Cyflwyniad
 Mae swyddogion cynnal a chadw adeiladau'n gyfrifol am
gyflwr adeiladau'r cyngor megis ysgolion, neuaddau cyngherddau,
swyddfeydd ac, weithiau, tai.  Maen nhw'n ymwneud â gwaith
cynnal a chadw cyffredinol, adnewyddu ac addasu gan helpu i
gyflawni gorchwylion archwilio, cynllunio ac adeiladu.
Mae rhai cynghorau'n galw swyddogion o'r fath yn beirianwyr
maes.  Maen nhw'n gweithio ym mhob cyngor a chanddo adran
archwilio adeiladau/peirianneg yn rhan o ymgynghoriaeth
bensaernïol.  Mae'r swydd yn rhoi cyfle delfrydol i rywun a
chanddo grefft ddechrau gyrfa ym maes dylunio/cynnal a chadw. 
At hynny, gall fod yn gam ymlaen i'r rhai sy'n gweithio ym maes
archwilio adeiladau neu wasanaethau adeiladu.
Amgylchiadau'r gwaith
 Ar safleoedd adeiladu y bydd peirianwyr yn gweithio gan
amlaf, er bod rhaid treulio peth amser wrth gyfrifiadur yn y
swyddfa, hefyd.  Mae'r gwaith ar safle adeiladu'n ymwneud â
gorchwylion corfforol megis codi offer, dringo ysgol a cherdded ar
hyd sgaffald i gyrraedd mannau uchel yn ogystal â chyrchu rhai cul.
 Ar adegau, efallai y bydd angen trin a thrafod tir sydd wedi
pantio neu'n ansefydlog.  Yn achos argyfwng, gallai fod rhaid
i swyddog/peiriannydd sydd ar ddyletswydd fynd i safle unrhyw bryd
- boed ddydd neu nos - beth bynnag fo'r tywydd.
Mae gweithdrefnau iechyd a diogelwch yn bwysig
iawn.  Bydd dillad diogelu megis hetiau caled, esgidiau
cryf a chotiau melyn ar gael.
Gweithgareddau beunyddiol
 Mae swyddogion cynnal a chadw'n gyfrifol am baratoi,
cynllunio a goruchwylio amryw brosiectau sy'n ymwneud ag adnewyddu,
atgyweirio neu addasu adeiladau cyfredol.  Gan fod cynifer o
wahanol fathau o adeiladau, gwasanaethau a dulliau, rhaid defnyddio
amrywiaeth helaeth o wybodaeth a medrau technegol.  Bydd angen
asesu pa fath o atgyweirio neu addasu fydd yn briodol, gan gadw
amryw faterion amgylcheddol mewn cof - yn arbennig cynaladwyedd ac
effeithlonrwydd ynni (wrth ystyried gosod sustem gwres yr haul, er
enghraifft).  Yn aml, bydd swyddogion neu beirianwyr o'r fath
yn perthyn i gwmni ymgynghorol masnachol mae'r cyngor yn ei gynnal.
 O ddechrau prosiect, rhaid: 
- rheoli cytundebau, cadarnhau gofynion gyda'r clientiaid, pennu
anghenion y tîm cynllunio, helpu i fonitro ac adolygu arferion
gweithio, rhoi cyfarwyddyd yn ôl yr angen a chyflwyno adroddiadau
i'r prif syrfëwr neu beiriannydd;
 
- astudio dichonoldeb, paratoi cynlluniau/adroddiadau technegol a
chynghori'r prif syrfëwr meintiau am y dewisiadau gorau o ran rhoi
cytundeb ar gynnig - bydd hynny'n ymwneud â pharatoi lluniau,
prisio'r gwaith, gwirio anfonebau a chaniatáu taliadau;
 
- arwain y prosiect, gan gyfarwyddo'r staff a rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am y cynnydd, y costau ac unrhyw newidiadau i'r
client;
 
- cymryd camau i ddatrys unrhyw broblemau sy'n codi;
 
- gofalu bod yr ymgynghorwyr a'r contractwyr yn gweithio yn ôl
ystyriaethau iechyd a diogelwch (mae gan swyddog hawl i gau rhan o
adeilad neu'r cyfan ohono os yw mewn cyflwr gwael neu os yw
rhywbeth difrifol wedi digwydd);
 
- negodi'r ffïoedd priodol ar gyfer y prosiect, dod ag incwm
allanol i'r cyngor a chadw at y cyllidebau perthnasol.
 
