Cyflwyniad
Mae'r cynghorau wedi buddsoddi cryn dipyn mewn
adeiladau. Maen nhw'n berchen ar yr adeiladau lle mae eu
swyddfeydd gweinyddu (neuadd y ddinas neu'r ganolfan ddinesig) yn
ogystal â llyfrgelloedd, amgueddfeydd, canolfannau
hamdden/adloniant, tai cymdeithasol, fflatiau a thai lloches.
Rhaid i rywun ofalu bod pob adeilad yn ddiogel ac mewn cyflwr da
wrth ei adeiladu a'i gynnal a'i gadw fel ei gilydd. Staff y
gwasanaethau adeiladu sy'n gyfrifol am eu cynnal a'u cadw.
Mae peiriannydd y gwasanaethau adeiladu'n arbenigwr ym maes
peirianneg fecanyddol a thrydanol ymhlith y staff hynny.
Mae'r gwaith yn debyg i'r hyn mae peirianwyr sustemau gwresogi a
chynorthwywyr technegol (mecanyddol) yn ei wneud.
Amgylchiadau'r gwaith
Er bod angen treulio peth amser yn y swyddfa, byddwch
chi'n treulio'r rhan fwyaf o'r dydd ar amryw safleoedd lle mae
gwaith adeiladu neu adnewyddu'r cyngor yn mynd rhagddo. 37
awr yw'r wythnos safonol, er bod angen peth hyblygrwydd. Mae
angen gweithio fin nos a thros y Sul weithiau i gadw golwg ar waith
adeiladu neu ymateb i argyfyngau pan fo larwm yn canu. Mae
dillad diogelu ar gael a bydd y peiriannydd yn cario amryw offer.
Gall y gwaith fod yn frwnt, weithiau.
Gweithgareddau beunyddiol
Ar y cyfan, bydd peirianwyr gwasanaethau adeiladu'n
ymwneud â phrosiectau codi tai trwy reoli'r gwasanaethau perthnasol
- gan gynnwys pennu gofynion a chyflawni gorchwylion archwilio ar
safleoedd. Maen nhw'n gyfrifol am oruchwylio cytundebau
ynglŷn â gosod sustemau gwresogi a gwifrau trydanol a phrofi
sustemau trydanol tai'r cyngor. Mae gofyn iddyn nhw fonitro
sustemau'r adeiladau cyfredol, hefyd.
Gallan nhw ddechrau'r dydd yn y swyddfa lle byddan nhw'n
ymbaratoi trwy astudio cynlluniau adeiladu, penderfynu pa offer y
bydd angen eu gosod, pennu costau a chwrdd â phobl eraill sy'n
ymwneud â'r prosiect. Byddan nhw'n ysgrifennu gofynion ynglŷn
â'r modd y dylai trydanwyr a phlymwyr gyflawni'r gwaith, pa
ddeunyddiau y dylen nhw eu gosod a faint o amser y bydd ei eisiau i
orffen y gwaith. Efallai y bydd rhaid ymweld â safle wedyn i
gwrdd â rheolwyr ac archwilio gwaith. Byddan nhw'n cadw golwg
ar y cynnydd, yn nodi gwallau ac yn rhoi sêl eu bendith ar y gwaith
yn y diwedd os ydyn nhw'n fodlon arno - gan gynnwys asesu a yw
wedi'i gyflawni yn ôl y gyllideb. Wedi hynny, gall y cyngor
dalu pawb fu'n ymwneud â'r prosiect - y rhai a wnaeth yr adeiladu
a'r rhai a ddaeth â'r deunyddiau a'r offer. Gall problemau
godi'n annisgwyl, fodd bynnag. Rhaid ymateb yn brydlon i
unrhyw argyfwng megis tân neu ddiffyg gwresogi/goleuo mewn adeilad
ac, wrth wneud hynny, efallai y bydd angen defnyddio staff o rywle
arall. Rhaid cofnodi popeth o'r fath sy'n digwydd a monitro
hynt y gwaith, gan roi gwybod i reolwyr am unrhyw broblemau
difrifol sy'n effeithio ar rannau eraill o'r prosiect a'u rhybuddio
os daw i'r amlwg y bydd gorwario mawr o ran y gwaith trydanol a
mecanyddol.
Medrau a diddordebau
Dyma'r rhai hanfodol:
- medrau tynnu cynlluniau;
- gallu pennu gofynion;
- gallu gweithio mewn tîm;
- gallu trin a thrafod pobl;
- rhifedd - ar gyfer llunio gwasanaethau;
- gallu technegol;
- gallu defnyddio cyfrifiaduron gan gynnwys rhaglenni CAD;
- craffter ariannol.
Meini prawf ymgeisio
Mae angen Tystysgrif Genedlaethol Uwch - er bod sawl
cyngor yn mynnu gradd - yn ogystal ag o leiaf bum mlynedd o brofiad
mewn swydd gyffelyb.
Gobeithion a cyfleoedd yn y dyfodol
Bydd rhagor o hyfforddiant ar gael ichi ac, ar ôl ennill
cymhwyster addas, gallech chi ymgeisio am swyddi uwch ym meysydd
peirianneg adeiladu, draenio, gwresogi neu beirianneg cynnal a
chadw. Mae'n bosibl cael eich dyrchafu'n rheolwr ym meysydd
rheoli gwaith adeiladu, gwasanaeth gweithredol a gwasanaethau
technegol ac arbenigol, hefyd.
Rhagor o wybodaeth a gwasanaethau
SummitSkills: www.summitskills.org.uk
Sefydliad Breiniol Peirianwyr Gwasanaethau Adeiladu: www.cibse.org
Cymdeithas Peirianwyr Adeiladu: www.abe.org.uk
Medrau asedion: www.assetskills.org
Cylchgrawn gwasanaethau adeiladu: www.modbs.co.uk
Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y maes hwn trwy wefan
Gyrfaoedd Cymru (www.careerswales.com/)
y llyfrgell leol, swyddfa gyrfaoedd eich bro neu lyfrgell eich
ysgol.
Mae Gyrfa Cymru wedi cynhyrchu Sbotolau erthygl ar yrfaoedd mewn
STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg): https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-stem/ ac
adeiladu: https://www.careerswales.com/cy/golwg-ar-adeiladu/