at drydedd lefel
cymwysterau galwedigaethol cenedlaethol ar gael).  Mae'r rhan
fwyaf o gynghorau'n disgwyl rhai blynyddoedd o brofiad ar ôl
gorffen prentisiaeth.  Fe fyddan nhw'n rhoi rhagor o
hyfforddiant trwy anfon arolygwyr i gyrsiau arbenigol am Ddeddf
'Trydan yn y Gwaith' a chyrsiau mae'r amryw gwmnïau trydan yn eu
cynnal.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Gallai cyngor bychan gyflogi dau arolygydd ar gyfer goleuadau'r
strydoedd.  Mewn cyngor mawr, efallai y bydd pedwar neu
bump.  Mae modd cael dyrchafiad i swydd peiriannydd
goleuadau'r ffyrdd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 Medrau Ynni a Chyfleustodau: www.euskills.co.uk
 Cymdeithas y Rhwydweithiau Ynni: www.energynetworks.org
 Sefydliad y Proffesiynolion Goleuo: www.theilp.org.uk
Cewch chi ragor o wybodaeth am y maes hwn trwy gysylltu â
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/), y
llyfrgell gyhoeddus, swyddfa'r gyrfaoedd neu lyfrgell gyrfaoedd
eich ysgol.