Mae swyddogion cynnal a chadw'n gyfrifol am gynghori pobl am
brosiectau adeiladu, cydweithio â swyddogion cynllunio, rheoli
gwaith adeiladu, rheoli ystadau, monitro rhai awdurdodau statudol
yn y gymuned megis asiantaethau ariannu, goruchwylio
ymgynghorwyr/contractwyr a gofalu am glientiaid.  At hynny,
mae gofyn iddyn nhw archwilio cyflwr adeiladau a sefydlu
gweithdrefnau gwerth arian gan gynnwys trin a thrafod diffygion
mewn gwasanaethau adeiladu/peirianneg a phennu blaenoriaethau.
 Gan fod y swyddogion yn rhan o gwmni ymgynghorol sy'n codi
elw ar ran y cyngor, mae marchnata'n rhan bwysig o'u rôl.  Mae
angen iddyn nhw hybu eu gwasanaethau ymhlith ysgolion a chyrff
allanol i ennill gwaith a chyfrannu incwm i'r cyngor.  Wrth
lywio prosiectau, maen nhw'n gyfrifol am oruchwylio staff technegol
a gweinyddol is, hefyd.  Gallai fod angen wynebu pobl ddig a
sarhaus wrth drin a thrafod mater megis gorfodi rhywun i adnewyddu
adeilad neu gondemnio adeilad anniogel, hefyd.
Medrau a diddordebau
 Mae angen y canlynol:
- medrau arwain;
 
- rhifedd a llythrennedd;
 
- craffter ystadegol ac ariannol;
 
- gallu cyfathrebu'n dda ar lafar a thrwy lythyr fel ei
gilydd;
 
- gallu trin a thrafod pobl o bob lliw a llun;
 
- bod yn heini;
 
- medrau tynnu lluniau gan gynnwys cynllunio â chymorth
cyfrifiadur;
 
- medrau cyflwyno a marchnata;
 
- deall natur y gwasanaethau, y deunyddiau a'r deddfau ym maes
adeiladu
 
Meini prawf ymgeisio
 Fel arfer, bydd angen gradd prifysgol neu gymhwyster
cyfwerth ym maes adeiladu, tirfesur, peirianneg, cynnal a chadw ac
ati.  Ynglŷn â pheirianneg, gallai fod angen Tystysgrif
Genedlaethol Uwch neu gymhwyster crefftwr.  Bydd disgwyl ichi
barhau i ddatblygu'n broffesiynol.  Bydd aelodaeth o gorff
proffesiynol perthnasol o gymorth, hefyd.
Mae profiad o gyfarwyddo contractwyr a staff technegol,
goruchwylio adeiladwyr ar safleoedd a thrin a thrafod gwasanaethau
adeiladu, dulliau cynnal a chadw, crefftwyr, syrfewyr ac ati yn
hanfodol.  Byddai profiad yn y byd masnachol o fantais,
hefyd.
Gobeithion a chyfleoedd yn y dyfodol
 Mae sawl cyfle i fynd ymlaen ynglŷn â gwasanaethau
peirianneg adeiladu, cynnal a chadw a thirfesur gan gynnwys
cynllunio, gosod ac adeiladu yn ogystal â rheoli ystadau (eiddo,
asedion a chyfleusterau).  Y cam nesaf yn y swydd hon fyddai
prif swyddog cynnal a chadw adeiladau.  Mae cyfleon cyffelyb
yn y sector preifat, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
 SummitSkills: www.summitskills.org.uk 
 Gyrfaoedd ym maes adeiladu: www.careersinconstruction.com 
 Medrau adeiladu: www.citb.co.uk 
 Sefydliad Breiniol Adeiladu: www.ciob.org.uk 
 Cymdeithas Peirianwyr Adeiladu: www.abe.org.uk 
 Sefydliad Breiniol Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu: www.cibse.org 
 Medrau asedion: www.assetskills.org 
 Cylchgrawn gwasanaethau adeiladu: www.modbs.co.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/)
y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol. 
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/